Mae'r Athro Serena Margadonna o Brifysgol Abertawe wedi cael ei henwi ymhlith y 50 o fenywod disgleiriaf ym maes peirianneg (WE50) yn y DU gan WES (Women's Engineering Society).
Cynhelir y dyfarniadau WE50 blynyddol ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg, sef 23 Mehefin, sydd eleni'n dathlu dyfeiswyr ac arloeswyr sy'n gallu dychmygu'r dyfodol.
Mae'r dyfarniad – mewn cydweithrediad â The Guardian a Ball Corporation, sy’n cyflenwi deunydd pacio’n fyd-eang – yn cydnabod y menywod gorau a disgleiriaf yn y sector peirianneg.
Mae’n dathlu’r rhai sy'n nodi anghenion nas diwallwyd ac yn mynd ati'n bwrpasol i ddod o hyd i ateb neu wella cynhyrchion a phrosesau presennol er mwyn gwneud ein bywydau'n haws.
Mae'r Athro Margadonna yn Athro Cadeiriol mewn Peirianneg Gemegol yn ogystal â bod yn Bennaeth yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae ei gwaith wedi cael ei ysbrydoli gan y ddealltwriaeth syml bod gwelliannau technolegol mawr yn gofyn am ymchwil wirioneddol amlddisgyblaethol sy'n datblygu, yn ymaddasu ac yn arloesi'n barhaus.
Gan ddilyn yr ethos hwn, mewn cydweithrediad â phartneriaid diwydiannol, mae'r Athro Margadonna wrthi'n hwyluso'r broses o fasnacheiddio batris cynaliadwy y gellir eu hailwefru at ddibenion trydaneiddio trafnidiaeth.
Ei gweledigaeth yw cyfrannu at economi werdd drwy ddatblygu batris sy'n defnyddio deunyddiau toreithiog sydd ar gael yn eang, gyda'r nod o'u hailgylchu.
Meddai'r Athro Margadonna: “Mae'n anrhydedd anferth cael fy enwi gan WES ymhlith y 50 o fenywod disgleiriaf ym maes peirianneg eleni yn y categori: Dyfeiswyr ac Arloeswyr.
“Mae arloesi ym maes peirianneg yn sylfaenol wrth ddod o hyd i atebion i'r her sero-net fyd-eang, ac mae'r dyfarniadau hyn yn amlygu'r effaith sylweddol y mae menywod mewn peirianneg yn ei chael er mwyn sicrhau cymdeithas fwy cynaliadwy a theg.”
Derbyniodd WES safon uchel iawn o enwebiadau eleni, gan arwain at roi cymeradwyaeth uchel i 100 o enwebeion, megis yr Athro Cinzia Giannetti o Brifysgol Abertawe.
Drwy ei gwaith ymchwil, mae'r Athro Giannetti, Athro Cysylltiol mewn Peirianneg Fecanyddol, yn archwilio technegau dysgu peirianyddol newydd ac yn datblygu pecynnau cymorth arloesol i ysgogi byd diwydiant i fabwysiadu ac integreiddio deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol yn effeithiol.
Mae'r Athro Giannetti yn gweithio'n agos gyda phartneriaid diwydiannol i'w helpu i ddigideiddio rhagor o'u prosesau, gan wella ansawdd cynhyrchion, lleihau gwastraff a chostau diangen, a chyfrannu at systemau gweithgynhyrchu cynaliadwy.
Meddai'r Athro Giannetti: “Rwyf wrth fy modd i fod yn un o'r 100 o enwebeion i gael cymeradwyaeth uchel yn y dyfarniadau WE50.
“Mae gweithio ym maes peirianneg, mewn ymchwil ac addysgu, yn yrfa wobrwyol sy'n ein galluogi i wneud newidiadau cadarnhaol i'n cymdeithas drwy ddatblygu technolegau ac adnoddau arloesol.
“Rwy'n ddiolchgar fy mod yn gwneud cyfraniad at fynd i'r afael â heriau byd-eang megis newid yn yr hinsawdd, datblygu technolegau prosesu glanach a chreu cyfleoedd newydd ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy a theg.
“Fel addysgwr, rwy'n frwd dros greu a meithrin cymuned gynhwysol er mwyn sicrhau bod gennym gronfa fawr o bobl dalentog o gefndiroedd a safbwyntiau amrywiol ym maes peirianneg. Dim ond drwy wneud hyn y gallwn ni arloesi'n gyfrifol a chreu atebion a all sicrhau buddion cymdeithasol go iawn.”
Bydd WES yn cynnal seremoni wobrwyo ddydd Gwener 24 Mehefin 2022.