Daeth ymchwilwyr doethurol ac academyddion sy'n gysylltiedig â dwy ganolfan hyfforddiant doethurol mewn deallusrwydd artiffisial a gwyddor data ynghyd i rannu syniadau yng Nghynhadledd Deallusrwydd Artiffisial 2022.
Roedd y rhai a gymerodd ran yn y digwyddiad dau ddiwrnod am ddim yn Ffowndri Gyfrifiadol Prifysgol Abertawe yn cynnwys ymchwilwyr doethurol, goruchwylwyr, partneriaid o gynghorau ymchwil a rhai masnachol sy'n gysylltiedig â Chanolfan Hyfforddiant Doethurol Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) mewn Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol a Chyfrifiadura Uwch (AIMLAC) a Chanolfan Hyfforddiant Doethurol y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC) mewn Gwyddor Data Dwys.
Yn bresennol hefyd roedd ymchwilwyr sy'n gysylltiedig â phrifysgolion partner y canolfannau hyfforddiant doethurol, gan gynnwys Prifysgol Abertawe, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Bryste a Phrifysgol Caerdydd.
Roedd siaradwyr o Amplyfi, Elzware, Mobileum, Oracle a Dŵr Cymru yn cynrychioli partneriaid allanol.
Rhoddodd y gynhadledd gyfle i'r cyfranogwyr i ddysgu am y gwaith diweddaraf ym maes deallusrwydd artiffisial dan dair thema allweddol:
- Dyfodol deallusrwydd artiffisial;
- Ffyrdd o roi deallusrwydd artiffisial ar waith; ac
- Effaith deallusrwydd artiffisial.
Roedd y rhaglen yn cynnwys prynhawn wedi'i neilltuo i Gyflymydd Cenedl Ddata Cymru (WDNA), a gyflwynwyd gan arweinydd y prosiect, yr Athro Roger Whitaker o Brifysgol Caerdydd, yn ogystal â sesiwn rwydweithio gan Sefydliad Alan Turing ar ehangu galluoedd deallusrwydd artiffisial a data.
Hefyd, croesawodd y gynhadledd bum ymwelydd o Seoul yn Ne Corea, fel rhan o raglen gyfnewid ar ddeallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol mewn gwyddoniaeth sylfaenol, wedi'i hariannu gan Sefydliad Ymchwil Cenedlaethol Corea, Llysgenhadaeth Prydain yn Seoul, a Rhwydwaith Gwyddoniaeth ac Arloesi'r DU.
Fel rhan o raglen y canolfannau hyfforddiant doethurol, gwahoddwyd ymchwilwyr doethurol i gyd-drefnu'r gynhadledd, gan eu helpu i ddatblygu eu sgiliau trefnu ac arwain.
Meddai Tonicha Crook, un o'r myfyrwyr a fu'n trefnu'r gynhadledd: "Roedd dysgu am yr hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni mewn cynhadledd fel hon yn gyfle gwych.
“Mae'n destun boddhad gwybod bod y cyfan wedi mynd rhagddo'n hwylus, ac rwy'n ddiolchgar am y profiad, a oedd yn cynnwys y cyfle i gadeirio sesiwn!”
Ychwanegodd Tabitha Lewis, un o'r trefnwyr eraill sy’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe : “Mae bod yn rhan o'r tîm trefnu wedi bod yn brofiad unigryw a chadarnhaol.
“Yn ogystal â fy helpu i ddatblygu fy sgiliau, roedd gweld y cynrychiolwyr yn mwynhau'r digwyddiad yn cadarnhau bod yr holl waith caled yn werth yr ymdrech.
“Rwy'n gobeithio y bydd llawer o gynadleddau AIMLAC eraill yn dilyn yr un gyntaf hon!”
Meddai'r Athro Gert Aarts, Cyfarwyddwr Canolfan Hyfforddiant Doethurol AIMLAC: “Ar ôl gohirio'r gynhadledd wreiddiol yn 2020 o ganlyniad i'r pandemig, rwy'n hynod falch ein bod wedi llwyddo o'r diwedd i ddod â chynifer o bobl ynghyd wyneb yn wyneb, gan hwyluso trafodaethau ysgogol a chyfleoedd i rwydweithio.
“Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at ddatblygu mentrau newydd sydd wedi deillio o'r gynhadledd.”
Ceir rhagor o wybodaeth am y gynhadledd, gan gynnwys y rhaglen swyddogol, drwy fynd i wefan AIMLAC.