Mae megalodon a ddarganfuwyd yn y 1860au wedi galluogi tîm rhyngwladol o wyddonwyr dan arweiniad Prifysgol Zurich, Prifysgol Abertawe a'r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol i greu'r model 3D mwyaf cyflawn hyd yn hyn o fegalodon – y siarc mwyaf sydd wedi byw erioed.
Mae gan siarcod ysgerbwd cartilagaidd meddal – mae eu hesgyrn yn fwy tebyg i drwyn person na morddwyd – felly, mae'n annhebygol y byddai eu gweddillion yn ffosileiddio, gan olygu mai prin yw’r dystiolaeth heblaw am weddillion deintyddol i astudio'r megalodon darfodedig.
Serch hynny, yn groes i'r disgwyl, gwnaeth cyfran helaeth o asgwrn cefn megalodon ffosileiddio ar ôl i'r creadur farw'n 46 oed yng nghefnforoedd Mïosen Gwlad Belg oddeutu 18 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Dyma esboniad Jack Cooper, prif awdur yr astudiaeth a myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae dannedd siarcod yn ffosiliau cyffredin oherwydd eu cyfansoddiad caled, sy'n eu cadw mewn cyflwr da. Fodd bynnag, mae eu hysgerbydau'n llawn cartilag, ac yn anaml y byddan nhw'n ffosileiddio. Felly, mae asgwrn cefn y megalodon o Sefydliad Gwyddorau Naturiol Gwlad Belg yn ffosil heb ei debyg sydd wedi ein galluogi i gynnal yr astudiaeth unigryw hon a chreu'r model 3D.”
Datgelodd canlyniadau'r model 3D o'r megalodon penodol hwn yr wybodaeth ganlynol:
- Roedd yn 16 metr o hyd.
- Roedd yn pwyso mwy na 61 dunnell.
- Gallai nofio oddeutu 1.4 metr yr eiliad.
- Roedd angen bron 100,000 o galorïau arno bob dydd.
- Oddeutu 10,000 litr oedd maint ei stumog.
Mae'r canlyniadau hefyd yn awgrymu y gallai'r megalodon deithio'n bell iawn ac y gallai fwyta ysglyfaethau cyfan hyd at wyth metr o hyd – yr un maint â morfilod danheddog modern, sef ysglyfaethwr cefnforol mwyaf ein hoes.
Yn gyntaf, defnyddiodd aelodau'r tîm ymchwil, sy'n cynnwys ymchwilwyr o'r Swistir, y DU, Unol Daleithiau America, Awstralia a De Affrica, sganiau 3D o'r ffosil o Wlad Belg er mwyn ail-lunio'r asgwrn cefn, gan ei chwyddo i faint go iawn. Yna gwnaethant ail-greu penglog megalodon, gan ddefnyddio sgan 3D a oedd eisoes yn bodoli o benglog morgi mawr gwyn, a gafodd ei chwyddo a'i ffitio â sganiau 3D o ddannedd megalodon. Cafodd y benglog ei chysylltu â'r asgwrn cefn, gan roi model sylfaen o benglog megalodon. Defnyddiwyd sgan 3D o gorff cyfan morgi mawr gwyn er mwyn ychwanegu cnawd at ysgerbwd y megalodon, gan greu model 3D llawn o'i gorff cyfan.
“Mae pwysau'n un o briodweddau pwysicaf unrhyw anifail. Yn achos anifeiliaid darfodedig, gallwn ni ddefnyddio dulliau modelu 3D modern er mwyn amcangyfrif màs y corff ac yna ganfod y berthynas rhwng màs a phriodweddau biolegol eraill megis cyflymder a'r defnydd o ynni,” meddai un o'r cyd-awduron, yr Athro John Hutchinson o'r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol yn y DU.
Er mwyn bodloni gofynion ynni o'r fath, rhaid bod y megalodon wedi bwyta creaduriaid llawn calorïau fel mamaliaid morol, y mae'n hysbys bod ganddynt gnawd llawn calorïau. Efallai y byddai bwyta morfilod o faint tebyg i forfilod danheddog modern wedi galluogi'r siarc i nofio filoedd o filltiroedd ar draws cefnforoedd heb fwyta eto am ddeufis.
Meddai uwch-awdur yr astudiaeth, Catalina Pimiento, Athro ym Mhrifysgol Zurich ac Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae'r canlyniadau hyn yn awgrymu bod y siarc mawr hwn yn ysglyfaethwr trawsforol o'r radd flaenaf. Mae'n debygol y cafodd tranc y siarc mawr eiconig hwn effaith ar gludiant byd-eang maethynnau, gan ryddhau morfilod mawr rhag pwysau ysglyfaethus cryf.”
Gellir defnyddio'r model 3D cyflawn bellach fel sylfaen ar gyfer modelau yn y dyfodol a rhagor o ymchwil wyddonol. Mae'r casgliadau biolegol newydd sy'n deillio o'r astudiaeth hon yn hybu ein gwybodaeth am yr ysglyfaethwr mawr unigryw ac yn helpu i feithrin dealltwriaeth well o gyfraniad ecolegol rhywogaethau ffawna mawr at ecosystemau morol, a chanlyniadau pellgyrhaeddol eu tranc.