Mae Laura Morris, athrawes Saesneg o Gaerffili, wedi ennill Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2022 am ei stori ‘Cree’, sydd, yn ôl y beirniad gwadd, Rachel Trezise, “yn frith o bruddglwyf hudolus ac yn gorlifo â hyder beiddgar”.
Mae'r gystadleuaeth yn cydnabod y straeon byrion Saesneg gorau oll sydd heb eu cyhoeddi mewn unrhyw arddull ac ar unrhyw bwnc hyd at uchafswm o 5,000 o eiriau gan awduron 18 oed neu'n hŷn a anwyd yng Nghymru, sydd wedi byw yng Nghymru am ddwy flynedd neu fwy, neu sy'n byw yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae ‘Cree’ yn stori am y cyfeillgarwch anghonfensiynol rhwng Meryl Williams, athrawes ysgol iau 55 oed, a Ben, ei disgybl ifanc. Gydag arolygiad ysgol yn nesáu, mae Meryl a Ben yn adeiladu peiriant amser yn yr ystafell ddosbarth, yn y gobaith o greu argraff. Mae Meryl yn teimlo bod ei bywyd yn dirwyn i ben fel “tywod drwy awrwydr”, ond mae caredigrwydd Ben yn cynnig man diogel iddi, ei fersiwn ei hun o ‘Cree’.
Enillodd Laura, 43 oed, MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Bangor. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi gan Wasg Honno a'i ddarlledu ar BBC Radio 4. Mae ei straeon byrion diweddar wedi cael eu cyhoeddi yn The Lonely Crowd a Banshee. Mae bellach yn byw yng Nghaerdydd lle mai hi yw Pennaeth Saesneg Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern.
Sefydlwyd Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies ym 1991 ac fe'i cynhaliwyd naw gwaith hyd yn hyn. Ail-lansiwyd y gystadleuaeth gan Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe ar ran Ymddiriedolaeth Rhys Davies yn 2021, mewn cydweithrediad â Parthian Books.
Mae Laura'n ennill £1,000 ac mae ei chynnig buddugol wedi cael ei gynnwys yn The Rhys Davies Short Story Award Anthology 2022, a gyhoeddir gan Parthian ym mis Hydref. Bydd straeon yr 11 awdur arall a gyrhaeddodd y rhestr fer yn y gystadleuaeth eleni hefyd yn rhan o'r antholeg.
Meddai'r beirniad gwadd eleni, y nofelydd a'r dramodydd arobryn Rachel Trezise: “Mae ‘Cree’ gan Laura Morris yn frith o bruddglwyf hudolus ac yn gorlifo â hyder beiddgar. Mae ei naws aeddfed wedi aros yn hir yn fy nghof, gan ddod â'r stori'n fyw eto, er ei bod yn chwerwfelys, dro ar ôl tro.”
Wrth dderbyn y wobr, meddai Laura: “Cafodd straeon byrion Rhys Davies eu cyflwyno i mi yn y brifysgol, pan oeddwn i newydd ddechrau ysgrifennu. Mae portreadau Davies o fenywod yn parhau i fy nghyfareddu, gan fod menywod a benyweidd-dra yn ganolog i fy straeon fy hun. Rwy'n hynod falch bod fy stori fer ‘Cree’ wedi ennill y wobr hon, ond rwyf hyd yn oed yn fwy balch o brif gymeriad y stori, Meryl, gan nad yw hi byth wedi ennill unrhyw beth! Mae'n anrhydedd derbyn y gydnabyddiaeth hon gan Rachel Trezise, awdures rwy'n edmygu ei gwaith.”
Roedd Rhys Davies, a anwyd ym Mlaenclydach yng Nghwm Rhondda ym 1901, yn un o ysgrifenwyr rhyddiaith Saesneg mwyaf ymroddedig, toreithiog a dawnus Cymru. At ei gilydd, ysgrifennodd dros gant o straeon, ugain nofel, tair nofel fer, dau lyfr topograffaidd am Gymru, dwy ddrama a hunangofiant.
Bydd Rachel Trezise, y beirniad gwadd, Elaine Canning, y golygydd, Laura Morris, yr enillydd cyffredinol, a'r rhai a gyrhaeddodd restr fer Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2022 yn siarad am y casgliad a ffurf y stori fer pan gaiff yr antholeg ei lansio yn Waterstones nos Iau 13 Hydref am 6.30pm.