Mae plant sy'n derbyn llyfrau gan yr Imagination Library, a sefydlwyd gan y gantores eiconig Dolly Parton, yn darllen yn amlach ac yn cael canlyniadau gwell na'u cyfoedion mewn asesiadau darllen a datblygu, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe.
Mae'r rhaglen yn ymrwymedig i ennyn brwdfrydedd plant dros ddarllen drwy roi llyfrau iddynt am ddim. Bob mis, mae plant sydd wedi'u cofrestru o adeg geni hyd at bump oed yn derbyn llyfr o safon uchel sy'n briodol i'w hoedran drwy'r post.
Hyd yn hyn, mae'r llyfrgell wedi rhoi mwy na 185 miliwn o lyfrau i blant mewn pum gwlad, gan gynnwys y DU. Mae'r llyfrau'n cynnwys straeon a rhigymau traddodiadol, llyfrau gan awduron a darlunwyr poblogaidd iawn, cynnwys ffeithiol, a chyfrolau newydd eu cyhoeddi.
Nod ymchwil Abertawe, a ariannwyd ar y cyd gan The Dollywood Foundation yn y DU a Phrifysgol Abertawe, oedd deall pa effaith roedd y cynllun yn ei chael.
Yn benodol, roedd yr ymchwil yn ystyried ei effaith ar arferion rhieni a'u barn am ddarllen ar y cyd, ac effaith darllen ar y cyd ar blant. Dyma'r ymchwiliad academaidd mwyaf i effeithiolrwydd yr Imagination Library yr ymgymerwyd ag ef erioed yn unrhyw le yn y byd.
Cynhaliodd Dr Caroline Zwierzchowska-Dod, o Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod Prifysgol Abertawe, yr ymchwil ar gyfer ei PhD, dan gyfarwyddyd yr Athro Janet Goodall.
Ymgymerodd â'r arolwg mwyaf erioed yn y DU o farn rhieni am ddarllen gyda phlant hyd at bump oed. Defnyddiodd ganlyniadau'r arolwg hwn, ynghyd â data cyrhaeddiad ysgolion, cyfweliadau ac arolwg o rieni lleol o ardal – gogledd Swydd Lincoln – lle mae'r Imagination Library (IL) wedi bod yn gweithredu'n llwyddiannus ers mwy na phum mlynedd.
Dangosodd yr ymchwil y canlynol:
• Roedd rhieni a oedd yn derbyn llyfrau'r IL 30% yn fwy tebygol o ddarllen bob dydd gyda'u plentyn na rhieni nad oeddent yn rhan o'r rhaglen
• Roedd plant a fu yn yr IL ers mwy na blwyddyn 40% yn fwy tebygol o gyflawni safon “Lefel Dda o Ddatblygiad”, a 54% yn fwy tebygol o gyflawni'r Nod Dysgu Cynnar am ddarllen, o'u cymharu â phlant â nodweddion tebyg nad oeddent yn rhan o raglen yr IR.
• O ganlyniad i hyn, bu cynnydd gwerth 5.7% a 6.7% yn y drefn honno yn nifer y plant a oedd yn cyrraedd y lefelau cyrhaeddiad hyn yng ngogledd Swydd Lincoln.
• Roedd 88% o'r teuluoedd a arolygwyd yn credu eu bod yn darllen yn fwy o ganlyniad i fod yn rhan o raglen yr IL.
• Roedd 82% o'r ymatebwyr yn credu na fyddent wedi prynu cynifer o lyfrau fel arall; roedd hyn yn wir am yr holl rieni, ond roedd yr effaith fwyaf ar rieni â llai o adnoddau.
• Roedd y rhieni'n gwerthfawrogi cael mynediad at fwy o lyfrau, amrywiaeth yr awduron a'r cymorth a gawsant i ddarllen yn aml gyda'u plentyn.
• Meithrin cysylltiad â'u plentyn oedd budd allweddol rhannu llyfrau a nodwyd gan y rhieni.
Meddai un rhiant a fu'n rhan o'r arolwg:
“Mae fy mab yn rhedeg i wirio'r post a phan fydd llyfr yn cyrraedd, mae'n gofyn 'Ai dyma lyfr i fi gan Dolly Parton?’”
Meddai Dr Caroline Zwierzchowska-Dod o Brifysgol Abertawe, a gynhaliodd yr ymchwil:
Dangosodd yr ymchwil fod y cynllun yn darparu mathau gwahanol o fuddion, i blant a rhieni fel ei gilydd.
Roedd plant a oedd yn derbyn llyfrau gan yr Imagination Library yn llawer mwy tebygol na'u cyfoedion o gyflawni cerrig milltir academaidd pwysig. Roedden nhw hefyd yn fwy tebygol o ddarllen yn amlach gyda'u rhieni. Roedd hyn yn cryfhau cysylltiadau rhwng rhieni a phlant a nododd y rhieni fod hynny'n fudd mawr, gan eu helpu i ddysgu mwy am eu plentyn.
Yn ogystal, cyflwynwyd awduron newydd i gartrefi drwy'r detholiad o lyfrau wedi'u curadu ac roedd y rhieni'n gwerthfawrogi hynny'n fawr.”
Meddai Marion Gillooly, Cyfarwyddwr Gweithredol The Dollywood Foundation yn y DU:
“Mae'r ymchwil hon yn destun cyffro mawr i ni. Rydyn ni'n derbyn adborth rheolaidd gan deuluoedd bod plant yn dwlu ar gael llyfr drwy'r post bob mis, a bod cyffro mawr bob tro y bydd llyfr yn cyrraedd.
Mae'n wych bod gennym y dystiolaeth gadarn hon o'r DU bellach i ddangos bod teuluoedd sy'n cymryd rhan yn yr Imagination Library yn darllen yn amlach gyda'u plant, eu bod nhw'n fwy tebygol o ddarllen bob dydd, a bod eu plant yn fwy tebygol o gyflawni cerrig milltir dysgu allweddol. Efallai hyd yn oed yn fwy arwyddocaol na hynny yw'r dystiolaeth gan rieni a gofalwyr bod meithrin cysylltiad â'u plentyn yn un o fuddion allweddol yr Imagination Library.
Mae Dolly Parton yn dweud yn aml ei bod hi'n amhosib rhoi digon o lyfrau yn nwylo digon o blant, ac rwy'n cytuno'n llwyr.”
Ar hyn o bryd, mae Dr Zwierzchowska-Dod yn creu animeiddiad i rannu buddion buddsoddi yn rhaglen yr IL, ochr yn ochr â deunyddiau i blant, rhieni, addysgwyr ac academyddion eraill.