Mae taith gerdded ar y traeth i godi arian ac ymwybyddiaeth o hunanladdiad ymhlith pobl ifanc yn dychwelyd i Abertawe'n hwyrach y mis hwn.
Mae Gwasanaeth Lles Prifysgol Abertawe'n cynnig digwyddiad HOPEWALK 2022 ddydd Sul, 30 Hydref ar gyfer PAPYRUS, yr elusen atal hunanladdiad sy'n cynnig cymorth a chyngor cyfrinachol i bobl ifanc.
Dyma'r pedwerydd tro y mae'r Brifysgol wedi trefnu taith gerdded tair milltir ar y traeth a fydd yn dechrau ac yn gorffen yn The Secret Bar and Kitchen ar Heol Ystumllwynarth. Dylai unrhyw un sy'n dymuno cymryd rhan gwrdd yno am 10am.
Gwnaeth bron 100 o bobl ymuno â'r digwyddiad cyntaf yn 2019 ac yn ystod Covid, gwnaeth cerddwyr a wnaeth gadw pellter cymdeithasol fynd i leoliadau o'u dewis gan gasglu bron £1,000.
Eleni, mae'r Gwasanaeth Lles yn gobeithio y bydd aelodau'r Brifysgol a'r gymuned leol yn dod i gefnogi unwaith eto.
Meddai Holly Fisher, Rheolwr Lles ac Anableddau Prifysgol Abertawe:"Rydym yn dibynnu ar gysylltu ein myfyrwyr â PAPYRUS am gyngor, cymorth a gwybodaeth arbenigol am hunanladdiad. Mae'r gwaith maen nhw'n ei wneud ar gyfer pobl ifanc yn hollbwysig ac rydym yn falch o barhau â'n partneriaeth a chodi ymwybyddiaeth gyda'r digwyddiad hwn".
Meddai David Heald, Rheolwr Ardal PAPYRUS: "Hunanladdiad yw prif laddwr pobl ifanc dan 35 oed yn y DU a rhaid i ni leihau nifer y bobl ifanc sy'n lladd eu hunain drwy chwalu'r stigma o ran hunanladdiad ac arfogi pobl â'r sgiliau i gydnabod ac ymateb i ymddygiad hunanladdiad.
"Mae digwyddiadau HOPEWALKS yn codi arian ac ymwybyddiaeth i'n helpu ni i barhau â'r gwaith hwn gan gefnogi pobl ifanc a'r rhai sy'n gweithio gyda nhw. Rydym yn ddiolchgar i Brifysgol Abertawe am ein partneriaeth barhaus sy'n helpu i arbed bywydau ifanc gyda'n gilydd".
Yn ystod mis Hydref, cynhelir digwyddiadau HOPEWALK ledled y DU i godi ymwybyddiaeth o hunanladdiad ymhlith pobl ifanc.
Cofrestrwch nawr ar gyfer y digwyddiad yn Abertawe neu gallwch gyfrannu at PAPYRUS drwy JustGiving
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Carl Ely