Mae menter gydweithredol rhwng Prifysgol Abertawe ac Aspire2Be, sef iBroadcast wedi cael ei henwi'n bartneriaeth orau'r flwyddyn rhwng y byd academaidd a busnes yng Ngwobrau Technoleg Cymru 2022.
Sylfaenwyd Gwobrau Technoleg Cymru, sydd yn eu hwythfed flwyddyn bellach, gan Technology Connected i anrhydeddu'r unigolion a'r sefydliadau mwyaf dawnus a blaengar yn y diwydiant bywiog hwn.
Mae'r rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer am wobr partneriaeth orau’r flwyddyn rhwng y byd academaidd a busnes yn enghreifftiau gwych o'r ffordd y gall gweithio mewn tîm hybu ymchwil ac arloesi a datblygu gwasanaethau neu gynhyrchion arloesol newydd.
Addaswyd iBroadcast – menter addysg gan Aspire2BE a gynlluniwyd mewn partneriaeth â Sean Holley – ar gyfer addysg uwch ar y cyd ag Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe i wella hyfforddiant seiliedig ar waith.
Gan fanteisio ar sgiliau'r darlledwr chwaraeon adnabyddus Sean Holley, mae'r prosiect yn helpu myfyrwyr i gael profiad yn sector cystadleuol y cyfryngau a darlledu drwy gyfres o sesiynau sy'n hyrwyddo cyfathrebu, cydweithredu a chyflwyno.
Yn ddiweddar, mae'r prosiect, sydd yn ei bumed flwyddyn bellach, wedi cael ei drawsnewid yn ddigidol; gydag adnoddau gweithio cydweithredol ar-lein newydd i hyfforddi myfyrwyr, mae'r prosiect yn fwy hygyrch nag erioed.
Meddai Lucy Griffiths, Pennaeth Academi Cyflogadwyedd Abertawe: “Rwy'n falch bod ein cydweithrediad tymor hir ag Aspire2Be wedi cael ei gydnabod yn y gwobrau uchel eu bri hyn yng Nghymru.
“Mae dod o hyd i atebion digidol, gwella sgiliau digidol a datblygu cyflogadwyedd bob amser wrth wraidd Academi Cyflogadwyedd Abertawe, ac mae'r prosiect hwn yn ymgorffori'r rhain. Dros y blynyddoedd, bu'n hyfryd gweld y pethau gwych y mae cyn-fyfyrwyr iBroadcast yn eu cyflawni yn y pen draw – o weithio gyda'r Crysau Duon mewn rôl cysylltiadau cyhoeddus i sicrhau rôl raddedig gystadleuol gydag asiantaeth amlgyfrwng leol.
“Mae dyfodol y prosiect hwn yn destun cyffro i mi, ac mae'n wych bod y llwyddiant hwn wedi cydnabod y gwaith caled a'r brwdfrydedd sy’n sail i'r cydweithrediad hwn.”
Ychwanegodd Simon Pridham, Rheolwr Gyfarwyddwr Aspire 2Be: “Mae'n wych bod ein partneriaeth â Phrifysgol Abertawe ac Academi Cyflogadwyedd Abertawe wedi ennill gwobr arall.
“Mae wedi bod mor foddhaus gwylio rhaglen iBroadcast yn cael effaith gadarnhaol ar y prosiectau amrywiol rydym wedi eu cwblhau gyda'n gilydd, ac rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at barhau â'n partneriaeth am flynyddoedd i ddod.”
Un o'r enwebeion eraill ar gyfer y wobr hon oedd y tîm sy'n gyfrifol am Chwyldro Cylchol, yr hyb cyntaf yn y DU dan arweiniad busnes i ganolbwyntio ar feddwl mewn modd cylchol, sydd wedi cael ei gynllunio a'i ddarparu mewn partneriaeth â Riversimple, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerwysg.
Mae'r prosiect yn cynorthwyo busnesau yn ymarferol wrth iddynt newid yn llwyr ac ymaddasu i fodel busnes cylchol newydd, gan helpu Cymru i fod yn fwy cynaliadwy.
Mae'r prosiect, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, yn creu swyddi newydd, yn cefnogi busnesau ac yn gwella sgiliau yng Nghymru.
Meddai'r Athro Gavin Bunting, Arweinydd Prosiect Chwyldro Cylchol: “Mae symud i economi gylchol yn un o'r newidiadau pwysicaf y gall byd diwydiant ei gymryd er mwyn helpu'r amgylchedd.
“Mae cael ein henwebu'n cydnabod sut mae'r cydweithrediad cryf a brwdfrydig rhwng Riversimple, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerwysg yn galluogi busnesau i ymwneud ag arloesi cylchol a dysgu'r arferion diwydiannol ac academaidd gorau.
“Yn ogystal, mae'n amlygu arloesedd systemau cadwyni bloc (blockchain) a fframweithiau cyfreithiol sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang ac a fydd yn rheoli cadwyni cyflenwi cylchol mewn modd unigryw.”