Mae ymchwil gan seicolegwyr o Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe wedi canfod bod iechyd meddwl pobl wedi gwaethygu o ganlyniad i ofn COVID-19. Daeth yr astudiaeth, sydd newydd gael ei chyhoeddi yn y Journal of Health Psychology, i'r casgliad hefyd mai cyfranogwyr hŷn a phobl o leiafrifoedd ethnig oedd fwyaf tebygol o ofni COVID-19.
Archwiliodd yr ymchwilwyr effaith ofn COVID-19 ar agweddau allweddol ar les seicolegol drwy arolwg ar-lein o'r un sampl o gyfranogwyr ar ddwy adeg wahanol yn ystod y pandemig.
Cynhaliwyd yr arolwg cyntaf ym mis Chwefror 2021 pan oedd y cyfraddau marwolaethau a nifer y bobl a oedd yn cael eu derbyn i'r ysbyty bob dydd yn uwch nag ar unrhyw adeg arall yn ystod y pandemig (hyd hynny) ac roedd y cyfraddau brechu'n isel. Bryd hynny, roedd ofn COVID-19 yn rhagfynegi lefelau uwch o orbryder, iselder, pryder, unigrwydd, anawsterau cysgu a phroblemau wrth ymdopi ag ansicrwydd.
Cynhaliwyd yr ail arolwg ym mis Mehefin 2021 pan oedd y cyfraddau marwolaethau a nifer y bobl a oedd yn cael eu derbyn i'r ysbyty bob dydd yn llawer llai, ac roedd llawer o gyfranogwyr wedi cael eu brechu ddwywaith. Ar yr ail adeg hon, roedd lefelau ofn COVID-19 yn llai; fodd bynnag, roedd ofn pobl o’r feirws yn dal i ragfynegi lefelau uwch o bryder, anawsterau cysgu a phroblemau wrth ymdopi â sefyllfaoedd ansicr.
Yn hyn o beth, newidiodd effaith COVID-19, gan effeithio ar agweddau gwahanol ar les ymhlith yr un sampl o gyfranogwyr.
Meddai Dr Martyn Quigley, Darlithydd Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe, arweinydd yr astudiaeth:
“Mae'r ymchwil hon yn dangos effaith sylweddol y pandemig ar les seicolegol llawer o bobl, yn enwedig ar adegau mwyaf heriol y pandemig. Fodd bynnag, yr hyn sy'n arbennig o drawiadol yw bod ofn COVID-19 wedi parhau i gael effaith ar les pobl pan oedd yn ymddangos bod yr amgylchiadau wedi gwella'n sylweddol, gan ddangos effaith tymor hir y pandemig ar les.”
Cynhaliwyd yr ymchwil fel rhan o brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru (Sêr Cymru) i archwilio effaith COVID-19 ar les seicolegol. Yn ogystal â chynnal astudiaethau a oedd yn seiliedig ar arolygon, mae'r ymchwilwyr wedi cynnal arbrofion ar-lein a addaswyd o dasgau a ddefnyddir yn rheolaidd yn y labordy i ddarparu dangosyddion ymddygiadol o iechyd meddwl wrth i ni ddod allan o'r pandemig.