Mae mwy na 600 o hamperi Nadolig wedi cael eu rhoi i fanciau bwyd yn Abertawe drwy haelioni staff Prifysgol Abertawe.
Y llynedd, rhoddodd y Brifysgol hamper Nadoligaidd i bob aelod staff i'w fwynhau dros gyfnod yr ŵyl, i ddiolch i iddynt am eu gwaith caled a'u hymroddiad drwy gydol y flwyddyn.
Eleni, ar sail adborth gan staff, rhoddodd y Brifysgol gyfle i staff ddewis rhoi hamper i fanciau bwyd lleol.
Mae'r hamperi, sy'n cynnwys eitemau bwyd a chartref priodol, wedi cael eu dosbarthu i'r Goleudy - Oergell Gymunedol, Banc Bwyd Abertawe, Banc Bwyd Sgeti a'r Ganolfan ar gyfer Entrepreneuriaeth Affricanaidd.
Meddai Audrey Reeve, un o Ymddiriedolwyr Banc Bwyd Sgeti: "Yn yr hinsawdd economaidd a'r argyfwng ynni sy'n gwasgu ar y byd ar hyn o bryd, rydym ni ym Manc Bwyd Sgeti wedi gweld niferoedd defnyddwyr yn cynyddu'n aruthrol dros y 12 mis diwethaf. Ym mis Hydref 2021, roeddem yn bwydo 150 o bobl y mis ar gyfartaledd. Flwyddyn yn ddiweddarach, roedd y nifer wedi saethu i fyny i dros 500 o bobl ym mis Medi eleni.
"Mae'n ddealladwy pan fo pawb yn wynebu anawsterau ariannol a dyw'r rhoddion ddim yn ddigon i ddiwallu'r angen. Felly, bydd y 225 o hamperi sydd wedi’u rhoi i ni gan staff y Brifysgol yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r niferoedd gallwn eu cefnogi. Does gennym ni ddim geiriau i fynegi ein diolchgarwch.
Meddai Sarah Clifford, Pennaeth Masnachol Prifysgol Abertawe: "Rydym mor falch o allu cefnogi'r gymuned leol y Nadolig hwn, ar adeg sy'n heriol i lawer o bobl. Mae'n wych gweld haelioni cynifer o'n staff sy'n gweithio mor galed drwy gydol y flwyddyn i gefnogi ein myfyrwyr, gan gofio hefyd y rôl bwysig sydd gennym i'w chwarae yn y ddinas.
"Rydym hefyd yn hynod ddiolchgar i'n partneriaid a'n cyflenwyr arlwyo sydd wedi ein cefnogi yn yr ymdrechion hyn a dymunwn Nadolig llawen i bawb.