Mae astudiaeth newydd yn chwilio am gyfranogwyr i archwilio sut mae heintiau anadlol, megis peswch, anwydau, y ffliw a Covid-19, yn effeithio ar bobl yng Nghymru y gaeaf hwn.
Bydd yr astudiaeth yn helpu ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd i ddeall beth mae pobl yn ei feddwl, yn ei deimlo ac yn ei wneud am heintiau anadlol.
Maent yn gobeithio meithrin dealltwriaeth well o’r hyn y mae pobl yn ei wneud er mwyn helpu i atal heintiau rhag ymledu, a oes ganddynt symptomau heintiau anadlol, ac os felly, sut maent yn ymdrin â’u symptomau.
Hefyd, gofynnir am farn cyfranogwyr am beswch, anwydau a Covid-19 y gaeaf hwn, ynghyd â rhai cwestiynau am eu hiechyd a'u lles cyffredinol.
Gall gwirfoddolwyr gymryd rhan yn yr astudiaeth hon drwy gwblhau arolwg ar-lein, a fydd yn cymryd oddeutu 20 munud. Caiff yr holl ddata ei storio a'i ddefnyddio'n gyfrinachol a bydd ymatebion yn aros yn ddienw mewn adroddiadau, storfeydd data neu gyhoeddiadau.
Er mwyn bod yn gymwys i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon, rhaid i gyfranogwyr fod yn 18 oed neu'n hŷn a byw yng Nghymru.
Ar ôl cwblhau'r arolwg, bydd yr ymchwilwyr yn gofyn i gyfranwyr a hoffent barhau i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon yn ystod y gaeaf hwn. Byddant yn anfon ail arolwg rywbryd rhwng mis Rhagfyr 2022 a mis Chwefror 2023, gan ofyn a ydynt wedi dangos symptomau heintiau anadlol, ac os felly, beth maent yn ei wneud amdanynt.
Cymeradwywyd yr ymchwil hon gan y Pwyllgor Moeseg Ymchwil, Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, Prifysgol Abertawe.