Mae ffilm newydd sy'n amlygu sut mae grŵp cymunedol o ffrindiau a chymdogion yng Nghastell-nedd yn gweithio'n gadarnhaol i liniaru newid yn yr hinsawdd wedi cael ei dangos am y tro cyntaf yr wythnos diwethaf i gyd-fynd ag Awr y Ddaear.
Mae'r ffilm o'r enw ‘The Planting of a Seed – Sustaining a community in a time of climate and ecological emergency’ yn dathlu gwaith F.A.N (Canolfan Ffrindiau a Chymdogion) ac fe'i gwnaed gan Joseff Morgan, gwneuthurwr ffilmiau o Gymru, a Dr Jennifer Rudd o Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, drwy gyllid gan y loteri. Cafodd ei dangos yn y ganolfan ffrindiau a chymdogion gerbron cynulleidfa o'r gymuned leol, cynghorwyr ac aelodau o'r Senedd, a'i dilyn gan sesiwn holi ac ateb gyda Dr Rudd.
Deilliodd y syniad am y ffilm o sgyrsiau rhwng Emma Knight, o F.A.N. a Dr Rudd, sy'n traddodi sgyrsiau am wyddoniaeth yr hinsawdd i'r grŵp. Ar ôl sicrhau cyllid i gyflogi'r gwneuthurwr ffilmiau Joseff Morgan, bu'r tri ohonynt yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu a chyfarwyddo'r ffilm.
Mae'r ffilm yn rhoi cyfle i'r gynulleidfa gael cip ar fywyd y ganolfan ffrindiau a chymdogion, lle rhoddir sylw i iechyd y blaned wrth gynllunio a chyflawni gweithgareddau. Mae addysgu'n rhan fawr o ymdrech y gymuned, gan sicrhau bod yr holl genedlaethau'n ymwybodol o newid yn yr hinsawdd, a sut mae'r gymuned yn gwneud pethau bach, fel helpu'r amgylchedd a helpu'i gilydd, sy'n gwneud gwahaniaeth mawr.
Mae'r ganolfan gymunedol a'i cherbyd trydan, a ddefnyddir i gasglu a gollwng bwyd dros ben a chynnig cludiant i'r gymuned, yn cael eu pweru o baneli solar ar y to.
Defnyddir y ganolfan fel canolfan glyd sy'n cynnig gwres a bwyd a chaiff pob pryd o fwyd ei baratoi drwy roddion gan sefydliadau amrywiol ledled de Cymru, a fyddai fel arall wedi mynd i safleoedd tirlenwi. Mae'r ganolfan gymunedol hefyd yn cynnig “bwydlen ecogyfeillgar” i amlygu effaith gwresogi byd-eang ar fwyd.
Mae aelodau'r grŵp yn casglu sbwriel yn rheolaidd i helpu i wella eu hardal leol ac maent wedi trawsnewid lôn ger y ganolfan gymunedol yn llain ffrwythau a llysiau. Mae'r wybodaeth hon bellach yn cael ei lledaenu wrth i grŵp ieuenctid bach F.A.N. ddechrau gwaith ar eu gwelyau uchel eu hunain wrth ymyl y maes chwarae ger y ganolfan gymunedol.
Meddai Dr Rudd: “Mae llawer o bobl yn meddwl bod gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd yn gyfyngol, yn ddrud ac yn ddiflas. Mae'r ffilm am F.A.N. yn dangos nad yw hynny'n wir o gwbl am weithredu ar newid yn yr hinsawdd. Mae gweithredu ar newid yn yr hinsawdd yn gymunedol, a dyma esiampl wych o'n dymuniadau am ein byd ni.”
Meddai Emma Knight, o F.A.N.: “Rydyn ni wrth ein boddau bod y ffilm hon yn amlygu'r camau gweithredu y gall cymunedau eu cymryd i leihau eu heffaith ar y blaned. Rydyn ni'n gobeithio y bydd hi'n ysbrydoli grwpiau cymunedol eraill ledled Cymru a'r byd ehangach i gymryd camau gweithredu cadarnhaol ar y cyd.”
Ceir rhagor o wybodaeth am F.A.N. ar dudalen we’r ganolfan ar Facebook , gan gynnwys dyddiad cyhoeddi'r ffilm ym mis Mai.