Mae gwyddoniaeth a chelf breuddwydio, yr argyfwng cyfergydion ym myd chwaraeon a theitl buddugol Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe eleni ymysg y pynciau a fydd yn difyrru cynulleidfaoedd yng Ngŵyl y Gelli wrth iddi gael ei chynnal am y 36ed tro rhwng 25 Mai a 4 Mehefin.
Gŵyl y Gelli yw gŵyl fwyaf blaenllaw'r byd o ran syniadau ac eleni bydd yr ŵyl yn cynnig mwy na 500 o ddigwyddiadau ar y safle dros 11 o ddiwrnodau, gan ddod â darllenwyr a llenorion ynghyd mewn digwyddiadau cynaliadwy i ysbrydoli, archwilio a diddanu wrth ymyl Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae rhaglen yr ŵyl eleni'n cynnwys tri digwyddiad a gynhelir gan Brifysgol Abertawe fel rhan o bartneriaeth barhaus y Brifysgol â'r digwyddiad diwylliannol a llenyddol uchel ei fri.
- Bydd yr Athro Mark Blagrove, arbenigwr cwsg rhyngwladol, yn ymuno â'r artist Julia Lockhart ar gyfer The Science and Art of Dreaming i esbonio seicoleg a niwrowyddoniaeth breuddwydio. A hwythau'n awduron The Science and Art of Dreaming, byddant yn disgrifio sut mae rhannu breuddwydion yn cynyddu empathi rhwng pobl, ac yn archwilio celf a swrrealaeth.
- Yn The Concussion Crisis: How Can Sport Respond?, bydd Dr Victoria Silverwood, darlithydd mewn troseddeg yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Abertawe, yn argymell newidiadau y gall chwaraeon eu gwneud i leihau’r risg o gael anafiadau i'r ymennydd ac yn ystyried sut gall y cyfryngau cymdeithasol ac ymgyrchoedd effeithio ar agweddau’r gymdeithas sydd ohoni.
- Bydd enillydd Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe eleni – a gyhoeddir ar 11 Mai – yn sgwrsio â Jon Gower, nofelydd sy'n aelod o banel beirniadu 2023. Dyfernir y wobr am y gwaith llenyddol cyhoeddedig gorau yn Saesneg gan awdur 39 oed neu'n iau ac mae'n dathlu byd rhyngwladol ffuglen o bob math, gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a dramâu.
Bydd dau o gyn-enillwyr Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe hefyd yn rhan o'r ŵyl eleni. Bydd Max Porter, enillydd y wobr yn 2016 am Grief is the Thing with Feathers, yn sgwrsio â Kim Sherwood ar 3 Mehefin am ei lyfr newydd, Shy. Bydd Lucy Caldwell, a enillodd y wobr yn 2011 am ei nofel The Meeting Point, yn ymuno â phanel i drafod sut daw gwyddoniaeth yn ffuglen ar 27 Mai.
Bydd Owen Sheers, Athro Creadigrwydd ym Mhrifysgol Abertawe, yn cyfrannu at dri digwyddiad yng Ngŵyl y Gelli. Nos Wener 26 Mai, bydd yr Athro Sheers yn cadeirio trafodaeth rhwng yr actor Callum Scott Howells (It’s a Sin, Cabaret) a'r llenor a'r cyfarwyddwr Luke Collins (Cappuccino, Swiped) wrth iddynt gyflwyno dangosiad o On the Black Hill, addasiad o nofel Bruce Chatwin o 1982. Dyma stori gefeilliaid unfath sy’n tyfu i fyny ar fferm yng nghefn gwlad Cymru heb adael y nyth byth.
Yn Everything Change: Writing the Climate Crisis, bydd yr Athro Sheers yn ymuno â'r nofelydd Alys Conran, y bardd Marvin Thompson a'r gantores, y ddigrifwraig a'r actores Carys Eleri wrth iddynt rannu'r gwaith a grëwyd ganddynt mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng ecolegol a thrafod rôl llenorion ac artistiaid wrth fynd i'r afael â heriau’r argyfyngau hyn.
Bydd yr Athro Sheers, noddwr cymdeithas anhwylderau atal dweud Prydain, STAMMA, yn trafod sut gall math gwahanol o araith arwain at fath gwahanol o lais â'r awduron Margaret Drabble, Zaffar Kunial a Hannah Tovey yn Unspoken: The Secret Power of Stammering.
Bydd yr Athro Jasmine Donahaye, Darlithydd Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe, y llenor natur Jay Griffiths a'r hanesydd llenyddol Rachel Hewitt yn ymuno â Gwen Davies ar gyfer Women and Nature i archwilio syniadau amrywiaeth, cydraddoldeb, mynediad teg a materion moesol eraill ein perthynas â'r awyr agored a byd natur.
Mae tocynnau am Ŵyl y Gelli bellach ar werth i'r cyhoedd. Mae'r rhaglen lawn ar gael yma.