Mae menter uwch-dechnoleg gan Brifysgol Abertawe i ddatblygu hyfforddiant rhith-wirionedd arbenigol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi sicrhau hwb ariannol mawr.
Mae’r prosiect, a elwir Virtual Reality a Welsh Reality, wedi cael bron i £900,000 i ehangu dysgu trochi trwy greu cyfres o fodiwlau hyfforddi pwrpasol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Bydd y Brifysgol mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn datblygu'r modiwlau a sicrhau eu bod yn bodloni safonau uchel o addysg glinigol sy'n berthnasol i ddysgwyr israddedig a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar draws Cymru.
Y Cyfarwyddwr Addysg Efelychu, yr Athro Cyswllt Joanne Davies, a gyflwynodd y cais llwyddiannus am gyllid i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, sy’n goruchwylio SUSIM, sef canolfan a rhaglen arbenigol y Brifysgol i ddatblygu efelychiad sy’n torri tir newydd ac addysg drochi.
Dywedodd: “Rwyf wrth fy modd ar ran y tîm bod ein cais wedi bod yn llwyddiannus. Diolch i CCAUC am y gefnogaeth i'n gweledigaeth i ddatblygu rhith-realiti ar gyfer ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol presennol a'r dyfodol.
“Bydd defnyddio VR yn ein galluogi i wella ein hymagweddau dysgu cyfunol at addysg a chynnig y cyfle i hyfforddi unigolion a thimau mewn dull trochi, atyniadol a hyblyg. Mae’n fwy perthnasol nag erioed helpu i dorri’r ffiniau o ran pryd a ble y gall addysg ddigwydd, yn enwedig gyda’r pwysau presennol ar bob rhan o’r gwasanaeth.”
Caiff y modiwlau VR eu cynllunio ar gyfer defnydd aml-broffesiynol a byddant yn cynnwys pynciau megis tîm gofal iechyd a senarios cyfathrebu, achosion rheoli brys, achosion empathi cleifion, ac amrywiaeth o senarios yn ymwneud â hyfforddiant gofal iechyd a sesiynau ymarfer sgiliau.
Heblaw am yr elfen hyfforddiant ymarferol, bydd y modiwlau hefyd yn chwarae rhan bwysig gan ddarparu gwybodaeth ar gyfer prosiect ymchwil sy'n archwilio effeithiolrwydd hyfforddiant rhith-realiti ar draws y proffesiynau iechyd.
Mae'r tîm bellach yn tendro am gwmni datblygu VR arloesol i greu'r modiwlau a bydd hefyd yn gwahodd myfyrwyr ac arbenigwyr gofal iechyd i fod yn rhan o gamau dylunio a threialu'r adeiladu VR.
Ychwanegodd: “Roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig adeiladu a threialu hyfforddiant a ddyluniwyd gan yr academyddion, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a myfyrwyr a fydd yn mabwysiadu’r dechnoleg newydd hon wrth ymgorffori safonau addysg efelychu ac ymchwilio i’r effeithiau addysgol o fewn system gymhleth.”
Er mwyn sicrhau bod ansawdd ac arbenigedd ym mhob cam o'r prosiect mae’r Athro Cyswllt Davies a'r Athro John Gammon, bellach wedi ffurfio grŵp ymchwil VR sy'n cynnwys arbenigwyr pwnc, arbenigwyr ymchwil ac asesu, partneriaid bwrdd iechyd, ac aelodau o dîm SUSIM.
Daw datblygiad y modiwlau wrth i waith ddatblygu ar ystafelloedd efelychu muriau trochi o’r radd flaenaf ar gampysau Singleton a Pharc Dewi Sant y Brifysgol. Credir mai canolfan Abertawe yw'r gosodiad mwyaf o dechnoleg swît efelychu waliau trochi o'i fath yn y DU.
Mae’r prosiect hwn hefyd yn cyd-fynd â phartneriaeth barhaus gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i helpu i dyfu pob math o ddysgu sy’n seiliedig ar efelychu, cefnogi dysgu unigol, a gwella perfformiad tîm a system.
Dywedodd Amanda Glanville, Cyfarwyddwr Datblygu Pobl y bwrdd iechyd: “Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Hywel Dda weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, yn enwedig gan mai efelychu yw prif yrrwr ein Cynllun Addysg Rhyngbroffesiynol sydd newydd ei lansio.
“Bydd y prosiect hwn yn creu llwyfan lle gall byrddau iechyd eraill elwa yn ogystal â rhoi sylfaen gadarn i barhau â thwf addysg ryngbroffesiynol a’r defnydd o efelychu yn ein gweithgareddau o ddatblygu pobl.”
Ychwanegodd yr Athro Keith Lloyd, Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddorau Bywyd: “Mae hwn yn gam pwysig arall ymlaen i ni. Trwy gynnig y diweddaraf mewn hyfforddiant gofal iechyd ac aros ar flaen y gad o ran addysg drochi, rydym yn sicrhau bod Abertawe yn cynnal ei henw da rhyngwladol am arloesi a rhagoriaeth wrth i ni hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr iechyd proffesiynol."
Darganfod mwy am Addysg Efelychiadol a Throchi ym Mhrifysgol Abertawe