Mae astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Cape Town yn darparu'r dystiolaeth ddogfennol gyntaf o fabŵn benywaidd yn rhoi'r gorau i ddefnyddio mannau trefol ar ôl rhoi genedigaeth: enghraifft arall o'r ffordd y mae anifeiliaid gwyllt yn ymateb i drefoli drwy ymaddasu.
Defnyddiodd yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y cyfnodolyn Ecology & Evolution, goleri GPS i olrhain symudiadau 13 o fabŵns tsiacma yn Cape Town, De Affrica.
Datgelodd y data fod un babŵn benywaidd â choler, ar ôl rhoi genedigaeth, wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio mannau trefol heb newid sylweddol o ran pellter teithio dyddiol neu ryngweithiadau cymdeithasol a fyddai’n ddisgwyliedig i gyd-fynd ag ymddygiad sensitif i risg yn ystod y cyfnod hwn.
Er mai un babŵn yn unig a roddodd enedigaeth wrth wisgo coler cofnodi GPS, arsylwodd y tîm maes ar yr un patrwm o osgoi mannau trefol ar ôl rhoi genedigaeth gan ddau fabŵn benywaidd arall heb goleri yn ystod yr astudiaeth.
Mae'r ymchwilwyr yn awgrymu y gall newidiadau o'r fath o ran ymddygiad y mamau leihau'r risgiau y bydd babŵns newydd-anedig yn eu hwynebu yn yr amgylchedd trefol. Mae hefyd yn cyflwyno dealltwriaeth werthfawr o'r ffordd y mae angen i rywogaethau sy’n datblygu’n araf – nad ydynt yn cael llawer o fabanod a lle nad yw'r rhieni'n rhoi gofal estynedig i’r babanod – addasu eu hymddygiad i ymdopi â newidiadau o ganlyniad i weithgarwch pobl yn ystod eu hoes.
Meddai'r prif ymchwilydd, Dr Anna Bracken, cyn-fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Abertawe sydd bellach yn gweithio ym Mhrifysgol Glasgow: “Gall amgylcheddau trefol fod yn beryglus i fabŵns sy’n famau a'u babanod, ac mae'r astudiaeth hon yn darparu rhagor o dystiolaeth o'r ffordd y mae babŵns sy'n byw ger yr ardaloedd hyn yn ymaddasu mewn ymateb i'r bygythiadau maen nhw'n eu hwynebu.”
Yn ogystal â meithrin dealltwriaeth o sut mae digwyddiadau yn ystod eu hoes yn newid defnydd unigolion o amgylcheddau anthropogenig, gellir defnyddio ymchwil ddiweddaraf y tîm i roi cyngor ar ddulliau o reoli defnydd babŵns o fannau trefol.
Meddai Dr Andrew King, uwch-awdur yr astudiaeth: “Mae gan y canfyddiadau hyn oblygiadau o ran sut rydyn ni'n rheoli rhyngweithiadau babŵns ag amgylcheddau dynol. Drwy amlygu sut mae rhywogaethau hirhoedlog sy’n datblygu’n araf yn ymdopi â newidiadau anthropogenig, gallwn ni helpu perchnogion tir a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i ddatblygu cynlluniau i leihau gwrthdaro a hyrwyddo cydfodoli rhwng pobl a bywyd gwyllt ar ymylon trefi.”
Ariannwyd yr ymchwil hon gan Ymddiriedolaeth Ymchwil Genedlaethol De Affrica a Phrifysgol Abertawe.
Darllenwch y papur yn llawn: Postpartum cessation of urban space use by a female baboon living at the edge of the City of Cape Town