Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe'n lansio astudiaeth newydd a fydd yn archwilio profiadau academyddion benywaidd o ran gwaith ac iechyd meddwl yn sector addysg uwch y DU.
Mae cyflyrau iechyd meddwl yn parhau i fod yn destun pryder byd-eang difrifol, ond nid yw ymchwil wedi rhoi llawer o sylw i'r cysylltiad rhwng y cyflyrau hyn ac amgylchiadau gwaith mwy dwys. Mae'r bwlch gwybodaeth hwn yn arbennig o amlwg yng nghyd-destun addysg uwch yn y Deyrnas Unedig, lle mae academyddion benywaidd yn wynebu heriau unigryw. Er mwyn pontio'r bwlch hwn, mae prosiect ymchwil newydd wedi dechrau bellach ym Mhrifysgol Abertawe, â'r nod o archwilio profiadau academyddion benywaidd â chyflyrau iechyd meddwl yn y gweithle cyfoes, yn enwedig mewn amgylchiadau gwaith mwy dwys.
Wedi'i ariannu gan yr Academi Brydeinig ac Ymddiriedolaeth Leverhulme a'i arwain gan Dr Hadar Elraz, Uwch-ddarlithydd Rheoli Adnoddau Dynol ac Ymddygiad Sefydliadol, bydd y prosiect yn ymgymryd ag ymchwiliad ansoddol i ddatgelu sut mae academyddion benywaidd yn llywio eu bywydau proffesiynol wrth ymdopi â chyflyrau iechyd meddwl.
Bydd yr astudiaeth arloesol hon yn ceisio nodi'r strategaethau y mae'r unigolion hyn yn eu defnyddio i reoli disgwyliadau o ran perfformiad ac asesu'r cymorth y mae eu sefydliadau'n ei ddarparu, ynghyd â'r ffordd y caiff hynny ei amgyffred. At hynny, bydd yr ymchwil yn cyfrannu at drafodaethau parhaus am gydraddoldeb ac amrywiaeth yn y maes, gan gynnig dealltwriaeth werthfawr a all lywio'r broses o ddatblygu polisi a chyfrannu at greu amgylcheddau gwaith mwy cefnogol a chynhwysol.
Bydd yr ymchwiliad ansoddol yn cwmpasu amrywiaeth ddaearyddol eang ledled y DU, gan sicrhau dealltwriaeth gynhwysfawr o brofiadau academyddion benywaidd â chyflyrau iechyd meddwl. Yn ogystal, bydd y prosiect hefyd yn casglu safbwyntiau rheolwyr yn y sector academaidd sy'n goruchwylio cyflogeion â chyflyrau iechyd meddwl, a thrwy hynny ymgorffori dealltwriaeth sefydliadol yn yr astudiaeth.
Meddai Dr Elraz: “Rydyn ni'n dechrau ar daith hollbwysig i daflu goleuni ar y croestoriad sy'n cael ei anwybyddu'n aml rhwng profiadau gwaith ac iechyd meddwl ymhlith academyddion benywaidd yn sector addysg uwch y DU. Nod ein hastudiaeth yw datgelu'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu. Drwy ddeall eu profiadau'n well, y gobaith yw y gallwn ni gynyddu ymwybyddiaeth o'r cysylltiad rhwng iechyd meddwl, rhywedd ac amgylchiadau gwaith mwy dwys ac, o ganlyniad, yr effaith y gall hyn ei chael ar unigolion a sefydliadau. Mae croeso i'r rhai hynny sy'n nodi eu bod yn fenywaidd gymryd rhan yn yr astudiaeth.”
Dylai unrhyw un sydd am fynegi diddordeb mewn cyfranogi yn yr astudiaeth lenwi'r ffurflen hon neu e-bostio hadar.elraz@abertawe.ac.uk