Bydd preswylwyr Abertawe'n gallu elwa o sesiynau cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim ym mis Gorffennaf.
Bydd arbenigwyr a myfyrwyr o Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe'n cynnal sesiynau galw heibio yng Nghapel Mount Zion ym Môn-y-maen rhwng 11am a 2pm bob dydd Llun drwy gydol mis Gorffennaf.
Yno, bydd pobl yn gallu ceisio cyngor cyfreithiol cychwynnol am ddim ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys:
- Tai
- Perthnasoedd yn chwalu
- Budd-daliadau lles
- Cyflogaeth
- Gwahaniaethu
- Mewnfudo
Nid oes angen i chi drefnu apwyntiad ymlaen llaw.
Mae Clinig y Gyfraith Abertawe, sydd wedi ennill sawl gwobr, o fudd i'r gymuned leol drwy gynnig cyngor cychwynnol am ddim ar broblemau lleol, yn ogystal â rhoi'r cyfle i fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe weithio ochr yn ochr â chyfreithwyr wrth eu gwaith i gynghori cleientiaid go iawn.
Ni all Clinig y Gyfraith gynorthwyo gydag unrhyw faterion sy'n ymwneud â chyfraith trosedd, ysgrifennu ewyllys, treth na dyled.
Nid yw Clinig y Gyfraith Abertawe wedi'i reoleiddio gan yr SRA (Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr) ac nid yw'n honni ei fod yn bractis cyfreithwyr. Mae pob myfyriwr y gyfraith yn derbyn hyfforddiant trylwyr ac yn cydymffurfio â'r protocol pro bono.
Meddai'r Athro Richard Owen, cyfarwyddwr Clinig y Gyfraith Abertawe: “Mae Clinig y Gyfraith Abertawe'n falch o gynnal y sesiynau cyngor cyfrinachol hyn ym Môn-y-maen. Dyma ffordd newydd o arfer y gyfraith – ein nod yw rhoi cyngor ar unwaith i gleientiaid unigol ynghylch eu problemau, yn ogystal â dechrau deialog dan arweiniad y gymuned leol i weld pa gyfraniad gallwn ni ei wneud wrth eu helpu i wynebu eu heriau yn y dyfodol, ochr yn ochr â'n partneriaid.”
Meddai'r Parchedig Chris Lewis, gweinidog yng Nghapel Mount Zion a chadeirydd Banc Bwyd Eastside: “Rwy'n meddwl bod helpu pobl yn eu cynefin eu hunain yn werthfawr. Rwyf o'r un bryd â'r Athro Owen yn hyn o beth ac rwy'n croesawu'r datblygiad diweddaraf hwn yn ein cydweithrediad dros sawl blwyddyn.”
Cynhelir sesiynau galw heibio mis Gorffennaf yn y cyfeiriad canlynol: Capel Mount Zion, Stryd Mansel, Bôn-y-maen, Abertawe SA1 7JR
I gael rhagor o wybodaeth neu i gysylltu â Chlinig y Gyfraith Abertawe:
Ffoniwch: 01792 295387