Mae UKRPIF (Cronfa Buddsoddi Partneriaethau Ymchwil y DU) wedi dyfarnu £15m i Brifysgol Birmingham a chonsortiwm o brifysgolion yng Nghymru, gan gynnwys Prifysgol Abertawe, i sefydlu canolfan ymchwil ac arloesi rheilffyrdd newydd a fydd yn arwain y ffordd yn fyd-eang.
Bydd buddsoddiad UKRPIF yn galluogi Prifysgol Birmingham, gan weithio gyda phrifysgolion Abertawe a Chaerdydd, i sefydlu canolfan ragoriaeth newydd ar gyfer profi a dilysu rheilffyrdd a phrofiad cwsmeriaid ar safle'r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE), sy'n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd.
Dyma ran o gyllid gwerth £30m a gyhoeddwyd drwy UKRPIF i sefydlu dwy ganolfan ymchwil ac arloesi rheilffyrdd newydd a fydd yn arwain y ffordd yn fyd-eang. Y llall fydd y Ganolfan Ragoriaeth newydd ar gyfer Peirianneg Gydol Oes Rheilffyrdd yn Goole.
Mae'r ceisiadau llwyddiannus am gyllid yn cynnwys ymrwymiad ehangach gan y diwydiant rheilffyrdd i fuddsoddi £60m ar y cyd, gyda Phrifysgol Birmingham hefyd yn buddsoddi £16m. At ei gilydd, mae'r pecyn yn hwb gwerth £106m i ymchwil a datblygu yn y DU.
Bydd y ganolfan ragoriaeth newydd ar gyfer profi a dilysu rheilffyrdd a phrofiad cwsmeriaid yn y GCRE yn darparu cyfleusterau a gaiff eu hadeiladu at y diben ochr yn ochr ag arbenigedd diwydiannol sylweddol y DU mewn rheilffyrdd i gefnogi arloesi, ymchwil a datblygu ym maes rheilffyrdd, ar y cyd â phartneriaid blaenllaw ym myd diwydiant.
Bydd y GCRE, sef lleoliad y ganolfan newydd, yn gyfleuster ar gyfer ymchwil o'r radd flaenaf, profi ac ardystio wagenni, isadeiledd a thechnolegau rheilffyrdd newydd arloesol. Bydd yn helpu'r diwydiant rheilffyrdd yn y DU ac Ewrop i arloesi'n gyflymach, gan gefnogi datgarboneiddio a datblygu isadeiledd rheilffyrdd mwy costeffeithiol.
BCRRE (Canolfan Ymchwil ac Addysg Rheilffyrdd Birmingham) ym Mhrifysgol Birmingham yw'r ganolfan arbenigol fwyaf yn Ewrop ar gyfer ymchwil, addysg ac arloesi ym maes rheilffyrdd. BCRRE yw sefydliad arweiniol UKRRIN (Rhwydwaith Ymchwil ac Arloesi Rheilffyrdd y DU) ac mae'n arwain Canolfan Ragoriaeth mewn Systemau Digidol UKRRIN, sy'n gweithio i ddatblygu a defnyddio technolegau digidol ar gyfer y rheilffyrdd.
Bydd bellach hefyd yn arwain y ganolfan ragoriaeth newydd ar gyfer profi a dilysu rheilffyrdd a phrofiad cwsmeriaid, gan weithio gyda phrifysgolion Caerdydd ac Abertawe.
Meddai Simon Jones, Prif Weithredwr GCRE Limited: “Mae ymchwil ac arloesi wrth wraidd cenhadaeth y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd. Bydd gweithio gyda Phrifysgol Birmingham a'i phartneriaid, sydd bellach yn cynnwys prifysgolion Caerdydd ac Abertawe, yn ein galluogi i wireddu'r uchelgais hwn.
“Datblygu cyfleusterau ymchwil ac arloesi unigryw a fydd o fudd i'r byd academaidd, byd diwydiant ac, yn bwysicaf oll, deithwyr a threthdalwyr yw'r rheswm pam cawson ni ein sefydlu. Mae'r cyhoeddiad heddiw'n deillio o lawer o waith caled ac rydyn ni'n edrych ymlaen at gymryd y camau nesaf ar y cyd â’n partneriaid o fri rhyngwladol.”
Meddai'r Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Ymchwil ac Arloesi ym Mhrifysgol Abertawe: “Rydyn ni'n falch o fod yn sefydliad partner yn y ganolfan ymchwil ac arloesi newydd gyffrous hon, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at gydweithredu â'r GCRE, gan gynnwys o ran isadeiledd, storio ynni, gefeilliaid digidol a phrofi deunyddiau.
“Mae cydweithredu â sefydliadau academaidd, Rhwydwaith Arloesi Cymru, partneriaid diwydiannol a masnachol a phartneriaid yn y sector cyhoeddus wrth wraidd ein hethos ymchwil ac arloesi, ac rydyn ni'n ymrwymedig i gael effeithiau ar y byd go iawn drwy ein gweithgarwch ymchwil ac arloesi.”
Meddai'r Athro Fonesig Jessica Corner, Cadeirydd Gweithredol yn Research England: “Gan adeiladu ar y buddsoddiad gan UKRPIF yn rownd 5 y cynllun, rwy'n falch o gyhoeddi cyllid gwerth £30 i'r consortiwm, dan arweiniad Prifysgol Birmingham, a fydd yn parhau i sicrhau bod y DU yn arwain y ffordd yn rhyngwladol wrth ddatblygu technolegau rheilffyrdd chwyldroadol. Mae'r rhain yn hanfodol er mwyn creu rheilffyrdd mwy effeithlon, cynaliadwy a chynhyrchiol yn y dyfodol.
“Bydd creu dwy ganolfan ymchwil rheilffyrdd sy'n unigryw'n fyd-eang yn ne Cymru'n meithrin partneriaethau allweddol rhwng y byd academaidd a byd diwydiant, yn helpu i lywio'r broses o roi mentrau arloesol newydd ar waith yn y sector ac yn datblygu clystyrau rhagoriaeth rhanbarthol.”