Mae Prifysgol Abertawe'n parhau i arwain y ffordd o ran pwysigrwydd mannau gwyrdd yng Nghymru.
Mae ei dau gampws unwaith eto wedi cael eu canmol gan feirniaid arbenigol sydd newydd ddyfarnu Baner Werdd uchel ei bri i'r Brifysgol.
Y Faner Werdd yw nod rhyngwladol parc neu fan gwyrdd o safon ac mae'n cydnabod cyfleusterau rhagorol i ymwelwyr, safonau amgylcheddol uchel, ac ymrwymiad i ddarparu mannau gwyrdd o ansawdd uchel.
Mae'r Brifysgol hefyd wedi cael ei hachredu’n Safle Treftadaeth Gwyrdd eto eleni. Mae'r dyfarniad hwn, wedi'i gymeradwyo gan Cadw, yn cydnabod safleoedd sydd o bwys hanesyddol ac sy'n bodloni meini prawf y Faner Werdd.
Meddai'r rheolwr tiroedd, Paul Edwards: “Rwy'n hynod falch o aelodau'r Tîm Tiroedd sydd wedi sicrhau Gwobrau'r Faner Werdd i'r Brifysgol unwaith eto drwy eu gwaith caled a'u hymagwedd arloesol.”
Meddai Niamh Lamond, Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu Prifysgol Abertawe: “Rydyn ni wedi cadw ein Baner Werdd am y chweched flwyddyn yn olynol ac rydyn ni wrth ein boddau bod ein hymrwymiad parhaus i fannau gwyrdd hardd ein campysau wedi cael ei gydnabod.
“Rydyn ni'n ffodus iawn bod gennyn ni dîm tiroedd rhagorol sy'n gweithio'n galed i reoli a datblygu'r ardaloedd hyn mewn modd cynaliadwy wrth ddiogelu eu natur hanesyddol a gwyddonol.
“Rydyn ni'n gwybod bod ein tiroedd a'n gerddi'n bwysig iawn i bawb yn y Brifysgol – myfyrwyr, staff a'r gymuned leol – ac rydyn ni'n falch o ddweud eu bod nhw mewn dwylo diogel iawn.”
Mae Gwobr y Faner Werdd, sydd yn ei thrydydd degawd erbyn hyn, yn cydnabod parciau a mannau gwyrdd sy'n cael eu rheoli'n dda mewn 20 o wledydd ledled y byd. Eleni mae'r Brifysgol ymysg 280 o fannau gwyrdd – sy'n amrywio o erddi a pharciau ffurfiol i randiroedd a mynwentydd – ledled y wlad sydd wedi cael eu hanrhydeddu.
Cadwch Gymru'n Daclus sy'n cynnal y cynllun gwobrau yng Nghymru. Meddai Lucy Prisk, Cydlynydd Baneri Gwyrdd Cadwch Gymru'n Daclus: “Mae mynediad am ddim at fannau gwyrdd diogel o safon uchel yn bwysicach nag erioed. Mae ein safleoedd arobryn yn gwneud cyfraniad hollbwysig at les meddyliol a chorfforol pobl, gan gynnig hafan i gymunedau ddod ynghyd, ymlacio a mwynhau natur.
“Mae'r newyddion bod 280 o barciau a mannau gwyrdd yng Nghymru wedi ennill Gwobr y Faner Werdd yn amlygu gwaith caled cannoedd o staff a gwirfoddolwyr. Mae'n bleser i ni allu dathlu eu llwyddiant ar y llwyfan byd-eang.”
Gweler y rhestr lawn o enillwyr y gwobrau ar wefan Cadwch Gymru'n Daclus