Mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn grant uchel ei fri gan Sefydliad Wolfson a fydd yn rhoi hwb sylweddol i'w Chanolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol (CISM) wrth greu'r technolegau lled-ddargludol a ddefnyddir mewn bron pob dyfais dechnolegol soffistigedig fodern.
Bydd y dyfarniad gwerth £500,000 yn cefnogi'r broses o ddylunio, caffael a defnyddio ‘offeryn clwstwr’ unigryw a phwerus o'r enw ASemi-WAC (Gallu Dadansoddol Haenellau Lled-ddargludo Uwch), a fydd yn cael ei gadw yn CISM. Bydd yn rhan o brosiect hynod uchelgeisiol i greu cyfleuster dadansoddi lled-ddargludyddion o bwys cenedlaethol i'w ddefnyddio gan ymchwilwyr a phartneriaid diwydiannol.
Bydd hyn yn cynyddu gallu'r Brifysgol i ddarparu arbenigedd mewn lled-ddargludyddion ac yn ehangu lled, dyfnder a rhagoriaeth ymchwil yn sylweddol, gan roi pwyslais penodol ar dechnoleg led-ddargludol at ddibenion sero net, yn ogystal â ffyrdd o ddefnyddio dyfeisiau lled-ddargludol sy'n dod i'r amlwg ym maes gofal iechyd.
Meddai'r Athro Paul Meredith, Cyfarwyddwr CISM:
“Mae gan Brifysgol Abertawe fàs critigol o bwys cenedlaethol a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn ymchwil ac arloesi ym maes lled-ddargludyddion. Caiff hyn ei fwydo gan ddyfodiad a thwf cyflym ein diwydiant lled-ddargludyddion rhanbarthol. Mae'r dyfarniad i'n cynnig ASemi-WAC yn hollbwysig gan y bydd yn ein helpu i wneud cyfraniad mawr at Strategaeth Lled-ddargludyddion y DU, sydd wedi cael cymaint o sylw, fel rhan o glwstwr CSconnected o bartneriaid.”
Meddai Paul Ramsbottom, Prif Weithredwr Sefydliad Wolfson:
“Mae angen i'r DU fuddsoddi ar frys mewn technolegau lled-ddargludol wrth i'w pwysigrwydd i ddiwydiannau mor amrywiol â gofal iechyd ac ynni gael ei amlygu'n fwyfwy. Gall prosiect ASemi-WAC yn Abertawe wneud cyfraniad cyffrous at yr ymdrech ymchwil a datblygu hon, ac rydyn ni'n falch o gefnogi’r prosiect – ac o roi cyllid yn Abertawe eto.”
Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:
“Mae gwyddoniaeth a pheirianneg lled-ddargludyddion wedi bod yn faes rhagoriaeth ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe ers amser hir. Bydd y dyfarniad hwn gan Sefydliad Wolfson yn ein galluogi i adeiladu ar ein cryfderau presennol a gwneud gwaith arloesi o'r radd flaenaf y mae ei angen ar frys yn y maes hwn, ac sy'n hollbwysig i dwf economaidd, cyfleoedd am swyddi a hyrwyddo gwyddor ynni yn ne Cymru a'r DU.”