Mae myfyriwr graddedig rhagorol o Brifysgol Abertawe'n dechrau ar bennod nesaf ei bywyd ddwy flynedd ar ôl gorfod ffoi o'i chartref yn Affganistan i ddianc rhag y Taliban.
Gyda dim ond llond llaw o bethau y gallai eu cario, gan gynnwys sgarff ei mam, clustdlysau ei chwaer a llyfr gan ei ffrind, cafodd Dr Elham Barakzai le ar un o'r awyrennau olaf i adael Kabul ym mis Awst 2021.
"Ar 15 Awst, deffrais gyda chalon drom, yn gofidio am y sefyllfa yn Kabul ac yn gobeithio byddai’r llywodraeth a NATO yn gweithredu. Ffoniodd fy ffrind gorau mi y bore hwnnw i ddweud bod y Taliban wedi cyrraedd Kabul, a'i fod yn gadael y wlad," esboniodd Elham.
"Roedd hi'n anhrefn lwyr, gyda phobl yn heidio i'r maes awyr a'r banciau. Erbyn y prynhawn, roedd fy ffrind yn fy ffonio i gadarnhau bod Ashraf Ghani, cyn Arlywydd Affganistan, wedi ffoi, ac roedd y Taliban wedi meddiannu'r brifddinas."
Ymysg yr holl gynnwrf gyda'r Taliban yn meddiannu'r brifddinas, cafodd Elham, Ysgolhaig Chevening, ei symud gan Lysgenhadaeth y DU ar ôl i bobl ddechrau pryderu am ei gwaith yn ymgyrchu dros hawliau menywod.
Bu'n rhaid i Elham wneud y penderfyniad anodd i adael ei theulu, nad oedd yn gallu ymuno â hi gan nad oedden nhw'n ddibynyddion agos.
"Cyrhaeddais Lundain gan deimlo bod fy mywyd wedi newid yn llwyr. Roeddwn bellach yn fudwr heb gartref na theulu yn fy ngwlad," meddai Elham sy'n 30 oed ac yn byw yn Llundain.
Ym mis Medi, cyrhaeddodd Elham Abertawe i astudio gradd meistr mewn iechyd cyhoeddus a hybu iechyd, gan ddechrau bywyd mewn amgylchedd newydd sbon.
Wrth addasu i fywyd pob dydd yng Nghymru a chynnal amserlen academaidd brysur, roedd straen ychwanegol ar Elham wrth iddi geisio ymdopi â heriau’r system ceisiwr lloches.
"Dyma'r peth anoddaf rwyf erioed wedi gorfod ei wneud. Roeddwn yn poeni am fywyd a chyllid fy nheulu, roedd yn rhaid i mi ddysgu system astudio newydd, a doeddwn i ddim yn siŵr am fy statws ffoadur," meddai Elham.
"Gwnaeth y Brifysgol a minnau geisio cysylltu â'r Swyddfa Gartref, ond chlywon ni ddim byd; yna, diolch i gymorth ffrind, 11 mis ar ôl i mi ddod i'r DU, cefais ganiatâd amhenodol i aros."
Er gwaethaf yr amserau anodd y gwnaeth eu hwynebu, gwnaeth cadernid Elham ddisgleirio, gan ei harwain gyda phenderfyniad diflino, rhywbeth y mae hi'n dweud a gynorthwywyd gan y cymorth a dderbyniodd gan Brifysgol Abertawe.
"Roedd y cymorth a gefais gan fy nghyd-fyfyrwyr, athrawon a staff proffesiynol yn y Brifysgol yn anhygoel, yn arbennig fy mentor academaidd Dr Sophia Komnionou, a thimau’r Swyddfa Datblygu Rhyngwladol ac Arian@BywydCampws," meddai Elham.
"Gwnaethon nhw fy helpu gyda phopeth, o ddod o hyd i lety a chyflwyno cais i Gronfa Galedi'r Brifysgol i gadw llygad ar fy iechyd yn gyffredinol."
Meddai Dr Komninou, darlithydd mewn Maeth Iechyd Cyhoeddus: “Rwy'n falch iawn yn bersonol o ba mor bell mae Elham wedi mynd. Mae ei gwytnwch yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi fy ysbrydoli fel unigolyn, ac rwy'n teimlo y bydd yn ysbrydoli llawer o bobl eraill.”
Wrth i Elham raddio o Abertawe fis diwethaf, gwnaeth nodi carreg filltir bwysig yn ei thaith bersonol a phroffesiynol.
"Ar hyn o bryd, rwy'n gwneud gwaith gweinyddol wrth astudio ar gyfer prawf y Bwrdd Asesiadau Proffesiynol ac Ieithyddol, oherwydd hoffwn fod yn Feddyg Teulu", meddai Elham.
"Roedd astudio yn y DU a bod yn Ysgolhaig Chevening yn un o'm breuddwydion pennaf, a dwy flynedd yn ôl, doeddwn i ddim yn credu y byddai hyn yn bosib mwyach. Rwy'n hynod falch a ffodus fy mod wedi cael y cyfle hwn, ac rwy'n mawr obeithio y bydd yr holl ferched yn fy ngwlad yn cael y cyfle i wneud yr un peth ryw ddydd."
Hoffai Elham ddychwelyd i'w gwlad enedigol ryw ddydd a defnyddio ei chyflawniadau o'i hamser yng Nghymru a'r DU i ddod â newidiadau cadarnhaol i Affganistan, ond tan hynny, mae ganddi freuddwyd arall sy'n agos at ei chalon.
"Rwyf am gael y cyfle i fyw gyda fy nheulu unwaith eto a mynd â nhw i'r lleoedd hyfryd yn Abertawe lle rwyf wedi profi ychydig o heddwch."