Mae'n bleser gan Brifysgol Abertawe gyhoeddi ei bod yn estyn ei phartneriaeth â Phrifysgolion Santander am dair blynedd arall, gan addo rhagor o gyfleoedd ac adenoidal amhrisiadwy i fyfyrwyr ar eu taith tuag at lwyddiant yn eu gyrfaoedd.
Ers i'r bartneriaeth gael ei sefydlu yn 2014, mae wedi darparu cyllid gwerth dros £822,700, gan gefnogi dros 875 o fyfyrwyr Abertawe.
Yn ystod y tair blynedd nesaf bydd cyfleoedd a gwasanaethau gyrfa Prifysgol Abertawe'n cael eu datblygu ymhellach, gan gynnwys bwrsariaethau teithio, gwobrau mentergarwch, interniaethau, yn ogystal â:
- Grant Dyfodol Mwy Disglair i ariannu deg o fwrsariaethau gwerth £1,000 y flwyddyn i fyfyrwyr er mwyn eu galluogi i ymgymryd â hyfforddiant a datblygiad personol.
- Rhaglen Ysgoloriaethau Santander, lle dyfernir £10,000 y flwyddyn i fyfyrwyr i'w cefnogi yn eu taith academaidd, o brynu llyfrau ac offer digidol i dalu rhent a ffioedd dysgu.
I ddathlu parhad y bartneriaeth allweddol hon, yn ddiweddar cynhaliodd y Brifysgol ddigwyddiad ar ei champws yn Singleton, lle daeth Lucy Griffiths, Pennaeth Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe, Yr Athro Deborah Youngs, Dirprwy Is-ganghellor Addysg a Peter Mannion, Pennaeth Interim Bywyd Myfyrwyr, ynghyd.
Roedd Nick Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Perthnasoedd a John Powell, Cyfarwyddwr Partneriaethau'r DU Santander a sawl myfyriwr sydd wedi derbyn bwrsariaethau Santander hefyd yn bresennol.
Meddai Lois Owumi, a dderbyniodd gyllid interniaeth Santander ac sy'n astudio MSc mewn Rheolaeth (Dadansoddeg Fusnes): "Mae wedi bod yn wych cael y cyfle i ennill profiad gwaith a sgiliau meddal trosglwyddadwy drwy fy interniaeth bresennol gyda Discovery - ni fyddai hyn wedi bod yn bosib heb y cyllid gan Santander. Fel myfyriwr rhyngwladol, mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe wedi bod yn hynod gymwynasgar, gan ganiatáu i mi fod yn intern mewn o leiaf dair rôl wahanol. Mae hyn wedi fy hyfforddi, ac yn wir yn parhau i'm hyfforddi o hyd, ar gyfer y farchnad swyddi pan fyddaf yn graddio. Mae'n wych gwybod y bydd myfyrwyr eraill yn gallu manteisio ar gyfleoedd tebyg diolch i bartneriaeth barhaus y Brifysgol â Phrifysgolion Santander."
Wrth siarad am effaith y bartneriaeth, meddai Lucy Griffiths, Pennaeth Academi Cyflogadwyedd Abertawe: "Pleser o'r mwyaf i ni yw parhau â'r berthynas agos â Phrifysgolion Santander. Mae ein partneriaeth wedi chwarae rhan allweddol wrth roi i’n myfyrwyr yr adnoddau y mae eu hangen arnynt i wireddu eu potensial llawn a llwyddo yn y farchnad swyddi gystadleuol, ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar ein hymrwymiad cyffredin i wella cyflogadwyedd a meithrin diwylliant o arloesedd a mentergarwch."
Ychwanegodd Matt Hutnell, Cyfarwyddwr Prifysgolion Santander y DU: "Ein cred ni ym Mhrifysgolion Santander yw y gellir sicrhau dyfodol llewyrchus drwy addysg heddiw. Rydym yn falch o allu parhau â'n partneriaeth â Phrifysgol Abertawe a darparu rhagor o gyfleoedd i fyfyrwyr, staff a'r gymuned leol ddatblygu sgiliau i adeiladu dyfodol disgleiriach a chyflawni eu potensial yn y dyfodol."