Mae tri academydd o Brifysgol Abertawe wedi derbyn un o fedalau blynyddol Cymdeithas Ddysgedig Cymru eleni.
Mae’r medalau yn cael eu dyfarnu bob blwyddyn i ddathlu'r ymchwil ragorol sy'n dod o Gymru.
Cyhoeddodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru enwau ei medalwyr yn 2023, mewn seremoni a fynychwyd gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, a'r Athro Dame Sue Ion, un o'i Gymrodyr er Anrhydedd a Chadeirydd, Bwrdd Cynghori ar Ymchwil Arloesedd Niwclear y DU.
Medal Hoggan: Yr Athro Siwan Davies
Mae'r Athro Davies yn ddaearyddwr ffisegol a darlledwr gwyddoniaeth, ac yn enillydd sawl gwobr am ei hymchwil. Mae'r ymchwil hwnnw'n eang, ac yn cynnwys gwaith a gydnabyddir yn rhyngwladol ar ddadansoddi gronynnau lludw folcanaidd microsgopig, a allai helpu i ail-greu cyfnodau o newid yn yr hinsawdd yn y gorffennol i ddarparu cliwiau am y newid sydd yn digwydd ar hyn o bryd.
Mae'r fedal Frances Hoggan yn cydnabod cyfraniad menywod i ymchwil ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth (STEMM).
Dywedodd yr Athro Davies: “Braint a phleser o’r mwyaf yw ennill medal Frances Hoggan gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru am fy ngwaith ymchwil i newid amgylcheddol blaenorol, sydd mor bwysig inni oll, o ystyried yr argyfwng hinsawdd. Mae’r wobr hon yn golygu’r byd i mi fel academydd o Gymru, ac rwy’n falch o fod wedi gallu mwynhau gyrfa academaidd ragorol yng Nghymru. Rwyf wedi bod yn hynod ffodus o fod wedi cael fy ysbrydoli a’m cefnogi gan fentoriaid, cydweithwyr ac aelodau tîm arbennig, o bob cwr o'r byd, ac rwyf wedi mwynhau ysbrydoli a chefnogi eraill yn fy nhro.”
Medal Hugh Owen: Yr Athro Tom Crick
Mae'r Athro Crick yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol am arwain diwygiadau Cymreig ar addysg STEM. Cyfrannodd gwaith arall ar addysg cyfrifiadureg a pholisi sgiliau digidol iddo dderbyn MBE yn 2017 am "wasanaethau i gyfrifiadureg a hyrwyddo addysg cyfrifiadureg".
Enwir y fedal sy'n dathlu ymchwil addysgol eithriadol yng Nghymru er anrhydedd i Syr Hugh Owen (1804-1881).
Meddai'r Athro Crick: "Mae'n anrhydedd i mi dderbyn Medal Hugh Owen eleni gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru, gan adlewyrchu pwysigrwydd amrywiaeth y gwaith llawn effaith ar draws ymchwil, polisi ac ymarfer addysgol. Mae ehanger y gwaith hwn yn hollbwysig i Gymru wrth i ddiwygiadau o bwys ar lefel systemau addysg ddod i'r amlwg a chael eu datblygu."
Medal Dillwyn (Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg a Busnes): Dr Leighton Evans
Mae Leighton Evans yn Athro Cyswllt Damcaniaeth Cyfryngau ym Mhrifysgol Abertawe. Mae gwaith ymchwil Leighton yn mynd i’r afael â chyfryngu profiadau a bywyd dydd i ddydd drwy gyfryngau digidol. Ef yw awdur Locative Social Media (2015), The Re-emergence of Virtual Reality (2018) a chyd-awdur Location-based Social Media: Space, Time and Identity (2017), Intergenerational Locative Play: Augmenting Family (2021) a From Microverse to Metaverse: Modelling the Future Through Today’s Virtual Worlds (2022).
Mae Medalau Dillwyn yn dathlu cyfraniad ymchwilwyr gyrfa gynnar sy’n gweithio yng Nghymru, neu sydd â chysylltiad â Chymru.
Dywedodd Dr Evans: “Rwy'n falch iawn ac yn teimlo anrhydedd o dderbyn medal gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae derbyn yr anrhydedd hwn nid yn unig yn gydnabyddiaeth o ymdrechion y gorffennol, ond yn anogaeth ddwys ar gyfer y dyfodol. Rwy'n ddiolchgar dros ben, ac wedi cael fy ysbrydoli i barhau i wthio ffiniau gwybodaeth er mwyn gwella Cymru a'r byd ehangach.”