Cyflwynir Darlith Zienkiewicz flynyddol Prifysgol Abertawe'n ddiweddarach y mis hwn, a'r siaradwr gwadd uchel ei fri fydd yr Athro Arglwydd Darzi o Denham OM KBE PC FRS, Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Arloesi Iechyd Byd-eang yng Ngholeg Imperial Llundain.
Bydd yr Athro Darzi yn traddodi darlith o'r enw ‘Health Care Transformation through Science and Technology’, a gynhelir gan y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg nos Fercher 22 Tachwedd.
Bydd y digwyddiad am ddim – cinio ffurfiol yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau – hefyd yn cael ei ffrydio'n fyw, gan roi cyfle unigryw i ddisgyblion chweched dosbarth, myfyrwyr prifysgol a'r cyhoedd wrando ar siaradwr sy'n gweithio'n agos gyda byd diwydiant, llywodraethau a'r byd academaidd.
Meddai'r Athro Perumal Nithiarasu, Deon Cysylltiol Ymchwil, Arloesi ac Effaith yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg a Chadeirydd Pwyllgor Darlith Zienkiewicz: “Mae Darlith Zienkiewicz, sydd bellach yn ei seithfed flwyddyn, yn gyfle gwych i groesawu ymchwilwyr a dylanwadwyr uchel eu parch ym maes gwyddoniaeth a pheirianneg amlddisgyblaethol, gan gyflwyno eu safbwyntiau ar bwysigrwydd cynyddol y sector wrth fynd i'r afael â heriau byd-eang eithafol.
“Un o'r heriau mwyaf amserol rydyn ni'n ei hwynebu yw cyflwr presennol gofal iechyd, ac mae'n fraint i ni groesawu'r Athro Darzi, a fydd yn esbonio sut gallai newid tuag at achub y blaen a nodi grwpiau mewn perygl helpu i liniaru sawl elfen o'n baich iechyd presennol.”
Ychwanegodd yr Athro Darzi, deiliad Cadair Llawfeddygaeth Paul Hamlyn: “Gall y newid hwn ailgyfeirio ein hymdrechion iechyd tuag at rai o safon a diogelwch uwch drwy offer technolegol y genhedlaeth nesaf sy'n amrywio o synwyryddion ac ymyriadau digidol, cymorth gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial, a thargedu gwaith trefnu ac addasu genetig ac epigenetig yn yr hinsawdd.”
Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Rydyn ni wrth ein boddau y bydd yr Athro Darzi yn ymuno â rhestr uchel ei bri o siaradwyr gwadd blaenorol wrth draddodi Darlith Zienkiewicz eleni.
“Ym Mhrifysgol Abertawe, rydyn ni'n ymrwymedig i ddefnyddio ein cryfderau ymchwil ac arloesi sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol i fynd i'r afael â heriau'r presennol a'r dyfodol. Felly, rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at glywed gan yr Athro Darzi am y potensial i arloesi ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg er mwyn mynd i'r afael â'r heriau presennol sy'n ymwneud â darparu gofal iechyd, yn y DU a'r tu hwnt.”
Ar ôl cael ei wahodd i draddodi Darlith Zienkiewicz eleni, meddai'r Athro Darzi: “Mae'n anrhydedd aruthrol dilyn y rhagflaenwyr uchel eu bri sydd wedi traddodi'r ddarlith glodfawr hon, yn enwedig ar yr adeg bresennol, lle mae pwyslais byd-eang cynyddol ar ddeallusrwydd artiffisial a thechnolegau cysylltiedig, a'u potensial helaeth i drawsnewid bron pob agwedd ar ein heconomi a'n cymdeithas, gan gynnwys gofal iechyd.”
Yn ogystal â bod yn llawfeddyg ymgynghorol yn Ymddiriedolaeth y GIG Coleg Imperial ac Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Royal Marsden, yr Athro Darzi yw Cadeirydd Cydweithrediad Mynediad Carlam y GIG, Cyfarwyddwr Cwrs Rhaglen Arweinyddiaeth Iechyd Digidol y GIG a Chadeirydd y Fenter Meddygaeth Ragataliol a Diogelwch Iechyd yn Flagship Pioneering yn y DU.
Yn 2002, cafodd yr Athro Darzi ei urddo’n farchog am ei wasanaethau i feddygaeth a llawfeddygaeth, ac yn 2007, cafodd ei gyflwyno i Dŷ’r Arglwyddi yn y DU fel yr Arglwydd Darzi o Denham a’r Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Iechyd.
Mae'r Athro Darzi wedi bod yn aelod o Dra Anrhydeddus Gyfrin Gyngor Ei Fawrhydi ers 2009 a dyfarnwyd yr Urdd Teilyngdod iddo yn 2016.
Mae'n Gymrawd yn Academi'r Gwyddorau Meddygol a'r Gymdeithas Frenhinol ac yn Gymrawd er Anrhydedd yn Academi Frenhinol Peirianneg.
Gwyliwch Ddarlith Zienkiewicz 2023 yn fyw nos Fercher 22 Tachwedd, am 6pm.