Cyflwynodd tri ymchwilydd i weithgarwch corfforol ac iechyd plant eu gwaith mewn cynhadledd ryngwladol fawr a gynhaliwyd gan Brifysgol Abertawe, gyda chefnogaeth dyfarniadau gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru.
Mae'r ymchwilwyr yn astudio ystod eang o bynciau sy'n ymwneud ag iechyd plant, gan gynnwys sut gall cerddoriaeth gynyddu cyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol, dylanwad llygredd aer ar weithrediad ysgyfaint pobl ifanc, a rôl cyswllt rhwng y cenedlaethau wrth wella iechyd a lles.
Mae'r gynhadledd Gwaith a Ffisioleg Pediatrig, a sefydlwyd ym 1967 ac a gynhelir bob dwy flynedd, yn un o'r cynulliadau rhyngwladol pwysicaf o arbenigwyr ym maes gwyddor ymarfer corff ac iechyd plant. Ei nod yw amlygu a chryfhau ymchwil yn y pwnc a hwyluso rhwydwaith byd-eang o gydweithredwyr.
Trefnwyd y gynhadledd eleni, a ddenodd 90 o gynrychiolwyr o 17 gwlad, gan dîm o Adran Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prifysgol Abertawe, dan arweiniad yr Athro Melitta McNarry a'r Athro Kelly Mackintosh â chymorth Dr Amie Richards a'r Athro Gareth Stratton.
Y dyfarniadau a helpodd i ariannu'r tri ymchwilydd i roi cyflwyniadau gwyddonol yn y gynhadledd oedd ysgoloriaethau teithio a ddarparwyd gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru.
Mae Samanta Gudziunaite yn cynnal ymchwil PhD i'r berthynas rhwng llygredd aer a gweithrediad ysgyfaint pobl ifanc, y rhai hynny sydd ag asthma a'r rhai heb y cyflwr:
"Roedd y gynhadledd yn gyfle i mi gyflwyno fy ymchwil i gynulleidfa o arbenigwyr blaenllaw. Roeddwn i'n gallu cael adborth gwerthfawr ar fy ngwaith. Roedd hefyd yn gyfle i feithrin cysylltiadau ag ymchwilwyr eraill yn y maes hwn o bob cwr o'r byd, gan gynnwys Brasil, y Swistir a Chanada. Heb os, bydd hyn oll o fudd i'm hymchwil a fy nhaith academaidd a phroffesiynol.
Hoffwn fynegi fy niolchgarwch enfawr i'r Cwmni Lifrai gan na fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb yr arian ganddynt."
Mae Dr Rachel Knight yn ymchwilydd gyrfa gynnar sy'n gweithio i Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru (WIPAHS). Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar weithgarwch corfforol, ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn sut gellir defnyddio cyswllt rhwng cenedlaethau gwahanol i feithrin iechyd gwell:
"Fel ymchwilydd ar ddechrau fy ngyrfa, gan symud i ymchwil ar ôl gyrfa yn y GIG yng Nghymru, roedd cael mynd i gynhadledd ryngwladol o'r safon hon yn rhoi sbardun i mi fynd ar drywydd fy ngwaith ymchwil a'm dyheadau clinigol, archwilio cyfleoedd cydweithredu ar gyfer y dyfodol, ac amlygu ymagwedd bwysig a allai fod o fudd i iechyd ar lefel y boblogaeth ar draws hyd oes.
Gallai cyswllt rhwng y cenedlaethau, fel dull strategol i herio ystrydebau ynghylch oedran a dylanwadu'n gadarnhaol ar ymddygiad iechyd mewn oedolion hŷn a phlant, fod yn ffordd newydd o ddylanwadu ar bolisïau cenedlaethol sy'n ymdrechu i sicrhau Cymru iachach."
Roedd Alex Swain, myfyriwr PhD sy'n gweithio ar y cyd â Polar Electro, yn cyflwyno ymchwil ychwanegol yn archwilio'r cysylltiadau rhwng cerddoriaeth a gweithgarwch corfforol ar gyfer cynyddu dealltwriaeth plant o weithgarwch corfforol a'u cyfranogiad yn hynny:
"Rwy'n ddiolchgar iawn i Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru am ei gefnogaeth, sydd wedi fy ngalluogi i gymryd rhan yng Nghynhadledd PWP 2023 yng Nghas-gwent. Cynhaliwyd y digwyddiad hwn gan Brifysgol Abertawe, ac roedd yn ganolog i'm hymchwil i drosi gweithgarwch corfforol yn gerddoriaeth i blant. Wrth gyflwyno 'Moving Our Feet to Make a Beat', cefais ganmoliaeth a gwnes i feithrin cydweithrediadau amhrisiadwy.
Mae'r dyfarniad hwn wedi cyfoethogi fy nhaith ymchwil ac wedi ehangu cyrhaeddiad yr ymchwil ym maes iechyd pediatrig."
Sefydlwyd Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru ym 1993 ac un o'i nodau yw "hyrwyddo addysg, gwyddoniaeth, technoleg a'r celfyddydau yng Nghymru." Mae'n cyflawni hyn drwy helpu pobl ifanc ledled Cymru i feithrin eu doniau a'u sgiliau drwy raglen dyfarniadau flynyddol o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i fyfyrwyr mewn ysgolion, prifysgolion a cholegau technegol, yn ogystal â phrentisiaid a phobl ifanc yn y lluoedd arfog.
Meddai'r Uwchgapten John Charles, Meistr Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru:
"Rydym wrth ein boddau'n gallu cefnogi'r tri ymchwilydd ifanc dawnus hyn i ymuno â'r gynhadledd bwysig hon ac yn dymuno'n dda iddynt yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol ym maes ymchwil bediatrig".
Meddai'r Athro Melitta McNarry, ar ran tîm Prifysgol Abertawe sy'n trefnu'r gynhadledd:
"Roeddem yn falch iawn o gael cefnogaeth y Cwmni Lifrai a helpodd dri ymchwilydd ifanc i fynd i'r gynhadledd. Mae PWP yn gynhadledd unigryw, sydd wir yn canolbwyntio ar feithrin datblygiad y genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil bediatrig."