Mae myfyrwraig bioleg amgylcheddol o Abertawe wedi cael ei dewis gan National Geographic i ymuno â'i restr o Archwilwyr Ifanc - unigolion eithriadol yn eu meysydd - ac mae newydd gyflwyno ei gwaith ymchwil ym mhencadlys y sefydliad yn Washington DC.
Mae Betty Jahateh o Gambia'n astudio MSc mewn Bioleg Amgylcheddol: Cadwraeth a Rheoli Adnoddau yn Adran y Biowyddorau, Prifysgol Abertawe.
Yn arbenigwr yn y gwyddorau morol a dŵr croyw, mae wedi addysgu mwy na 1,500 o fyfyrwyr am y pwnc. Mae hi hefyd wedi cydlynu prosiectau monitro amgylcheddol gyda gwyddonwyr sy'n ddinasyddion, wedi arwain prosiect ar ymwthiad dŵr halen, ac wedi hyfforddi myfyrwyr ar ecoleg mangreoedd a'u hadfer.
Y llynedd, aeth Betty i COP27 i rannu ei safbwynt ar newidiadau yn yr hinsawdd yng ngorllewin Affrica.Mae wedi gweithio'n ddiflino i ddeall effeithiau newid yn yr hinsawdd a hyrwyddo addysg amgylcheddol yng nghymunedau arfordirol Gambia.
Sefydlwyd National Geographic ym 1888 ac mae'n ariannu'r "unigolion gorau a mwyaf dawnus sydd wedi ymrwymo i ddarganfyddiadau gwyddonol a deall ein byd". Caiff Archwilwyr Ifanc National Geographic eu dewis am eu dewrder eithriadol, eu harweinyddiaeth a'u hatebion sy'n cael eu harwain gan effaith.
Yn ddiweddar, aeth Betty i gyfarfod Archwilwyr Ifanc National Geographic yn ei bencadlys yn Washington DC.Bu'n siarad am ei phrosiect "Salty Much?", a ariennir gan National Geographic, sy'n astudio effeithiau ymwthiad halen ar hyd isafonydd afon Gambia.
Meddai Betty Jahateh, wrth ddisgrifio ei hymweliad ag America i gyflwyno ei gwaith ymchwil ym mhencadlys National Geographic:
"Roedd yn brofiad gwych a rhoddodd y cyfle i mi weld yn uniongyrchol y cymorth a'r cynhesrwydd gwych yng nghymuned National Geographic. Mae'n nhw'n debyg i deulu, lle mae pawb yn eich annog ac yn awyddus i'ch gweld chi'n llwyddo, gan gynnig eu hadnoddau nhw i chi.
Hefyd, cefais argraff dda iawn o rinweddau fy nghyd-archwilwyr ifanc; daeth i'r amlwg bod pob un ohonom yn haeddu bod yn rhan o'r gymuned ragorol hon.
Mae'r angerdd, yr ymrwymiad a'r ymroddiad sydd gennym tuag at les ein planed yn rhyfeddol. Gwnaethom oll gefnogi ein gilydd yn llwyr yn ystod y digwyddiad arbennig hwn ond hefyd gydweithio i wella ein prosiectau hefyd".
Meddai Dr Aisling Devine o Adran y Biowyddorau, Prifysgol Abertawe, Cyfarwyddwr y Rhaglen (MSc mewn Bioleg Amgylcheddol: Cadwraeth a Rheoli Adnoddau:
"Mae'n newyddion gwych bod Betty wedi cael ei dewis ar gyfer gwobr archwiliwr National Geographic. Bu Betty'n frwdfrydig ac yn ymroddedig i faterion bioleg amgylcheddol o'r dechrau, ac mae'n wych gweld bod y gwaith caled wedi talu ar ei ganfed drwy ennill y wobr hon.
Does dim amheuaeth y bydd Betty'n arweinydd y gwyddorau amgylcheddol yn y dyfodol".
Mae'r Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe'n cynnig cyrsiau israddedig mewn bioleg, sŵoleg a bioleg y môr. Caiff y cyrsiau hyn oll eu hachredu gan y Gymdeithas Bioleg Frenhinol.Maen nhw hefyd yn cynnig cyrsiau graddau Meistr a addysgir, megis yr un bioleg amgylcheddol y mae Betty'n ei hastudio ar hyn o bryd.
Mae'r adran yn cydweithio â sefydliadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf, barnwyd bod 96.4% o waith ymchwil yr adran o'r radd flaenaf neu'n rhagorol yn rhyngwladol.
Mae Abertawe'n lleoliad gwych i astudio'r biowyddorau. Mae'r cynefinoedd hyn wedi'u lleoli'n agos ym Mhenrhyn Gŵyr (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol cyntaf y DU), yng Nghwm Tawe ac ymhellach i ffwrdd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Sir Benfro.
Mae gan yr adran hefyd long ymchwil catamarán pwrpasol gwerth £1.3 miliwn sy'n galluogi myfyrwyr ac ymchwilwyr i gynnal gweithgareddau ym Mae Abertawe ac ymhellach i ffwrdd.
Adran y Biowyddorau, Prifysgol Abertawe