Mae astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe'n amlygu sut mae ‘canolfannau clyd’ Abertawe, a sefydlwyd y gaeaf diwethaf mewn ymateb i'r argyfwng costau byw, wedi gwneud cyfraniad sylweddol at feithrin cysylltiadau cymdeithasol, lliniaru unigrwydd a gwella lles cyffredinol defnyddwyr.
Darparodd Cyngor Abertawe grantiau gwerth £80,000 gan Lywodraeth Cymru i elusennau a sefydliadau gwirfoddol ac nid-er-elw i'w helpu i gynnig mannau diogel, cynnes a chroesawgar mewn cymunedau ar draws Abertawe lle gallai pobl fynd yn ystod y gaeaf.
Yn y pen draw, galwyd y ‘canolfannau clyd’, a lansiwyd ym mis Tachwedd 2022, yn Lleoedd Llesol Abertawe, lle byddai sefydliadau cymunedol a mannau cyhoeddus yn agor eu drysau i gynnig lle cynnes i eistedd, yfed diod boeth a chael cymorth lleol.
Defnyddiodd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe grwpiau ffocws, cyfweliadau a holiaduron i ddeall goblygiadau ehangach Lleoedd Llesol Abertawe ar gysylltiadau cymdeithasol a chryfder cymunedol.
Un o ganfyddiadau amlycaf yr astudiaeth oedd effaith fawr Lleoedd Llesol Abertawe ar feithrin cysylltiadau cymdeithasol a lleihau teimladau o unigrwydd.
Yn ôl adborth gan fwy na 90 y cant o’r sefydliadau a oedd yn cymryd rhan, gwnaed gwahaniaeth gwirioneddol i'r rhai hynny a oedd yn ymweld â'r lleoedd, wrth i 27 y cant awgrymu gwelliant yn eu lles cyffredinol.
Canfu'r astudiaeth hefyd fod Lleoedd Llesol Abertawe wedi mynd ymhellach na'u prif ddiben, gan ehangu neu atgyfnerthu gwasanaethau i'r rhai hynny a oedd mewn angen, ac ystyrir yn gyffredinol eu bod yn ddiogel ac yn gynhwysol. Yn ôl cyfranogwyr, roeddent yn fannau cyfeillgar, anfeirniadol, hygyrch a dibynadwy.
Yn ogystal, roedd yn amlwg bod holl Leoedd Llesol Abertawe'n fannau dysgu deinamig, gan annog pobl i rannu gwybodaeth a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol.
Meddai Ella Rabaiotti o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Abertawe: “Sefydlwyd y ‘canolfannau clyd’ mewn ymateb i'r argyfwng costau byw, a rhagorodd Lleoedd Llesol Abertawe ar ddisgwyliadau drwy gynnig mwy na man i aros yn gynnes a mwynhau diod boeth – gwnaethon nhw ddarparu gwres emosiynol hefyd. Y canlyniad mwyaf nodedig, un o oblygiadau anfwriadol y fenter, oedd yr effaith fawr ar feithrin cysylltiadau cymdeithasol a lliniaru ynysu.
“Mae menter Lleoedd Llesol Abertawe wedi cael adborth hynod gadarnhaol ac mae llawer o'r lleoliadau'n parhau â'r fenter er bod y cyllid wedi dod i ben. Fodd bynnag, mae'r astudiaeth yn awgrymu bod angen ymchwil ychwanegol i ddeall y rhwystrau sy'n atal rhai unigolion rhag mynd i Leoedd Llesol Abertawe, ac i archwilio strategaethau ymatebol. Ar ben hynny, gall fod cyfle i ddefnyddio Lleoedd Llesol Abertawe i ddatblygu ymagwedd gynhwysfawr sy'n seiliedig ar leoedd, gan gynnig cymorth a chyngor pwrpasol ar lefel uwch.”
Meddai Hayley Gwilliam, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe ar gyfer Cefnogi Cymunedau: “Roeddwn i'n ffodus i ymweld â llawer o Leoedd Llesol Abertawe y gaeaf diwethaf a gwelais i o lygad y ffynnon eu bod nhw'n gwneud gwahaniaeth i les ein preswylwyr.
“Rwy'n croesawu'r ymchwil hon gan Brifysgol Abertawe gan ei bod hi'n cadarnhau bod y fenter wedi cael effaith go iawn a pharhaus ar fywydau pobl.
“Unwaith eto, mae Cyngor Abertawe wedi sicrhau bod grantiau ar gael i grwpiau a sefydliadau a fydd yn cynnal Lleoedd Llesol Abertawe yn ystod y gaeaf hwn ac rwy'n falch ein bod ni'n parhau â'r cymorth hwn i helpu pobl i ymdopi â'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysu.”