Mae Prifysgol Abertawe wedi'i gosod ymysg y 100 prifysgol orau yn Ewrop, yn ôl ail rifyn o Dablau Prifysgolion y Byd QS: Ewrop 2025.
Mae'r safle nodedig hwn yn rhoi cipolwg unigryw o'r tirlun addysgol yn Ewrop, gan gynorthwyo myfyrwyr, addysgwyr ac ymchwilwyr i wneud penderfyniadau cadarnhaol am brifysgolion.
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd y 97ain safle allan o 685 o sefydliadau yn Ewrop, gan godi 6 safle ers 2024.
Erys dyfyniadau fesul papur yn fetrig perfformio gorau Abertawe gan gyrraedd safle 21 yn Ewrop. Mae gwaith y Brifysgol ar gynaliadwyedd wedi cael ei gydnabod gan gyrraedd safle 37 yn Ewrop a safle 23 yn y DU. Ar gyfer enw da cyflogwyr, roedd Abertawe yn safle 76 yn Ewrop ac yn safle 25 yn y DU.
Mae'r safle diweddaraf hwn yn dilyn perfformiad gwych Abertawe mewn tablau cynghrair o bwys eraill yn ddiweddar. Ym mis Mehefin 2024, cyrhaeddodd Abertawe ei safle gorau erioed sef 298 yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS, ynghyd â safle byd-eang o 80 ar gyfer cynaliadwyedd.
Yn ddiweddar, cyflawnodd Abertawe safle 65 ar y cyd yn Safleoedd Effaith Prifysgolion Times Higher Education (THE) 2024.
Meddai'r Athro Judith Lamie, Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Ymgysylltu Rhyngwladol: "Rwy'n hynod falch o'n cyflawniadau yn y safleoedd QS hyn. Mae'r cyflawniad diweddaraf hwn yn adeiladu ar ein llwyddiannau diweddar mewn tablau cynghrair o bwys eraill ac mae'n ategu ein hymrwymiad i ragoriaeth academaidd, ymchwil lawn effaith a chynaliadwyedd.
"Mae ein perfformiad uchel ar draws metrigau amrywiol, yn enwedig dyfyniadau fesul papur a chynaliadwyedd, yn adlewyrchu ein hymroddiad a gwaith caled ein staff a myfyrwyr. Rydym yn canolbwyntio'n barhaus ar anelu at ragoriaeth a chreu effaith gadarnhaol yn lleol ac yn fyd-eang".