Daeth dros 200 o arbenigwyr mewn rheoli plâu at ei gilydd ym Mhrifysgol Abertawe rhwng 2 a 4 Medi am gynhadledd fawr i annog arloesedd yn y maes.
Gyda'r ffocws ar Reoli Plâu yn Integredig (IPM), trefnwyd y digwyddiad ar y cyd gan IMBA, BioHYB Cynhyrchion Naturiol Prifysgol Abertawe a'r DU.
Amlygodd y digwyddiad gyfleoedd newydd mewn diogelu cnydau a rheoli pryfed sy'n cludo clefydau sy'n effeithio ar bobl ac anifeiliaid yn gynaliadwy. Roedd wedi cynnwys siaradwyr arbennig oedd wedi rhannu ymchwil arloesol ac arferion arloesol i ddulliau rheoli plâu sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd.
Roedd rhwydweithio drwy gydol y digwyddiad wedi rhoi cyfle i'r cyfranogwyr gysylltu ag arweinwyr yn y diwydiant, ymchwilwyr, a gwneuthurwyr polisi sy'n ymroddedig i wella strategaethau ecogyfeillgar mewn amaethyddiaeth.
Roedd y symposiwm wedi meithrin cydlafurio ond hefyd wedi rhoi pwyslais ar yr angen brys am atebion cynaliadwy mewn amgylchedd sy'n newid yn gyflym, gan sicrhau canlyniadau iechyd gwell ar gyfer yr holl rywogaethau.
Mae Rheoli Plâu yn Integredig yn seiliedig ar y ddealltwriaeth bod materion amgylcheddol a chynhyrchu bwyd yn gysylltiedig. Ei brif nod yw trin cnydau iach wrth warchod ecosystemau amaethyddol rhag unrhyw darfu. Trwy flaenoriaethu dulliau naturiol, mae Rheoli Plâu yn Integredig yn cynnwys cyfuniad o strategaethau biolegol, diwylliannol, ymarferol a chemegol sydd ar y cyd yn lleihau costau economaidd, peryglon iechyd a difrod ecolegol.
I Reoli Plâu yn Integredig gyflawni ei photensial llawn, mae cydweithrediad rhwng sectorau amrywiol - yn enwedig rhanddeiliaid y diwydiant, ymchwilwyr academaidd, ac asiantaethau rheoleiddiol - yn hanfodol.
Roedd mynychwyr symposiwm eleni'n cynnwys noddwyr; Russel IPM, MGK, i2L Research a‘r cyhoeddwr ymchwil Frontiers, ochr yn ochr â mwy na 70 o gynrychiolwyr o sefydliadau a chynrychiolwyr o fwy na 20 prifysgol o gwmpas y byd.
Roedd y digwyddiad o fri hwn wedi dod ag academyddion, arweinwyr y diwydiant, a swyddogion llywodraeth leol ynghyd i weithio gyda'i gilydd i annog arloesi o fewn y sector Rheoli Plâu yn Integredig. Trwy ddarparu platfform unigryw i ymchwilwyr, technolegwyr, a defnyddwyr, ynghyd â sgyrsiau pwrpasol i archwilio cyfleoedd cyllido, roedd y symposiwm wedi helpu cyfoedion i ymgysylltu a chyfnewid syniadau am ymchwil bellach.
Rhannwyd y symposiwm yn ddeg sesiwn ar wahân ar draws y digwyddiad tri diwrnod o hyd;
- Plâu sy'n cludo clefydau a phlâu niwsans
- Semiogemegion
- Iechyd Coed
- Iechyd Gwenyn ac Entomofectori
- Bioblaladdwyr Microbaidd
- Cymwysiadau AI a Synhwyro
- Heriau Rheoli Plâu yn Integredig
- Microbau Aml-swyddogaeth
- Heriau Rheoleiddiol
- Tirwedd Buddsoddi a Masnacheiddio
Meddai Dr Farooq Shah o'r BioHYB Cynhyrchion Naturiol:
"Rydw i'n hynod falch o dwf parhaus y digwyddiad a'r ystod amrywiol o randdeiliaid sy'n dod ynghyd yno bob blwyddyn. Roedd symposiwm eleni wedi croesawu arbenigwyr o'r diwydiant, y byd academaidd, sefydliadau dinesig, a defnyddwyr megis tyfwyr, gan greu platfform rhyngddisgyblaethol gwirioneddol.
Roedd y cyflwyniadau a thrafodaethau wedi arddangos y datblygiadau diweddaraf ym maes cynhyrchu bwyd cynaliadwy ac opsiynau bioreolaeth sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd, trwy gynnig cyfleoedd hanfodol ar gyfer rhwydweithio a chydweithio. Mae cynnal y digwyddiad yn Abertawe, ochr yn ochr â BioHUB Cynhyrchion Naturiol a Phrifysgol Abertawe'n foment falch i'n dinas ac yn garreg filltir sy'n amlygu ein hymrwymiad cyffredin i lywio atebion cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd Dr Peter McEwen o Ymgynghorwyr PKMC:
"Dyma'r flwyddyn i Reoli Plâu yn Integredig ddod o hyd i'w safle ac aeddfedu. Gyda thwf yn nifer y mynychwyr, arddangoswyr a siaradwyr, yn ogystal â sesiynau newydd ym maes coedwigaeth a phlâu sy'n cludo clefydau, a chyfraniadau gwyddonol arloesol, mae Rheoli Plâu yn Integredig wedi datblygu yn ddigwyddiadau mae'n rhaid eu mynychu. Mae Rheoli Plâu yn Integredig yn gyfuniad unigryw o ddiddordebau academaidd a busnes, lle mae cytundebau'n cael eu gwneud, prosiectau'n cael eu dechrau a phethau newydd yn cael eu dysgu."
Noddwyd digwyddiad eleni gan y canlynol;
- Llywodraeth y DU
- Cyngor Abertawe
- Russell IPM
- Russell Bio Solutions
- MGK
- I2L Research
- Razbio
- Frontiers
- Koppert
- Penderyn