Dyn yn pwyntio rhywbeth allan i fenyw a dyn mewn theatr llawdriniaeth

Dr Denis Mukwege yn esbonio triniaeth i Dduges Caeredin gyda'r Athro Iain Whitaker yn un o’r ystafelloedd efelychu arbenigol ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae cydweithrediad rhyngwladol arloesol, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, i helpu dioddefwyr trais rhywiol mewn ardaloedd gwrthdaro wedi croesawu ymweliad gan EHB Duges Caeredin.

A hithau'n eiriolwr angerddol dros gynyddu ymwybyddiaeth o effaith gwrthdaro ar fenywod, ymwelodd Duges Caeredin ag Abertawe i gwrdd â'r tîm sy'n rhan o gydweithrediad SPARC newydd (Swansea - Panzi Alliance for the Reconstruction & Care of victims of conflict related sexual violence) sydd â'r nod o rannu arbenigedd llawfeddygol rhwng meddygon yn y DU a Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo.

Yn gynharach eleni, arweiniodd yr Athro Iain Whitaker, Athro Llawfeddygaeth Blastig yn Ysgol Feddygaeth y Brifysgol, grŵp o arbenigwyr ar ymweliad ag Ysbyty Panzi i gwrdd â'r enillydd Gwobr Nobel, Dr Denis Mukwege, sydd wedi treulio ei yrfa yn trin dioddefwyr trais rhywiol sy’n gysylltiedig â gwrthdaro.

Yn ei rôl fel Noddwr The Scar Free Foundation, mae'r Dduges wedi ymweld â'r Panzi Foundation yn Bukavu o'r blaen. Ei Huchelder Brenhinol a awgrymodd y dylai'r ddau lawfeddyg gwrdd i archwilio a allai The Scar Free Foundation gynnig arbenigedd i gefnogi gwaith Dr Mukwege a'i dîm wrth ymdrin ag anafiadau goroeswyr trais rhywiol mewn cysylltiad â gwrthdaro. 

Yn ei rôl fel Noddwr The Scar Free Foundation, mae'r Dduges wedi ymweld â'r Panzi Foundation yn Bukavu o'r blaen. Ei Huchelder Brenhinol a awgrymodd y dylai'r ddau lawfeddyg gwrdd i archwilio a allai The Scar Free Foundation gynnig arbenigedd i gefnogi gwaith Dr Mukwege a'i dîm wrth ymdrin ag anafiadau goroeswyr trais rhywiol mewn cysylltiad â gwrthdaro. 

Yn ystod yr ymweliad â Phrifysgol Abertawe, dywedodd y Dduges: "Pan ymwelais i ag Ysbyty Panzi, dywedon nhw wrthyf fod llawer o bobl yn dod drwy'r drws, yn cael tynnu eu lluniau ond byth yn dod yn ôl. Roeddwn i'n meddwl, alla i ddim fod yn un o'r bobl hynny sy'n cerdded i mewn, cael tynnu fy llun ac yna'n cerdded i ffwrdd."

Aeth Dr Mukwege i Abertawe i gwrdd eto â'i Huchelder Brenhinol, yr Athro Whitaker a'i gydweithwyr i drafod y fenter a'i chynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Croesawyd yr ymwelwyr gan ReconRegen yng Nghanolfan Efelychu a Dysgu Ymdrochol (SUSIM) newydd y Brifysgol. Darparodd ei thechnoleg wal ymdrochi ffordd unigryw o arddangos gwaith y fenter hyd yn hyn ac esbonio pam y mae’n hollbwysig i ddioddefwyr trais rhywiol sy’n gysylltiedig â gwrthdaro.

Cafodd y Dduges a'r gwesteion drosolwg o'r daith i Weriniaeth Ddemocrataidd Congo, yn ogystal â chamau nesaf y prosiect, gan gynnwys datblygu prototeipiau hyfforddiant llawfeddygol wedi'u creu drwy argraffu 3D, cyfnewid gwybodaeth ac adeiladu gallu.

Hwn oedd ail ymweliad Duges Caeredin ag Abertawe i gael cipolwg agosach ar waith yr Athro Whitaker gyda Rhaglen Llawdriniaeth Adluniol a Meddygaeth Aildyfu (ReconRegen) The Scar Free Foundation ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Meddai'r Athro Whitaker, sydd hefyd yn arweinydd arbenigedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer llawfeddygaeth: "Roedd hi'n fraint croesawu'r Dduges i Brifysgol Abertawe eto. Rydym yn falch iawn bod Ei Huchelder Brenhinol yn dangos diddordeb personol yn ein gwaith, ac roedd rôl Ei Huchelder Brenhinol yn allweddol wrth sefydlu’r fenter hon.

"Roedd yr ymweliad ag Ysbyty Panzi yn anhygoel, roedd hynny'n un o uchafbwyntiau fy ngyrfa, o safbwynt personol a phroffesiynol. Roedd gweld gwydnwch ac agwedd gadarnhaol anhygoel y menywod yn Ysbyty Panzi a'r gwaith mae Dr Mukwege wedi'i wneud dros ddau ddegawd yn brofiad hynod emosiynol. Rydym yn ymrwymedig i weithio gyda'n cydweithwyr yn Ysbyty Panzi i wella gofal ag ysgogi datblygiadau i wneud gwahaniaethau a allai newid bywydau goroeswyr."

Dywedodd Dr Mukwege fod tîm yr Athro Whitaker wedi bod yn ysbrydoliaeth, a diolchodd i'r Dduges am ei hymrwymiad parhaus i gynyddu ymwybyddiaeth o ddioddefwyr trais rhywiol mewn ardaloedd gwrthdaro.

Meddai: "Fydden ni ddim yma heddiw heb waith Ei Huchelder Brenhinol. Mae ei chefnogaeth yn bwysig iawn i ni i gyd.

"Mae'r rhyfel ar gyrff menywod yn ymosodiad ar ein dynoliaeth gyffredin ac allwn ni byth ei oddef na'i dderbyn, yr unig reswm maen nhw'n dioddef yw am eu bod yn fenywod."

Dywedodd Ei Huchelder Brenhinol y byddai'r cydweithrediad yn cynnwys rhannu technegau, hyfforddiant ac uwchsgilio i helpu goroeswyr: "Y nod yw taflu goleuni ar yr hyn sy'n gallu cael ei wneud, yn enwedig yn yr amgylchedd mae'r menywod hyn yn byw ynddo.

Diolch i chi, Iain, am dderbyn yr her hon.  Rwy'n gwybod ei bod yn mynd â chi i ranbarthau fyddech chi ddim wedi mynd iddynt o angenrheidrwydd, ond diolch i chi am fynd yno. Rwy'n meddwl ein bod wir yn dechrau rhywbeth yma ac eisoes rydym wedi gwneud gwahaniaeth a dyna'r nod pennaf."

Ariannwyd y daith i Weriniaeth Ddemocrataidd Congo gan Gynllun Grant Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru a'r Rhaglen Cyfnewid Symudedd Ymchwil, Taith, gyda chymorth gan The Scar Free Foundation,Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu a Swyddfa Duges Caeredin.

Meddai’r Pennaeth Rhaglenni yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Michael Bowdery: "Rydyn ni'n falch bod Cymru'n chwarae ei rhan wrth gefnogi'r cydweithrediad rhyngwladol hwn, sydd wedi cael cydnabyddiaeth frenhinol gan Ei Huchelder Brenhinol. Bydd cydweithrediad agos yr Athro Whitaker â Dr Mukwege a'r tîm yn Ysbyty Panzi yn hollbwysig wrth helpu dioddefwyr trais rhywiol mewn ardaloedd gwrthdaro yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo, ac mae'n hyfryd gweld sut mae ymchwil yng Nghymru yn helpu yn y maes hwn."

Ychwanegodd Prif Weithredwr The Scar Free Foundation, yr Is-gadfridog Richard Nugee: "Mae ein noddwr, Ei Huchelder Brenhinol Duges Caeredin, yn ymrwymedig i gynyddu ymwybyddiaeth o drais rhywiol sy'n gysylltiedig â gwrthdaro. Rydym wrth ein boddau ei bod yn hyrwyddo'r bartneriaeth hon sy'n torri tir newydd. Mae'r fenter hon yn gyfle i greu newid go iawn ac effaith hirdymor drwy arloesi llawfeddygol, gan ddarparu cymorth corfforol a seicolegol hollbwysig i oroeswyr trais rhywiol sy'n gysylltiedig â gwrthdaro yn fyd-eang."

 Rhagor o wybodaeth am ymweliad y tîm ag Ysbyty Panzi

Rhannu'r stori