Mae gwaith Prifysgol Abertawe i helpu i wella diagnosio canser y prostad wedi cael ei gydnabod yng Ngwobrau GIG Cymru eleni.
Mae'r Brifysgol wedi cydweithio â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (UHB) a Rhaglen TET Cancer Research UK i ddatblygu llwybr diagnosis cyflym newydd ar gyfer canser y prostad (PROSTAD) i fynd i'r afael ag oedi wrth ddiagnosio canser y prostad.
Mae'r llwybr canser pwrpasol yn dilyn taith y claf, yn gwella cyfathrebu â chleifion ac yn nodi aneffeithlonrwydd.
Ers ei gyflwyno, mae wedi cael effaith gadarnhaol ar leihau amseroedd aros ac ar brofiad cleifion a staff:
- Mae'r amser o atgyfeiriad y meddyg teulu i gynnal MRI wedi gostwng o 22 ddiwrnod i 14 diwrnod.
- Mae'r amser i adrodd am MRI wedi'i leihau o 8 niwrnod i 1 diwrnod.
- Mae penderfyniadau adolygu clinigol a biopsi yn dod i law 1 diwrnod ar ôl cynnal MRI.
- Roedd yn well gan gleifion gael canlyniadau MRI a thrafod gofynion biopsi dros y ffôn.
- Mae gwelliannau'n rhoi mynediad cyflymach at ymchwiliadau radiolegol a phenderfyniadau ynghylch biopsi.
- Mae adborth cadarnhaol gan gleifion yn amlygu pwysigrwydd diagnosis amserol.
- Dywedodd staff wroleg fod gwell effeithlonrwydd o ran llif gwaith.
Roedd y cymorth academaidd a'r adnoddau gan Brifysgol Abertawe a Cancer Research UK yn ganolog i'r gwaith hwn, yn ogystal â chyfranogiad gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a grwpiau eirioli dros gleifion.
Meddai'r Athro Nick Rich, Athro Rheoli Gweithrediadau yn Yr Ysgol Reolaeth Abertawe: "Mae'r prosiect PROSTAD yn dangos yn glir y manteision sy'n deillio o'r bartneriaeth rhwng ein prifysgol a'r bwrdd iechyd a sut mae cyfuno ein hadnoddau yn cael effaith gadarnhaol.
"Mae'r prosiect wedi uno ymchwil gan nifer o ddisgyblaethau Prifysgol Abertawe, gan gynnwys y timau “meddwl am y dyfodol” a gefnogir gan yr Ysgol Feddygaeth, ac wedi dangos gwerth buddsoddiadau Cancer Research UK i sicrhau buddion allweddol i gleifion, eu hanwyliaid a gweithwyr proffesiynol yn ein rhanbarth a'r tu hwnt iddo."
Canser y prostad yw'r canser mwyaf cyffredin ymhlith dynion yn y DU, a gall oedi wrth gael diagnosis effeithio'n negyddol ar ganlyniadau ac ansawdd bywyd cleifion. Ar hyn o bryd, mae amseroedd aros diagnostig yng Nghymru yn fwy na'r amserlen a argymhellir, sef 28 niwrnod.
Meddai Mr Yeung Ng, Wrolegydd Ymgynghorol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Arweinydd Prosiect Clinigol PROSTAD: "Mae hwn wedi bod yn gydweithrediad llwyddiannus iawn sydd wedi lleihau'r amser o atgyfeirio i ddiagnosis o ganser y prostad 28 niwrnod i'n cleifion yn Hywel Dda. Bydd gwersi a ddysgir yn cael eu rhannu ar draws llwybrau canser eraill yn y bwrdd iechyd ac yn genedlaethol.
"Rwy'n ddiolchgar iawn i'n tîm clinigol ac ymchwil cyfan ac i'n cleifion am wneud y prosiect hwn yn llwyddiant."
Mae menter gwella llwybrau PROSTAD wedi cael ei chydnabod yng nghategori Gofal Effeithlon Gwobrau GIG Cymru 2024, a noddir gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.