Llun o'r ci ysgol Barney. Yn y cefndir mae plant o Ysgol Gynradd Oldcastle yn eistedd ar fagiau ffa wrth iddynt ddarllen. Llun gan: Simon Dando.

Mae menter newydd a arweinir gan Brifysgol Abertawe a’r fenter gyntaf o'i bath yn y Deyrnas Unedig, yn rhoi arweiniad arbenigol am ddim i ysgolion ynghylch sut i gyflwyno cŵn i greu amgylcheddau dysgu mwy llonydd a chadarnhaol sy'n ddiogel i ddisgyblion a chŵn.

Gan ddefnyddio cyllid gan Gyfrif Cyflymu Effaith UKRI, mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe a thîm o arbenigwyr o elusennau, ysgolion a sefydliadau hyfforddi wedi dod ynghyd i sefydlu’r Gynghrair Cŵn Ysgol Genedlaethol (NSDA), partneriaeth unigryw sy'n rhoi cyngor hygyrch sy'n seiliedig ar dystiolaeth i ysgolion ar sut i gyflwyno cŵn yn llwyddiannus ac yn foesegol i'w hystafelloedd dosbarth.

Wrth i gŵn gael eu cydnabod fwyfwy fel cyfeillion pwerus wrth feithrin ymdeimlad o gysur, cyfeillgarwch a chyfranogiad mewn ystafelloedd dosbarth, mae angen cynllunio gofalus, ymrwymiad a dealltwriaeth glir o sut i gydbwyso anghenion plant a chŵn.

Mae'r NSDA yn cydbwyso lles cŵn ag anghenion plant, gan sicrhau bod cŵn yn ffynnu yn eu rolau wrth gyfrannu'n ystyrlon i ysgolion. Mae'n gwneud hyn drwy amrywiaeth gynhwysfawr o adnoddau:

  • Astudiaethau achos ac enghreifftiau o raglenni cŵn llwyddiannus.
  • Templedi polisi y gellir eu teilwra i gyd-destunau ysgol penodol.
  • Arweiniad strategol ar sicrhau bod cŵn ysgol yn cydweddu â nodau addysgol.
  • Cyngor arbenigol ar asesu, hyfforddi a monitro cŵn ysgol.
  • Podlediadau sy'n cynnwys arbenigwyr rhyngwladol - o arbenigwyr mewn ymddygiad cŵn i weithwyr iechyd meddwl proffesiynol - yn trafod materion allweddol.
  • Adnoddau i randdeiliaid, gan gynnwys plant, rhieni, athrawon, llywodraethwyr a'r rhai hynny sy'n gyfrifol am y cŵn.

Dywedodd Emma Richards, athrawes o Academi Inspire ym Manceinion Fwyaf: “Byddai'r hyn y mae'r NSDA yn ei gynnig wedi bod yn ddefnyddiol iawn i ni pan wnaethon ni ystyried cyflwyno ci ysgol i ddechrau. Ers cael Robbie, mae llawer o ysgolion eraill wedi dod i ymweld ag ef a gofyn i ni am ei daith, felly byddai gallu cael cyngor gan eraill mewn un lle yn wych.

“Mae mor bwysig gallu cydbwyso lles y ci â'r gwaith y maen ei wneud yn yr ysgol.  Rydym yn ysgol fawr iawn ac rwy'n gwybod nad yw'r holl blant yn gweld Robbie bob dydd, ond rwyf hefyd yn gwybod nad ydw i am ei lorio a rhaid cael yr hyder i roi anghenion y ci yn gyntaf yn hytrach na phwysau gan yr ysgol.”

Mae'r Gynghrair yn fwy na hyb adnoddau; mae'n rhywle lle gall addysgwyr, ymchwilwyr ac arbenigwyr mewn lles cŵn gydweithio i fynd i'r afael â heriau a hyrwyddo arferion gorau. O seminarau ar-lein sy'n cysylltu athrawon ag arbenigwyr ar draws y byd i gydnabod cyfeillion cynol eithriadol drwy Wobr Ci Ysgol y Flwyddyn y DU, nod yr NSDA yw sbarduno sgyrsiau pwysig am ddyfodol cŵn ysgol.

Cafodd yr NSDA ei lansio'n swyddogol ddydd Mawrth 3 Rhagfyr mewn digwyddiad hybrid byd-eang yn Ysgol Crug Glas, lle croesawyd gwesteion o Affrica, Awstralia a'r tu hwnt, yn ogystal â Snoopy y Ci a'i gyfeillion.

Yn ystod y digwyddiad, siaradodd athrawon ac aelodau'r NSDA am nodau’r Gynghrair a'r buddion anhygoel y gall cŵn eu darparu.

Dywedodd Dr Helen Lewis, Athro Cysylltiol Addysg ym Mhrifysgol Abertawe a Chadeirydd y Gynghrair Cŵn Ysgol Genedlaethol: “Drwy’r NSDA, rydym wedi creu rhywle lle gall addysgwyr ac arweinwyr ysgolion ddod at ei gilydd i hyrwyddo cyflwyno cyfarwyddiadau cenedlaethol a sicrhau y caiff y ci cywir ei roi yn yr ysgol gywir er mwyn gweithio gyda'r dysgwyr cywir.”

Ychwanegodd Dr Marc Abraham, OBE, Cyd-sefydlwr ac Ysgrifennydd y Grŵp Ymgynghorol Hollbleidiol Seneddol ar gyfer Lles Cŵn (APDAWG), milfeddyg sy’n ymarfer a Llysgennad NSDA: “Mae'r effaith y gall y gynghrair hon ei chael ar athrawon, plant ac ysgolion yn sylweddol, gyda'r cyfle i ddarparu canllawiau clir sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer rhyngweithiadau diogel ac effeithiol rhwng cŵn a disgyblion.  Drwy feithrin cyfnewid gwybodaeth amlddisgyblaethol, gallwn greu partneriaethau cryf sy'n gallu cefnogi lles dysgwyr a chŵn fel ei gilydd.”

Rhagor o wybodaeth am y Gynghrair Cŵn Ysgol Genedlaethol.

E-bostiwch national-school-dog-alliance@abertawe.ac.uk am wybodaeth am sut i gymryd rhan.

Rhannu'r stori