Defnyddir yr awtoclaf er mwyn sterileiddio a phasteureiddio bwydydd tun (Lluniau ©Tata).

Defnyddir yr awtoclaf er mwyn sterileiddio a phasteureiddio bwydydd tun (Lluniau ©Tata).

Efallai eu bod yn ymddangos yn syml ac yn hen ffasiwn, ond mae caniau bwyd yn rhyfeddodau technoleg uchel yn ôl ymchwilwyr, sy'n esbonio'r profion gwyddonol a ddefnyddir i sicrhau bod caniau bwyd yn gweithio'n ddiogel ac yn effeithiol.

Mae tîm ymchwil y Sefydliad Dur a Metelau (SaMI) ym Mhrifysgol Abertawe yn rhoi cipolwg i ni ar eu gwaith i ddathlu eu 1000fed prosiect ymchwil ar y cyd â Tata Steel, partneriaid hirsefydlog y Brifysgol.

Mae dur yn ddiwydiant technoleg uchel yr 21ain ganrif. Ceir dros 3,500 o raddau dur, nad oedd 75% ohonynt yn bodoli 20 mlynedd yn ôl.  Mae'n hanfodol ar gyfer adeiladu, trafnidiaeth, gweithgynhyrchu, tyrbinau gwynt a channoedd o ddibenion eraill, gan gynnwys pecynnu bwyd.

Mae'r cynhwysyddion a elwir yn ganiau tun wedi'u gwneud yn bennaf o sylfaen ddur sy'n cael ei orchuddio â haen denau o fetel arall, megis tun, ac weithiau cânt eu leinio â haen polymer ychwanegol.

  • Defnyddir dur pecynnu i wneud tuniau bwyd, caniau erosol, tuniau paent, pecynnu hyrwyddo a mwy.
  • Cynhyrchir digon o ddur pecynnu yn y DU i wneud dros bedwar biliwn o ganiau ffa pob.
  • Ffatri Tata Steel yn Nhrostre yw prif gyflenwr dur pecynnu i lawer o frandiau adnabyddus.

Mae caniau bwyd dur yn cynnig llawer o fanteision. Maen nhw'n gwarchod y cynnwys ac yn cadw eu daioni naturiol. Mae eu bywyd silff yn hwy nag unrhyw fformat pecynnu arall. Maen nhw'n gryfach na phlastig neu gartonau ac yn llai brau na gwydr.  Does dim angen eu cadw yn yr oergell, gan arbed ynni. Mae'n hawdd eu hailgylchu dro ar ôl tro: un enghraifft yn unig o sut mae dur yn hanfodol ar gyfer dyfodol gwyrddach.

Fodd bynnag, yn debyg i bob cynnyrch dur, rhaid i ganiau bwyd fodloni'r safonau uchaf o berfformiad ac ansawdd.  Mae diogelwch yn hollbwysig, o ystyried y bydd y can yn cynnwys bwyd.

Dyna pam y mae profi ac ymchwil trylwyr mor bwysig.  Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe'n gweithio'n agos gyda Tata Steel a chwmnïau dur eraill i ymchwilio i berfformiad ac effeithiolrwydd eu cynnyrch.  Wrth i'r diwydiant symud tuag at gynhyrchu dur o sgrap wedi'i ailgylchu, bydd rhaid rhoi’r profion trylwyr ar waith gyda metel sgrap, sy'n creu llawer llai o allyriadau carbon na deunyddiau crai.

Yng nghyfleuster SaMI, mae ymchwilwyr yn ail-greu amodau bywyd go iawn, gan roi cynnyrch dur drwy brofion trylwyr i sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau llym.

Mae Dr Barrie Goode, Cyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu Diwydiannol SaMI yn esbonio sut caiff caniau bwyd eu profi:

"Mae angen i ni wirio sut mae gwahanol fathau o ddur yn rhyngweithio â gwahanol fwydydd, sy’n gallu cynnwys sylweddau cemegol fel halen neu finegr.  Wrth gwrs, mae'n bwysig nad yw'r bwyd yn cael ei sbwylio ond mae'n rhaid i strwythur y can aros yn gadarn ac yn gyfan hefyd.

Drwy ein profion cyflymedig, gallwn efelychu effeithiau sawl blwyddyn ar y can a'i gynnwys mewn ychydig wythnosau'n unig.

Mae James Edy, Ymchwilydd Caenau yn Tata Steel, yn esbonio sut mae SaMI a Tata Steel yn cynnal y profion trylwyr:

"Mae proses brofi nodweddiadol yn cynnwys amrywiaeth o gamau: 

  • Rydyn ni’n llenwi caniau â sylweddau sy'n efelychu bwyd, ac yna'n selio'r caead arnynt. Rydyn ni'n gadael ychydig bach o le gwag sy'n creu gwagle y tu fewn pan gaiff y can ei selio.
  • Rydym yn diheintio'r can ar dymheredd dros 100oC dan bwysau gan ddefnyddio stêm dirlawn, dŵr poeth, neu stêm ac aer. Wrth i'r pwysau gynyddu, mae pwynt berwi dŵr yn cynyddu hefyd, gan ein galluogi i dwymo'r dŵr i dymereddau uchel iawn heb ei ferwi.  Mae'r broses hon yn diheintio'r cynnwys ac yn cyflymu'r gwaith o asesu unrhyw adwaith rhwng y can a'i gynnwys.
  • Gallwn ddadansoddi'r caniau mewn manylder microsgopig am unrhyw ddirywiad a'r achosion. Mae ein microsgopau electronau'n chwyddo samplau hyd at 1000 o weithiau i nodi unrhyw feysydd pryder. Yna rydyn ni'n cynnal micro-ddadansoddiad, gan ddefnyddio techneg o'r enw sbectrosgopeg gwasgaru ynni, sy'n nodi ac yn meintoli'r elfennau cemegol mewn sampl.

Y cwestiynau allweddol i ni ar ôl y profion yw:

  • Ydy'r haen o lacr ar yr arwyneb wedi pothellu neu wedi dod i ffwrdd o'r can?
  • Oes tystiolaeth - hyd yn oed ar lefel ficrosgopig - o gyrydu?
  • Os unrhyw newidiadau gweladwy i'r can, fel afliwio neu dduo, a fyddai'n annerbyniol i gwsmeriaid?

Y prif gwestiwn yw ydy'r cynnyrch yn dal i gyflawni'r safonau ansawdd, diogelwch a dibynadwyedd ar ôl yr holl brofion hyn. Mae'n hollbwysig i'n cwsmeriaid wybod hyn fel y gallan nhw dawelu meddyliau eu cwsmeriaid nhw eu bod yn cael cynnyrch o'r safon uchaf. 

Mae hefyd yn golygu bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus bod eu caniau o ffa - neu unrhyw beth arall - wedi cael eu profi'n wyddonol a'i bod hi'n ddiogel bwyta'r cynnwys.

Mae ymchwilwyr SaMI hefyd wedi cynorthwyo Tata Steel i wella eu cynhyrchion a'r prosesau a ddefnyddir i'w gweithgynhyrchu, ac yn ddiweddar maen nhw wedi ymchwilio i effaith hydrogen ar ddur â golwg ar ddatblygiadau'r dyfodol ym maes cludiant hydrogen, er enghraifft, fel rhan o ymdrechion Sero Net.

Rhannu'r stori