
Bydd digwyddiad hynod boblogaidd Varsity Cymru yn dychwelyd i brifddinas Cymru unwaith eto ddydd Mercher y 9 Ebrill 2025, gan ddod â’r gornest Prifysgol fwyaf yn ôl i Gaerdydd.
Ar ôl blwyddyn lwyddiannus yn Abertawe yn 2024, mae’r brifddinas yn paratoi am ddiwrnod llawn chwaraeon, angerdd, ac eiliadau bythgofiadwy.
Varsity Cymru yw un o’r diwrnodau mwyaf yn y calendr i fyfyrwyr, gan ddod â 10,000 o fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe ynghyd i gefnogi eu timoedd yn yr ŵyl chwaraeon hon.
Mae Varsity wedi bod yn rhan o galendr chwaraeon y ddwy brifysgol ers 1997, gan gychwyn fel gêm rygbi dynion cyn ehangu i'r ŵyl chwaraeon eang a gynhelir heddiw.
Bydd mwy na 30 tîm yn cystadlu ar gyfer y darian a’r cwpan eleni. Enillodd Caerdydd y darian unwaith eto yn 2024 ac yn gobeithio ei chadw ar dir cartref am flwyddyn arall.
Yng ngêm rygbi’r dynion bydd Abertawe yn gobeithio ailadrodd perfformiad y llynedd, tra bydd tîm rygbi menywod Caerdydd yn edrych i amddiffyn eu buddugoliaeth.
Dywedodd Georgia Spry, IL Chwaraeon a Llywydd yr UA ym Mhrifysgol Caerdydd: “Varsity Cymru yw un o’r diwrnodau mwyaf yn y calendr i fyfyrwyr, ac mae’n dod ag ymdeimlad enfawr o falchder i holl athletwyr a chefnogwyr Caerdydd. Yn 2024, brwydrodd Tîm Caerdydd am fuddugoliaeth yn Abertawe gan ennill Tarian Varsity Cymru! Eleni, mae’r gystadleuaeth yn dod i Gaerdydd ac mae ein hathletwyr wrthi’n gweithio’n galed a’n paratoi er mwyn herio goreuon Abertawe. Mae’r diwrnod bob amser yn creu awyrgylch o gyfeillgarwch gyda chefnogaeth ddiwyro i’n hathletwyr anhygoel.”
Dywedodd Cameron Messetter, Swyddog Chwaraeon Abertawe: “Mae’r gystadleuaeth rhwng Abertawe a Chaerdydd yn ddigymar, a phob blwyddyn mae miloedd o fyfyrwyr yn dod i gefnogi ein timoedd. Eleni, bydd y fyddin Gwyrdd a Gwyn yn teithio i’r brifddinas, gan obeithio am berfformiad cryf er mwyn cadw’r cwpan ac adennill y darian. Mae holl athletwyr Abertawe yn ymarfer yn galed er mwyn llwyddo yn eu camp ac rydym yn hynod falch o bob un ohonynt. Dewch i ymuno â ni i’w cefnogi yng Nghaerdydd ar y 9fed o Ebrill!”
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar draws rhai o leoliadau mwyaf eiconig Caerdydd gan gynnwys Parc yr Arfau, Maes Criced Gerddi Sophia, a safle Chwaraeon Cymru. Fel bob tro, bydd y twrnamaint yn gorffen gyda gemau rygbi’r dynion a menywod ym Mharc yr Arfau – un o uchafbwyntiau’r diwrnod.