Yr Athro Amira Guirguis,Ysgol Feddygaeth, Prifysgol Abertawe

Yr Athro Amira Guirguis,Ysgol Feddygaeth, Prifysgol Abertawe

Mae arbenigwr o Brifysgol Abertawe ar gamddefnyddio sylweddau a chanfod cyffuriau wedi cael ei phenodi i'r Cyngor Cynghori ar Gamddefnyddio Cyffuriau, sy'n gwneud argymhellion i lywodraeth y DU ar reoli cyffuriau sy'n beryglus neu'n niweidiol fel arall.

Mae Amira Guirguis yn athro fferylliaeth yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.  Mae hi'n arbenigwr academaidd blaenllaw ar gamddefnyddio sylweddau, canfod cyffuriau a sylweddau seicoweithredol newydd.

Mae'r Cyngor Cynghori ar Gamddefnyddio Cyffuriau (ACMD) yn cynghori llywodraeth y DU ar niwed yn sgîl cyffuriau. Mae'n asesu sylweddau sy'n cael eu camddefnyddio neu a allai achosi niwed sylweddol i iechyd a chymdeithas. Mae hefyd yn cynnal ymchwiliadau manwl i agweddau ar ddefnyddio cyffuriau sy'n achosi pryder penodol yn y DU.  Mae'n gorff cyhoeddus ymgynghorol anadrannol a noddir gan y Swyddfa Gartref.

Mae'r Athro Guirguis yn un o ddeg arbenigwr newydd sydd wedi ymuno â'r ACMD.  Mae eu harbenigedd yn rhychwantu meysydd hanfodol, gan gynnwys iechyd y cyhoedd, gorfodi'r gyfraith ac ymchwil wyddonol.

A hithau'n Gyfarwyddwr y Rhaglen MPharm ym Mhrifysgol Abertawe ac yn rhagnodydd annibynnol mewn anhwylderau defnyddio sylweddau, arloesodd yr Athro Guirguis wasanaeth gwirio cyffuriau trwyddedig dan arweiniad fferyllwyr, y cyntaf o'i fath yn y DU, gan bontio ymchwil, polisi, ac ymarfer iechyd y cyhoedd.

Mae ei hymchwil yn integreiddio gwyliadwriaeth ffarmacolegol, cemeg ddadansoddol, fferylliaeth fforensig a netnograffeg – gan ddefnyddio gwaith maes ar-lein - gyda ffocws cryf ar leihau niwed.

Yn awdur toreithiog a chanddi dros 100 o gyhoeddiadau, mae hi wedi goruchwylio nifer o brosiectau doethurol ac mae ganddi rolau fferyllol proffesiynol a rheoliadol dylanwadol yn y DU ac Iwerddon, gan lunio polisïau addysg, ymarfer a gofal iechyd.  Hi yw Cadeirydd Pwyllgor Gwyddoniaeth ac Ymchwil y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol.

Meddai'r Athro Amira Guirguis o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe:

"Mae'n anrhydedd mawr i mi gael fy mhenodi i'r Cyngor Cynghori ar Gamddefnyddio Cyffuriau. Rwy'n edrych ymlaen at gyfrannu fy arbenigedd at fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau a defnyddio fy ngwybodaeth fferylliaeth i helpu i lunio polisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n lleihau niwed ac yn gwella iechyd y cyhoedd. Gan weithio ar y cyd ag arbenigwyr o sectorau amrywiol, fy nod yw cefnogi datblygiad strategaethau effeithiol a chynhwysol sy'n mynd i'r afael â heriau camddefnyddio cyffuriau ledled y DU."

Meddai'r Fonesig Diana Johnson, Gweinidog Troseddu a Phlismona llywodraeth y DU:

"Rwy'n falch iawn o groesawu'r aelodau newydd ac ailbenodi'r rhai hynny sydd wedi gwneud gwaith mor hanfodol i'r Cyngor Cynghori ar Gamddefnyddio Cyffuriau.

Bydd y profiad cyfoethog hwn yn amhrisiadwy o ran gallu'r cyngor i ddarparu cyngor ar sail tystiolaeth sy'n helpu i ddiogelu ein cymunedau."

Mae'r penodiadau, a ddechreuodd ar 1 Ionawr 2025, wedi'u gwneud yn unol â'r Côd Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus.

 



Rhannu'r stori