
Mae gan Brifysgol Abertawe rôl allweddol mewn rhwydwaith cydweithredol newydd sydd â'r nod o fynd i'r afael â heriau byd-eang a geir oherwydd bioffilmiau microbaidd.
Bydd The Biofilm Alliance, menter a ariennir gan Innovate UK, yn dod ag arbenigwyr ynghyd o'r byd academaidd, diwydiant, mesureg, cyrff rheoleiddio, a sefydliadau safoni, i bontio'r bwlch rhwng ymchwil a rheoleiddio effeithiol.
Mae bioffilmiau microbaidd - cymunedau o ficro-organebau sy’n glynu wrth arwynebau ac yn ffurfio haenau amddiffynnol - yn peri heriau sylweddol ar draws nifer o sectorau, gydag effeithiau economaidd byd-eang sy'n costio tua $5 triliwn bob blwyddyn.
Mae Abertawe'n un o bedwar partner ynghyd â'r National Biofilms Innovation Centre, Prifysgol Metropolitan Manceinion ac Industrial Microbiological Service Ltd. Bydd hi'n arwain mentrau'r Rhwydwaith ar gyfer y sector dŵr a fydd yn cynnwys dŵr hamdden, dŵr yfed a systemau dŵr gwastraff.
Meddai'r arbenigwr biocemeg ficrobaidd Dr Geertje van Keulen, o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: "Nid yw gweithdrefnau glanweithdra safonol systemau sy'n cynnwys dŵr yn hollol gadarn gan fod bioffilmiau yn dueddol o ddatblygu ar arwynebau ac mewn pibau.
"Mae bioffilmiau'n hafan i ficrobau sy'n gwneud cynhyrchion glanweithdra'n llawer llai effeithiol. Gall bioffilmiau yn y sector dŵr achosi miliynau o bunnoedd o ddifrod ond gallant hefyd fod yn fygythiad i iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd, felly mae'n bwysig bod cynhyrchion sy'n targedu ac yn rheoli bioffilmiau yn effeithiol."
Esboniodd fod cynnydd o ran rheoli ac atal bioffilmiau ac arloesi yn y maes hwn wedi bod yn gyfyngedig oherwydd diffyg fframweithiau rheoleiddio, protocolau safonol a chanllawiau sy'n mynd i'r afael â chymhlethdodau bioffilmiau.
Meddai Dr Van Keulen: “Nod The Biofilm Alliance – Rhwydwaith ar gyfer y Gwyddorau Rheoleiddio, Ymchwil Academaidd a Chydweithredu Diwydiannol yw dod ag ymchwilwyr, y diwydiant a rheoleiddwyr ynghyd i werthuso methodolegau presennol a gweithio tuag at ganllawiau rheoleiddiol a safoni a argymhellir lle bo'n bosib. Yn y pen draw, dylai hyn arwain at arloesi gwell a llai o faich economaidd a bygythiad i iechyd y cyhoedd."
Mae The Biofilm Alliance yn un o'r 11 o rwydweithiau rheoleiddiol gwyddoniaeth ac arloesi newydd sy’n rannu £4.7 miliwn o gyllid gan Innovate UK.
Meddai arweinydd y prosiect, Dr Paulina Rakowska o'r National Biofilms Innovation Centre: "Mae cymorth Innovate UK yn cydnabod yr angen hollbwysig i safoni methodolegau rheoli bioffilmiau a symleiddio prosesau rheoleiddio. Yn yr hirdymor, bydd The Biofilm Alliance yn datblygu gwyddorau rheoleiddio ond hefyd yn ysgogi arloesi, gan gynnig budd yn y pen draw i ystod o ddiwydiannau a diogelu iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd."
Mae'r rhwydwaith newydd yn edrych ymlaen at ymgysylltu â rhanddeiliaid sy'n gallu cysylltu ag ef yn uniongyrchol dros e-bost neu ddilyn ei waith ar the Biofilm Alliance ar LinkedIn.