
Mae'r cynllun yn ceisio paratoi myfyrwyr am waith ymchwil.
Mae cyfle i fyfyrwyr israddedig o gefndiroedd difreintiedig dreulio'r haf yn cael profiad ymarferol o waith ymchwil mewn deallusrwydd artiffisial (AI) yn Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Abertawe.
Mae'r cynllun yn ceisio paratoi myfyrwyr am waith ymchwil. Bydd yn cynnwys sgyrsiau gan arbenigwyr, sesiynau mewn meysydd megis gwyddor data a chael cyfrifoldeb am gwblhau prosiect ymchwil dan oruchwyliaeth gyda'r canfyddiadau'n cael eu cyflwyno ar y diwedd.
Cynhelir y cynllun o 9 Mehefin tan 1 Awst ac mae'n cynnwys llety ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe. Bydd cyfranogwyr hefyd yn cael tua £400 yr wythnos, gan dybio eu bod yn gweithio 35 awr lawn yr wythnos waith.
Cynhelir y cynllun gan yr Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe, a gefnogir gan Academi Frenhinol Peirianneg, Google Deepmind a Hg Foundation.
Mae ar gyfer myfyrwyr israddedig ym maes cyfrifiadureg neu faes sy'n gysylltiedig ag AI, o unrhyw brifysgol yn y DU ac sy'n dod o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol difreintiedig.
Mwy o wybodaeth - gan gynnwys meini prawf cymhwysedd a dyddiadau allweddol
Gweminar ar-lein ar gyfer darpar ymgeiswyr 26 Chwefror - cofrestrwch yma
Cyflwynwch gais am y cynllun yma - y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw dydd Gwener 14 Mawrth
Bydd cyfranogwyr yn gweithio yn y Ffowndri Gyfrifiadol ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe. Mae'r cyfleuster hwn, sydd o safon fyd-eang ac y buddsoddwyd £32.5 miliwn ynddo, yn sefydliad disglair ar gyfer cydweithrediadau ymchwil ac arloesi yn y gwyddorau cyfrifiadol a mathemategol, a chanddo gyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf.
Meysydd arbenigedd yn Abertawe, a fydd yn cael eu cynnwys yn y rhaglen yw:
- Deallusrwydd artiffisial sy'n canolbwyntio ar bobl ac sy'n cynnwys pobl
- Dysgu Peirianyddol ac Optimeiddio
- Diogelwch a phreifatrwydd deallusrwydd artiffisial
- Gwybyddiaeth artiffisial a biolegol
- Deallusrwydd cyfrifiadol
- Roboteg
Caiff y cynllun ei gyd-arwain gan Dr Rahat a Dr Venn-Wycherly yn yr Adran Gyfrifiadureg. Meddai Dr Rahat:
"Dyma gyfle ardderchog i israddedigion ledled y DU, o gefndiroedd difreintiedig, i gael profiad unigryw mewn ymchwil AI.
"Yn ogystal, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn rhan o ymchwil ffyniannus, gan weithio wrth ochr rhai o'r meddyliau gorau sydd gan y DU i'w cynnig.
“Mae ein cymuned yn Abertawe'n uchelgeisiol ac mae’n cynnwys unigolion llawn cymhelliant. Rydym yn optimistaidd am y dyfodol ac yn gobeithio cyfrannu at wneud y byd yn lle gwell. Yn bwysicaf oll, rydym yn gwerthfawrogi nodweddion dynol megis gostyngeiddrwydd, caredigrwydd, empathi ac angerdd, ac rydym yn ymrwymedig i feithrin amgylchedd cefnogol a chynhwysol.
"Ein nod yw galluogi ein haelodau i gyflawni eu potensial llawn, heb ystyried beth yw eu cefndir, a dyma pam rydym yn falch o weithio gydag Academi Frenhinol Peirianneg, Google Deepmind a Hg Foundation ar y cynllun hwn".