Daeth mwy na 500 o ddisgyblion sy'n dysgu Almaeneg o 11 ysgol yng Nghymru i'r digwyddiad ar Gampws y Bae y Brifysgol.

Daeth mwy na 500 o ddisgyblion sy'n dysgu Almaeneg o 11 ysgol yng Nghymru i'r digwyddiad ar Gampws y Bae y Brifysgol. 

Fel economi fwyaf Ewrop, mae'r Almaen yn gartref i gwmnïau sylweddol o Adidas i Lidl, Haribo i Hugo Boss, Bosch i Birkenstock, a Volkswagen i BMW, sy'n cynnig byd o gyfleoedd gyrfa i siaradwyr Almaeneg - dyma'r neges a roddwyd i ddisgyblion ysgolion lleol a ddaeth i sioe deithiol Almaeneg ddiweddar ym Mhrifysgol Abertawe.

Fel economi fwyaf Ewrop, mae'r Almaen yn gartref i gwmnïau sylweddol o Adidas i Lidl, Haribo i Hugo Boss, Bosch i Birkenstock, a Volkswagen i BMW, sy'n cynnig byd o gyfleoedd gyrfa i siaradwyr Almaeneg - dyma'r neges a roddwyd i ddisgyblion ysgolion lleol a ddaeth i sioe deithiol Almaeneg ddiweddar ym Mhrifysgol Abertawe.

Cynhaliwyd y digwyddiad am y tro cyntaf gan adran Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd, Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu Prifysgol Abertawe.  Cafodd ei drefnu ar y cyd â Goethe-Institut Llundain.

Daeth mwy na 500 o ddisgyblion sy'n dysgu Almaeneg o 11 ysgol yng Nghymru i'r digwyddiad ar Gampws y Bae y Brifysgol. 

Roedd y rhaglen yn cynnig dewis o 20 sesiwn wahanol i'r disgyblion ar iaith a diwylliant yr Almaen, gan astudio ieithoedd, llenyddiaeth a byd busnes, addysg mentergarwch a sgiliau cyflogadwyedd, a sut gall yr Almaeneg fod yn ddefnyddiol ar gyfer gyrfaoedd ym myd twristiaeth a chynhyrchu ffilmiau.

Bu myfyrwyr iaith presennol o Brifysgol Abertawe hefyd yn siarad â'r disgyblion am eu profiadau, gan gynnwys eu blwyddyn dramor yn astudio ac yn byw yn yr Almaen.  

Uchafbwynt y digwyddiad oedd trafodaeth banel ar "Ieithoedd a'r Byd Busnes", a gafodd ei darlledu'n fyw, a gadeiriwyd gan Christiane Günther, Uwch-ddarlithydd Almaeneg ym Mhrifysgol Abertawe.

Roedd y panel yn cynnwys Marlies Höcherl. Conswl Er Anrhydedd yr Almaen a'r Swistir yng Nghymru ac yn Bartner yn Capital Law yng Nghaerdydd; Bärbel Hermannsspahn, Conswl er Anrhydedd yr Almaen yn Birmingham ac yn gyfieithydd ac yn gyfieithydd ar y pryd proffesiynol; Ute Keller-Jenkins, arbenigwr sy'n addysgu'r Almaeneg ac Almaeneg at ddibenion busnes; Justine Vonpierre, Goethe-Institut Llundain; a chyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe Adam Hooper o'r radd BA Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd.

Gwyliwch y drafodaeth banel  - o 9 munud 30 eiliad

Hefyd roedd darlithwyr o bynciau gwahanol sydd ar gynnig yn Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu Prifysgol Abertawe, cwmnïau rhyngwladol megis Capital Law Caerdydd a Chwmni Safety Letterbox, a sefydliadau Almaenig DAAD, Cyswllt y DU-yr Almaen, y Swyddfa Bafaraidd a Goethe-Institut ar gael i siarad â'r disgyblion. 

Meddai Christiane Günther, Uwch-ddarlithydd Almaeneg ym Mhrifysgol Abertawe:

"Mae gallu siarad  neu ddeall Almaeneg yn ased enfawr a gall roi hwb i ragolygon gyrfa'n sylweddol.Yr Almaen yw'r economi fwyaf yn Ewrop a phartner masnachu Ewropeaidd mwyaf y DU, a'r Almaeneg yw mamiaith mwy o bobl yn Ewrop nag unrhyw iaith arall.

Roedd y digwyddiad yn gyfle i bobl ifanc leol ddysgu am ystod o gyfleoedd sydd ar gael iddynt, mewn sectorau megis busnes, twristiaeth neu ffilm.Er bod y digwyddiad yn canolbwyntio ar yrfaoedd, mae dysgu Almaeneg hefyd yn cyfoethogi mewn llawer o ffyrdd eraill, gan roi mynediad i chi at ddiwylliant ac iaith sy'n fywiog, yn amrywiol ac yn ddiddorol.

Diolch i'r holl ysgolion a disgyblion a ddaeth i'r digwyddiad, i gydweithwyr o'r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu, i'r Goethe-Institut Llundain am drefnu'r digwyddiad gyda ni, ac i'n holl siaradwyr ac arddangoswyr am eu cymorth'.

Dyma ddisgyblion o'r ysgolion a ddaeth i'r digwyddiad:

  • Coleg Chweched Dosbarth Caerdydd
  • Ysgol Gyfun Caerleon
  • Ysgol Gyfun Porthcawl
  • Ysgol Gyfun Cwm Rhondda
  • Ysgol Gyfun Bro Edern
  • Ysgol Stanwell Penarth
  • Ysgol Dyffryn Aman
  • Ysgol Gymunedol Cwmtawe
  • Ysgol y Bont-faen
  • Ysgol Gyfun Trefynwy
  • Ysgol Ffynone House
  • Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur

Ym Mhrifysgol Abertawe, gall myfyrwyr ddilyn amrywiaeth o opsiynau Almaeneg, o lefel dechreuwyr i lefel ôl-raddedig.

Mae llu o gyfleoedd i fyfyrwyr dreulio amser mewn gwledydd lle siaredir Almaeneg, gan amrywio o drydedd flwyddyn yn astudio dramor i deithiau astudio byrrach a drefnir gan Christiane Günther.

Deutsch lernen?  Warum?  (Dysgu Almaeneg? Pam?)

  • Siaredir yr Almaeneg gan dros 100 miliwn o bobl yn yr Almaen, Awstria a'r Swistir.
  • Dyma'r iaith frodorol a siaredir fwyaf yn yr Undeb Ewropeaidd.
  • Mae gan yr Almaen un o'r economïau mwyaf yn y byd ac mae'n un o'r cenhedloedd allforio mwyaf llwyddiannus yn y byd.
  • Yr Almaen yw partner masnachu mwyaf y DU ar ôl UDA.
  • O ffilmiau i bêl-droed, mae'r Almaen yn arweinydd byd ac yn bwerdy diwylliannol mewn cynifer o sectorau, yn ogystal â'i phwysigrwydd economaidd

Rhannu'r stori