Tîm Digwyddiadau Prifysgol Abertawe gyda Gwobr Twristiaeth Werdd: (o'r chwith) Melissa Ferreira, Charlotte Rees, Michelle Dene, Gwyneth Thomas, Beth Morgan.

Tîm Digwyddiadau Prifysgol Abertawe gyda Gwobr Twristiaeth Werdd: (o'r chwith) Melissa Ferreira, Charlotte Rees, Michelle Dene, Gwyneth Thomas, Beth Morgan.

Mae Tîm Digwyddiadau Prifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Twristiaeth Werdd uchel ei bri, gan adlewyrchu ei gyflawniadau wrth wneud ei  weithrediadau'n fwy gwyrdd. 

Mae'r Wobr Twristiaeth Werdd yn achrediad a gydnabyddir yn rhyngwladol sy'n amlygu rhagoriaeth ym maes cynaliadwyedd yn y sector lletygarwch.  Mae ardystiad Twristiaeth Werdd yn dystiolaeth amlwg o'r gwaith a wneir gan sefydliad.

Mae tîm digwyddiadau Prifysgol Abertawe'n cydlynu gweithgarwch digwyddiadau ar draws y campysau.  Er enghraifft, mae’n gweithio gyda chwsmeriaid sydd am logi cyfleusterau'r Brifysgol, am bob math o bethau, o gynhadledd neu arddangosfa fawr i ginio neu gyfarfod neu dderbyniad bach.

I gael ei ystyried am wobr, roedd rhaid i'r tîm ddarparu tystiolaeth i Dwristiaeth Werdd o'r camau gweithredu mae wedi'u cymryd o dan y 15 Nod Cynaliadwyedd.   Caiff pob asesiad ei wirio gan aseswyr arbenigol Twristiaeth Werdd, sy'n helpu i wneud y wobr yn feincnod dibynnol yn y diwydiant.

Barnwyd bod y dystiolaeth yn bodloni'r meini prawf a chafodd y tîm ei hysbysu gan Dwristiaeth Werdd ei fod wedi ennill gwobr lefel Arian Twristiaeth Werdd.

Dyma rai o'r mentrau a gyflwynwyd gan y tîm ac a gafodd eu hamlygu fel tystiolaeth o'i ymrwymiad i gynaliadwyedd:

  • Ymgyrch Cadw’ch Cwpan - yn annog defnydd o gwpanau amldro mewn digwyddiadau.
  • Cynllun ailddefnyddio laniard - yn lleihau gwastraff drwy gynnig disgownt ar gyfer pob laniard sy'n cael ei ddychwelyd ar ddiwedd y dydd.
  • Gorsafoedd dŵr - yn hyrwyddo ail-lenwi poteli i leihau'r defnydd o blastigion untro.

Yn ogystal, cyfrannodd ymdrechion cynaliadwyedd ehangach y Brifysgol yn sylweddol at lwyddiant cais y tîm.  Mae'r rhain yn cynnwys gosod paneli solar, sesiynau glanhau'r traeth misol a gefnogwyd yn weithredol gan y tîm, strategaethau datgarboneiddio a defnyddio cynhyrchion glanhau ecogyfeillgar.

Fel tystiolaeth ychwanegol o'u hymrwymiad, mae holl aelodau'r tîm hefyd wedi cwblhau cwrs hyfforddiant Lefel 2 City and Guilds mewn Amgylchedd Gwyrdd a Chynaliadwyedd.

Meddai Michelle Dene, Pennaeth Gweithrediadau Campws ym Mhrifysgol Abertawe:

"Rydyn ni wrth ein boddau'n ennill Gwobr Twristiaeth Werdd bwysig! Mae hyn yn adlewyrchu holl waith caled y tîm wrth wneud digwyddiadau'n fwy cynaliadwy, o leihau gwastraff i gynllunio gwyrddach a mentrau ecogyfeillgar. Mae rhan fawr o'r llwyddiant hwn o ganlyniad i'w cydweithrediad gwych â thîm Cynaliadwyedd y Brifysgol.

Mae'r wobr hon yn gydnabyddiaeth wych o'u hymdrechion ac ymrwymiad cyffredin Prifysgol Abertawe i ddyfodol gwyrddach.”

Mae gan Brifysgol Abertawe ddewis helaeth o leoliadau i gynnal cyfarfodydd a digwyddiadau, i gyd o fewn pellter cerdded byr o lan môr Abertawe.

Mwy o wybodaeth 

Mae lleoliadau cynadleddau a digwyddiadau yn Abertawe’n cynnwys ein Neuadd Fawr fawreddog gwerth £32 miliwn ar Gampws y Bae, sy'n gartref i dair darlithfa fawr, amrywiaeth o fannau hyblyg â llawr gwastad ac Awditoriwm Syr Stanley Clarke sy'n cynnig 700 o seddau ynghyd ag acwsteg o safon ryngwladol a thechnoleg glyweled o'r radd flaenaf.

Mae pecynnau i gynadleddwyr yn cynnig gwasanaethau arlwyo a chymorth digwyddiadau rhagorol gan dîm o arbenigwyr digwyddiadau proffesiynol profiadol.   Mae gan ein campysau amrywiaeth o gyfleusterau o fewn cyrraedd hwylus i'ch cynadleddwyr, gan gynnwys caffis a bariau, archfarchnadoedd, banciau, cyfleusterau chwaraeon a llety fforddiadwy a chyfleus ar y safle rhwng mis Gorffennaf a mis Medi.

Rhannu'r stori