
Wedi ei geni yn Dundee i fam Almaenig a thad Awstriaidd, lladdwyd Ivy gan y Natsïaid ym 1940 oherwydd anabledd dysgu ysgafn. Dim ond 29 mlwydd oed oedd hi. Cydnabyddiaeth: Y Teulu Angerer.
Mae un deg tri o ddioddefwyr a anwyd ym Mhrydain o ryfel y Natsïaid ar bobl anabl, a oedd yn cael eu hystyried gan y gyfundrefn yn 'fywyd anheilwng o fywyd' yn cael eu hanrhydeddu mewn arddangosfa arbennig ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae Finding Ivy – A Life Worthy of Life yn rhannu straeon sydd heb eu hadrodd am y rhai hynny yr effeithiwyd arnynt gan raglen Aktion T4 y Natsïaid, menter a arweiniwyd gan y wladwriaeth gan ladd mewn ffordd systematig 70,000 o oedolion ag anableddau meddyliol a chorfforol yn ystod yr Holocost.
Drwy ddeunyddiau archifol, adroddiadau, cofnodion a gadwyd gan aelodau'r teuluoedd, a bywgraffiadau manwl, mae'r arddangosfa'n talu teyrnged i'r rhai hynny a gafodd eu llofruddio yn ystod y cyfnod tywyll hwn mewn hanes, gan gynnwys Ivy Angerer, a ysbrydolodd enw'r arddangosfa.
Wedi ei geni yn Dundee i fam Almaenig a thad Awstriaidd, lladdwyd Ivy gan y Natsïaid ym 1940 oherwydd anabledd dysgu ysgafn. Dim ond 29 mlwydd oed oedd hi.
Gall y cyhoedd ddysgu mwy am Ivy a'r deuddeg dioddefwr arall a gollodd eu bywydau mewn sefydliadau yn yr Almaen ac Awstria yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn yr arddangosfa yn Llyfrgell Parc Singleton Abertawe.
Meddai'r Athro David Turner, hanesydd anabledd a Chyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil i Ddiwylliannau a Chymunedau ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae'n fraint cael bod yn un o'r wyth sefydliad ar draws yr Almaen a'r DU — y cyntaf yng Nghymru — a ddewiswyd i gynnal yr arddangosfa Finding Ivy, ac rydym yn annog pawb i ymweld â hi cyn iddi adael Abertawe ddydd Iau 10 Ebrill.
"Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn falch o arwain y ffordd o ran gwaith ymchwil ac addysgu am hanes anabledd. Rydym yn ymrwymedig i feithrin cynnydd yn y maes pwysig hwn drwy ddigwyddiadau sy'n amlygu lleisiau allweddol a thrwy gyrsiau megis ein BA Hanes a'n gradd newydd mewn Nyrsio Anableddau Dysgu.
Bydd Llyfrgell Parc Singleton hefyd yn cynnal digwyddiad cyhoeddus am ddim ddydd Llun 10 Mawrth, a fydd yn cynnwys sesiwn holi ac ateb gyda Dr Simon Jarrett, un o raddedigion Prifysgol Abertawe a chyd-guradur yr arddangosfa Finding Ivy.
Meddai Dr Jarrett: "Rydym wrth ein boddau bod Prifysgol Abertawe wedi cytuno'n hael i gynnal yr arddangosfa Finding Ivy am ei hymweliad cyntaf â Chymru yn ystod ei thaith o Ewrop a'r DU.
"Mae'r arddangosfa'n adrodd hanes trist a phoenus - sut cafodd 13 o bobl a anwyd ym Mhrydain eu lladd yn ystod rhyfel mileinig arswydus y Natsïaid yn erbyn pobl anabl. Rydym yn gobeithio y bydd ein harddangosfa'n adfer ychydig o urddas a thrugaredd i grŵp o bobl yr oedd y Natsïaid yn eu hystyried yn ‘'fywyd anheilwng o fywyd’' drwy adrodd eu straeon bywyd anhygoel.
"Mae'r arddangosfa hon hefyd yn cynnwys negeseuon pwysig am driniaeth a statws pobl anabl a phobl ag anawsterau iechyd meddwl mewn cymdeithas heddiw".