
Llun: QAHE Ltd.
Prifysgol Abertawe a QA Higher Education mewn partneriaeth i ddarparu rhaglenni gradd hyblyg yn Llundain o fis Medi 2025.
Mae'n bleser gan Brifysgol Abertawe a QA Higher Education gyhoeddi partneriaeth newydd i gynnig cyrsiau o safon fyd-eang y Brifysgol yn Llundain o fis Medi 2025.
Mae'r lansiad ym mis Medi yn Llundain yn ddechrau partneriaeth strategol hirdymor i ddarparu ystod o raglenni Prifysgol Abertawe ar gampysau QA Higher Education mewn canolfannau metropolitan mawr yn Lloegr. Bydd cynnig cyrsiau mewn ffyrdd arloesol drwy ddulliau darparu hyblyg QA Education, fel amserlenni gyda'r hwyr ac ar y penwythnos a dysgu cyfunol, yn creu cyfleoedd newydd i fyfyrwyr y DU sydd dan bwysau cynyddol i gydbwyso astudio â gwaith neu ymrwymiadau eraill.
Meddai Simon Nelson, Prif Swyddog Gweithredol QA Higher Education:
"Rydyn ni'n gweld cynnydd sylweddol yn y galw gan fyfyrwyr sy'n chwilio am ffyrdd mwy hyblyg o astudio. Bydd rhagoriaeth academaidd Prifysgol Abertawe, ar y cyd ag ymagwedd arloesol QA Higher Education at ddarparu cyrsiau, yn agor drysau i addysg uwch sy'n hygyrch ac yn hyblyg."
Mae data o'r farchnad lafur a ddadansoddwyd gan adran Gwybodaeth am y Farchnad QA Higher Education yn rhagweld twf o 9.2% yn nifer y swyddi cyfrifiadureg yn Llundain erbyn 2033, o'i gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol, sef 6%. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021, barnwyd bod 100% o effaith ymchwil Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Abertawe yn arwain y ffordd yn fyd-eang ac yn rhagorol yn rhyngwladol, gan ddangos eu hymrwymiad i wneud gwahaniaeth yn y byd go iawn yn eu holl weithgareddau. Gan gyfuno arbenigedd cydnabyddedig Prifysgol Abertawe mewn cyfrifiadureg â galwadau economaidd lleol, bydd y bartneriaeth yn lansio gyda chwrs MSc Cyfrifiadureg y Brifysgol, gan dargedu'r farchnad yn Llundain.
Meddai Simon Nelson:
"Drwy weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe i ddarparu'r cwrs hwn, byddwn yn manteisio ar farchnadoedd myfyrwyr newydd y DU, gan gynyddu eu cyfraddau recriwtio a phroffil y brand."
O fis Ionawr 2026, mae QA Higher Education a Phrifysgol Abertawe yn bwriadu cyflwyno rhagor o gyrsiau o'r Ysgol Mathemateg a Chyfrifiadureg, ochr yn ochr â'r Ysgol Reolaeth a meysydd pwnc eraill.
Meddai Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe ar gyfer Ymgysylltu Rhyngwladol, yr Athro Judith Lamie,
"Rydyn ni wrth ein boddau'n dechrau ar y fenter newydd hon gyda QA Higher Education, sy'n arwydd o'n hymrwymiad i ehangu cyrhaeddiad rhaglenni eithriadol Prifysgol Abertawe, gan agor drysau newydd i fyfyrwyr a chreu cyfleoedd am dwf ac arloesi. Mae'r fenter hon hefyd yn nodi carreg filltir bwysig yn ein datblygiad, drwy estyn ein heffaith i ranbarthau newydd yn y DU ac mewn marchnadoedd rhyngwladol ac rydyn ni'n edrych ymlaen at y newidiadau cadarnhaol a'r llwyddiannau a ddaw yn sgîl y cydweithrediad hwn.