llun o sgriniau lluosog o gyfranogwyr mewn cyfarfod ar-lein

Staff a chynrychiolwyr allanol yn lansiad y panel diwydiant newydd.

Mae Prifysgol Abertawe wedi lansio menter newydd i wella rhagolygon gyrfa myfyrwyr ieithoedd yn y dyfodol.

Mae gan yr Adran Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd bellach banel diwydiant sy'n ceisio meithrin perthnasoedd cryfach rhwng myfyrwyr, staff academaidd a chyflogwyr y dyfodol.

Datblygwyd y fenter hon gan Dr Giovanna Donzelli a fydd yn arwain y panel, ynghyd â'i chydweithiwr, Tanya May. Bydd yn cwrdd ddwywaith bob blwyddyn academaidd a'i brif waith fydd sicrhau bod rhaglen astudiaethau'r adran yn diwallu anghenion y diwydiant yn ogystal â rhoi cyfle i fyfyrwyr ennill profiad ymarferol drwy interniaethau a lleoliadau gwaith.

Meddai Dr Donzelli: "Mae hyn yn rhan allweddol o'n hymrwymiad i bontio'r bwlch rhwng y byd academaidd a diwydiant. Bydd gwaith y panel yn parhau i sicrhau bod ein myfyrwyr yn gallu meithrin y sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i ffynnu mewn byd proffesiynol sy'n datblygu'n gyflym a dod yn arweinwyr byd-eang yfory.”

Daeth digwyddiad lansio llwyddiannus â chyflogwyr ac academyddion ynghyd i ddechrau meithrin perthnasoedd agosach.

Meddai Pennaeth yr adran, Dr Rocío Pérez-Tattam: "Roedd gennym gynrychiolaeth o amrywiaeth o sectorau sy'n cyflogi ein graddedigion, ac roedd y trafodaethau am rinweddau a chyfeiriad graddedigion yn y dyfodol yn adeiladol, yn ddefnyddiol ac wedi'u cefnogi'n dda gan aelodau o’r tîm Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd.”

Pwysleisiodd Conswl er Anrhydedd yr Almaen yng Nghymru, Marlies Hoecherl, ba mor bwysig yw'r maes iaith a chyfieithu. Meddai: "Mae bod yn agored i ddiwylliannau eraill a dangos empathi tuag atynt o bwys mawr mewn busnesau ar draws ffiniau ac mae'r gallu i gyfathrebu'n rhugl mewn iaith arall yn allweddol i gyflawni hyn.”

Ymysg cynrychiolwyr y diwydiant a oedd yn cymryd rhan roedd ein cyn-fyfyrwyr Nuria Avalos, sydd bellach yn Gyfieithydd ar y Pryd mewn Cynadleddau a Swyddog Cymorth Iaith a Logisteg gyda TINTA, a Joelle Drummond, entrepreneur llwyddiannus a dderbyniodd radd Meistr anrhydeddus gan Brifysgol Abertawe. Gwnaethant longyfarch y tîm Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd ar lansiad llwyddiannus a menter llawn ysbrydoliaeth sy'n dod ag arbenigwyr iaith ynghyd o ystod eang o ddiwydiannau iaith i gydweithio er mwyn cyfoethogi rhagolygon gyrfaoedd myfyrwyr yn y dyfodol.

Gwnaeth Dr Non Williams, a sefydlodd banel tebyg ar gyfer Adran y Cyfryngau a Chyfathrebu, hefyd rannu ei phrofiad cadarnhaol o gydweithio allanol. Meddai: "Mae panel diwydiant yn galluogi staff i gadw ar flaen y gad o ran datblygiadau presennol yn y sector, gan gyfoethogi profiad myfyrwyr a'u rhagolygon yn y dyfodol.”

Dyma oedd gan yr Athro Richard Thomas, pennaeth yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu i'w ddweud wrth y cyfranogwyr: "Bydd yr wybodaeth, y deallusrwydd a'r ysbrydoliaeth rydych yn eu rhoi i ni'n cael effaith ar ein cyrsiau a dyfodol ein myfyrwyr.”

Ychwanegodd cyd-arweinydd y Panel Diwydiant Tanya May: "Mae'r fenter hon wedi cael croeso cynnes, gan nodi dechrau taith lle byddwn yn cyrraedd uchelfannau newydd er budd ein myfyrwyr.”

Mwy o wybodaeth am y radd Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd yn Abertawe.

 

Rhannu'r stori