Plentyn benywaidd yn dal tegan meddal yn eistedd ar wely ysbyty mewn ward.

Mae canlyniadau'r dadansoddiad cyntaf erioed ar raddfa fawr o gam-drîn corfforol plant (CPA) sydd wedi arwain at gyfnodau yn yr ysbyty, wedi datgelu mewnwelediadau pwysig i dueddiadau ar draws pum gwlad Ewropeaidd.

Wedi'i hariannu gan HORIZON Europe o dan brosiect SERENA a'i chefnogi gan rwydwaith Cydweithrediad Ewropeaidd mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg COST Gweithredu Euro-CAN, defnyddiodd yr astudiaeth hon ddata gweinyddol am fabanod a phlant ifanc o dan bum mlwydd oed o Ddenmarc, Lloegr, Ffrainc, Iwerddon a Chymru.

Fe'i cyd-arweiniwyd gan Dr Catherine Quantin o Ysbyty Athrofaol Dijon a Dr Laura Cowley o Brifysgol Abertawe.

Mae cam-drin corfforol plant yn broblem iechyd cyhoeddus fyd-eang fawr gyda chanlyniadau gydol oes, ond nid oes llawer o ddata dibynadwy ar ba mor aml y mae'n arwain at gyfnodau yn yr ysbyty.

Dadansoddodd yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn The Lancet Regional Health – Europe, gofnodion ysbytai ledled y wlad dros gyfnod o wyth mlynedd rhwng 2013 a 2021 i nodi tueddiadau a phatrymau allweddol.

Ei ganfyddiadau allweddol oedd:

  • Mae cymharu tueddiadau mewn ysbytai CPA rhwng gwledydd yn ymarferol;
  • Arhosodd y gyfradd achosion o dderbyniadau i'r ysbyty sy'n gysylltiedig â CPA ar gyfer babanod o dan un mlwydd oed yn gymharol sefydlog, ar gyfartaledd tua 42 achos fesul 100,000 o enedigaethau bob blwyddyn;
  • Yn ystod y pandemig yn 2020, cynyddodd cyfran yr holl dderbyniadau i'r ysbyty sy'n gysylltiedig â CPA yn sylweddol. Mae’n bosib y gallai hyn fod oherwydd gostyngiad yn y derbyniadau i ysbytai yn ystod Covid-19, gan nad oedd cynnydd mewn cyfraddau ymysg yr holl blant yn y gymuned.
  • Mae amrywiadau mewn arferion codio cenedlaethol a thueddiadau blwyddyn ar ôl blwyddyn ar draws gwledydd yn tynnu sylw at yr angen am gasglu data safonol i wella strategaethau gwyliadwriaeth ac ymyrraeth CPA.

Meddai Dr Cowley, cyd-arweinydd Gweithgor 2 rhwydwaith Euro-CAN: "Mae ein hastudiaeth yn dangos gwerth cofnodion ysbytai wrth fonitro tueddiadau cam-drin corfforol plant a phwysigrwydd cydweithio wrth fynd i'r afael â heriau iechyd cyhoeddus cymhleth. Trwy ddefnyddio data gweinyddol o sawl gwlad, gallwn feithrin dealltwriaeth gliriach o dueddiadau cam-drin corfforol plant sy’n helpu i lunio polisïau i ddiogelu plant ledled Ewrop."

Dywedodd cydlynydd prosiect SERENA ac arweinydd Gweithgor 2 rhwydwaith Euro-CAN, yr Athro Quantin: "Pe bai'r gwaith o gasglu a dadansoddi data ysbytai CPA yn cael ei ymestyn i bob gwlad Ewropeaidd ac ansawdd yr wybodaeth yn gwella, byddai'n bosibl creu metrig Ewropeaidd ar gyfer CPA.

 "Byddai hyn yn hwyluso monitro a gwyliadwriaeth CPA, dadansoddi effaith digwyddiadau fel pandemigau, a mesur effeithiolrwydd polisïau ac ymyriadau, i gyd ar lefel genedlaethol neu Ewropeaidd. Gallai'r dystiolaeth hon yn ei dro gefnogi ymdrechion rhynglywodraethol i atal a dileu trais yn erbyn plant."

Roedd yr astudiaeth gydweithredol hon yn cynnwys ymchwilwyr o sefydliadau ar draws sawl gwlad gan gynnwys:

Yr Athro Sinead Brophy a Dr Natasha Kennedy, Prifysgol Abertawe

Dr Jonathan Cottenet, Ysbyty Athrofaol Dijon;

Yr Athro Ruth Gilbert a Colleen Chambers, Coleg Prifysgol Llundain, y DU;

Dr Sadhbh Whelan, Yr Adran Plant, Cydraddoldeb, Anabledd, Integreiddio ac Ieuenctid,

Dulyn, Iwerddon;

Dr Geoff Debelle, Prifysgol Birmingham, y DU;

Dr Diogo Lamela, Prifysgol Lusofona, Portiwgal;

Dr Ulugbek Nurmatov, Prifysgol Caerdydd, y DU;

Dr Donna O'Leary, Asiantaeth Plant a Theuluoedd Tusla, a Choleg Prifysgol Cork, Iwerddon;

Yr Athro Christian Torp-Pedersen a Dr Marcella Broccia, ysbyty Nordsjaellands, Denmarc; a

Dr Troels Græsholt-Knudsen, Adran Meddygaeth Fforensig, Prifysgol Aarhus, Denmarc

Darllenwch y cyhoeddiad llawn yma

 

Rhannu'r stori