Dyn ifanc yn pwyntio at sgrin gyfrifiadur fawr yn dangos problem fathemategol

Bydd Xavier Crean, myfyriwr PhD Mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe, yn rhannu ei ymchwil ag Aelodau Seneddol sy'n awyddus i ddeall y datblygiadau gwyddonol a thechnolegol diweddaraf.

Fel rhan o'r gystadleuaeth flynyddol STEM for Britain, bydd Xavier yn Nhŷ'r Cyffredin ar 11 Mawrth i arddangos poster ar ei waith ym maes cyfyngu lliw - priodoledd sydd eto i'w deall o'r rhyngweithio cryf elfennol sy'n sail i fodolaeth protonau a niwtronau.

Cynhelir ymchwil Xavier mewn cydweithrediad â'r Athro Biagio Lucini yn Abertawe a'r Athro Jeffrey Giansiracusa ym Mhrifysgol Durham.

Meddai Xavier: "Rwy'n falch iawn o fod yn cynrychioli adran fathemateg Abertawe. Bydd hwn yn gyfle gwych i arddangos fy ymchwil, sy'n cynnwys defnyddio dadansoddi data topolegol – maes arloesol sy'n cyfuno topoleg a gwyddor data – i geisio datrys un o'r problemau agored mwyaf heriol mewn ffiseg gronynnau ddamcaniaethol."

Meddai'r Athro Lucini: "Mae’r broblem o ran cyfyngu yn un o'r cwestiynau agored pwysicaf mewn ffiseg gronynnau. Mae'n un o Broblemau'r Mileniwm a nodwyd gan Sefydliad Clay, sy'n cynnig $1 filiwn o ddoleri i'w datrys.

"Mae Xavier wedi bod yn gwneud cynnydd aruthrol, gan gyfuno dealltwriaeth ffisegol â thechnegau methodoleg fathemategol sy'n dod i'r amlwg a'r defnydd o uwchgyfrifiaduron modern mewn ymdrech wirioneddol amlddisgyblaethol.

"Rydyn ni'n llawn cyffro am ein canlyniadau presennol ac yn edrych ymlaen at ganlyniadau astudiaethau rydyn ni'n eu cynnal."

Wedi'i threfnu gan y Pwyllgor Seneddol a Gwyddonol, mae STEM for Britain yn gystadleuaeth posteri flynyddol sy'n denu'r gwyddonwyr ymchwil, y peirianwyr, y technolegwyr a'r mathemategwyr gyrfa gynnar gorau o bob cwr o'r DU, wrth hefyd feithrin sgwrs rhwng ymchwilwyr ac Aelodau Seneddol.

Dywedodd AS Gorllewin Abertawe, Torsten Bell: "Llongyfarchiadau i Xavier ar gyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth bwysig hon a phob lwc ar gyfer yr her olaf. Mae STEM for Britain yn chwarae rhan hanfodol wrth gydnabod ymchwilwyr gyrfa gynnar rhagorol ac arddangos eu gwaith i aelodau seneddol. Mae'n wych gweld yr ymchwil arloesol sy'n cael ei datblygu ym Mhrifysgol Abertawe yn derbyn peth o'r gydnabyddiaeth y mae'n ei haeddu."

Meddai'r Athro Gibin Powathil, Pennaeth Mathemateg a chyn-gyfranogwr ei hun: "Mae cael eich dewis o blith miloedd o ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ledled y DU i gyflwyno ei ymchwil ragorol i Aelodau Seneddol yn gyflawniad arbennig. Mae'n amlygu'n glir ansawdd eithriadol yr ymchwil a wnawn yn Adran Fathemateg Abertawe. Rydym yn dymuno'r gorau i Xavier yn y gystadleuaeth hon."

Cefnogir ymchwil Xavier gan gymrodoriaeth uchel ei bri gan Sefydliad Ymchwil Fathemategol Heilbronn.

Rhagor o wybodaeth am astudio Mathemateg yn Abertawe

 

Rhannu'r stori