
Mae Prifysgol Abertawe wedi cadarnhau ei statws fel un o sefydliadau academaidd mwyaf blaenllaw'r DU am greu cwmnïau deillio, yn ôl adroddiad diweddaraf Spotlight on Spinouts gan y cwmni dadansoddi data Beauhurst, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2025.
Mae'r pumed adroddiad blynyddol, a noddir gan yr Academi Frenhinol Peirianneg, yn amlygu hanes trawiadol Abertawe o greu 58 cwmni deillio ers 2011. Yn y nawfed safle yn y DU, mae Abertawe'n ar y brig yng Nghymru.
Am bum mlynedd, mae'r adroddiad Spotlight on Spinouts wedi bod yn adnodd hollbwysig, sy'n cynnig dadansoddiad manwl a gwybodaeth werthfawr am dueddiadau cwmnïau deillio yn y DU. Trwy ddarparu data meintiol cynhwysfawr mewn maes sydd yn hanesyddol â diffyg tryloywder, mae'n parhau i daflu goleuni ar dirwedd ddatblygol entrepreneuriaeth academaidd.
Mae'r adroddiad yn dadansoddi pa brifysgolion sy'n creu cwmnïau deillio'n llwyddiannus, dosbarthiad daearyddol y cwmnïau a'u polisïau eiddo deallusol (IP), yn ogystal â'r sectorau lle ceir y nifer uchaf o gwmnïau deillio, y buddsoddwyr a’r cwmnïau maen nhw’n buddsoddi ynddynt, y cyfraddau goroesi a’u trywyddau twf, grantiau Innovate UK, a chyfansoddiad arweinyddiaeth cwmnïau deillio gan gynnwys rhywedd, oed a chenedligrwydd.
Yn y DU, mae sefydliadau academaidd ar flaen y gad o ran ymchwil arloesol ac eiddo deallusol, ac mae cwmnïau deillio’n fodd pwysig o fasnacheiddio eiddo deallusol.
Mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod pwysigrwydd cwmnïau deillio i'r DU - fel cyfranwyr at yr economi ac fel ffynhonnell strategol o dechnolegau newydd. Yn dilyn adolygiad gan y llywodraeth o gwmnïau deillio prifysgolion, cafodd polisïau arferion gorau ar gyfer telerau cytundebau cwmnïau deillio eu hamlygu yn rhifyn mis Tachwedd 2023 yr Independent Reviw of University Spin-out Companies, gyda Phrifysgol Abertawe'n cofrestru fel mabwysiadwr cynnar yn 2024.
Mae llwyddiannau cwmnïau deilio o Brifysgol Abertawe'n cynnwys:
- Celtic Vascular - arloeswyr meddalwedd a bwerir gan AI sy'n canfod clefyd coronaidd y galon gyda chywirdeb o 92%.
- Ail Arian - crewyr dull wedi’i batentu o adfer arian o offer electroneg argraffedig
- Corryn Biotechnologies - arloeswyr mewn gorchuddion clwyfau biomimetig, sy'n caniatáu cymhwysiad uniongyrchol yn y man lle rhoddir gofal.
Meddai'r Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ac Arloesi: "Mae ein henw da hirsefydlog mewn ymchwil ac arloesi'n amlygu ein huchelgeisiau mentergarwch ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae'n fraint cael ein cydnabod unwaith eto ymysg sefydliadau mwyaf blaenllaw'r DU am lwyddiant cwmnïau deillio. Mae hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i drawsnewid ymchwil yn effaith yn y byd go iawn.
"Wedi ein llywio gan ein Strategaeth Mentergarwch 2023-28, rydym yn ymrwymedig i feithrin amgylchedd lle mae entrepreneuriaeth yn ffynnu, gan sicrhau bod ein cwmnïau deillio'n parhau i ysgogi twf economaidd a chreu buddion hirdymor i unigolion a chymunedau yng Nghymru a thu hwnt."