
Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu Prifysgol Abertawe Niamh Lamond, Is-ganghellor yr Athro Paul Boyle, Gweinidog Cyllid Cymru Mark Drakeford, Arweinydd y Cyngor Rob Stewart a James Owen, Prif Swyddog Gweithredu, Medr.
Cyfarfu arweinwyr addysg uwch o bob cwr o'r DU ym Mhrifysgol Abertawe i drafod y materion a'r heriau allweddol sy'n wynebu'r sector.
Cynhaliodd y gymdeithas sy'n cynrychioli uwch-reolwyr prifysgolion, Cymdeithas Penaethiaid Gweinyddiaeth Prifysgolion (AHUA), ei chynhadledd y gwanwyn yn y Neuadd Fawr ar Gampws y Bae.
Ymhlith y siaradwyr uchel eu proffil roedd Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle, a Gweinidog Cyllid Cymru Mark Drakeford.
Yn ystod y digwyddiad deuddydd gwnaeth cynrychiolwyr gyfranogi mewn sesiynau a oedd yn archwilio arweinyddiaeth a diwylliant, data, materion digidol a thechnoleg a materion llywodraethu a pholisi.
Hefyd gwnaethant fwynhau cinio yn Awditoriwm Syr Stanley Clarke lle roedd y ddistyllfa leol Penderyn a’r bragdy Drop Bear Beer yn darparu samplau o'u cynnyrch Cymreig.
Cefnogwyd y gynhadledd gan dîm Gwasanaethau Digwyddiadau'r Brifysgol, a weithiodd ochr yn ochr â Your Vision Events. Gan fod yr AHUA wedi ymrwymo i wneud ei digwyddiadau mor gynaliadwy â phosibl, arhosodd gwesteion ar y safle yn llety'r campws, gan ddefnyddio cynhyrchion eco-gyfeillgar a oedd wedi cael eu caffael yn ofalus, yn ogystal â lleihau'r defnydd o bapur a gwastraff drwy ddefnyddio ap ar gyfer pob elfen o'r gynhadledd gan gynnwys y rhaglen.
Meddai Niamh Lamond, Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu Prifysgol Abertawe a oedd yn cynnal y digwyddiad: "Mae hi wedi bod yn fraint i Brifysgol Abertawe gynnal cynhadledd y gwanwyn yr AHUA eleni, ac rydym wedi mwynhau croesawu cydweithwyr o bob cwr o'r DU a thramor i Gampws y Bae ar gyfer y digwyddiad.
"Daeth y gynhadledd eleni ar adeg heriol i'r sector addysg uwch, wrth i sefydliadau ledled y wlad fynd i’r afael â heriau ariannol ac ansicrwydd byd-eang cynyddol. Mae'r heriau hyn yn gofyn am wydnwch, yn ogystal â chydweithredu, arloesi, ac arweinyddiaeth feiddgar; felly roedd y trafodaethau agored a'r cyfleoedd i rannu dealltwriaeth a gawsom yn amhrisiadwy.
"Dros y dyddiau diwethaf, rydym wedi bod yn dysgu o brofiadau ledled y DU a thramor ac yn archwilio atebion a all gryfhau cynaliadwyedd hirdymor ein sefydliadau. Bu thema Gymreig a Chymraeg gref drwy gydol y digwyddiad, o fwyd a diod o Gymru a'r Gymraeg i drafodaeth wleidyddol a sgyrsiau ar ôl cinio.
"Mae hi wedi bod yn bleser croesawu pawb yma, a bod yn rhan o'r hyn sydd wedi bod yn ddyddiau meddylgar a bywiog heb os."