
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi dechrau astudiaeth arloesol i archwilio a all therapi trochi dŵr oer (CWI) liniaru symptomau anhwylder straen wedi trawma (PTSD).
Yn ôl PTSD UK, mae disgwyl i un ymhob 10 person gael profiad o PTSD ar ryw adeg yn eu bywydau. Ond er gwaethaf ei gyffredinrwydd, mae diffyg ymchwil i’r cyflwr yn y DU, a hyd heddiw, nid oes unrhyw astudiaeth wyddonol unrhyw le yn y byd sy'n archwilio effaith therapi trochi dŵr oer ar symptomau PTSD.
Mae astudiaeth Prifysgol Abertawe yn cynnwys 16 aelod o grŵp cymunedol Veterans RV Abertawe sy’n byw gyda PTSD ac sy'n cymryd rhan mewn sesiynau trochi a nofio dŵr oer ym Mae Caswell, Penrhyn Gŵyr.
Meddai'r prif ymchwilydd Dr Denise Hill, Athro Cysylltiol Seicoleg Chwaraeon Cymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe: "Gydag o leiaf wyth y cant o gyn-filwyr yn cael diagnosis o PTSD yn flynyddol, mae'r cyflwr yn creu heriau economaidd, personol a chymdeithasol sylweddol. Er bod astudiaethau eraill wedi amlygu buddion therapi dŵr oer, mae ein hastudiaeth ni yn ceisio sefydlu a all trochi dŵr oer rheolaidd leihau symptomau PTSD yn benodol, ac ymddwyn fel atchwanegyn hygyrch a derbyniol i driniaethau iechyd meddwl traddodiadol."
Cyn y cyfnod arsylwi, dechreuodd cyfranogwyr gasglu samplau poer bedair gwaith y diwrnod dros ddau ddiwrnod i fesur lefelau cortisol – sy’n ddangosydd straen.
Ar ôl pob sesiwn trochi dŵr oer wythnosol, mae'r cyfranogwyr yn cwblhau tri holiadur ôl-drochi sy'n asesu eu lefelau lles, iselder a symptomau PTSD.
Trwy gydol yr astudiaeth, mae cyfranogwyr yn ailadrodd y broses samplu poer ar yr adegau penodol i olrhain newidiadau yn y lefelau cortisol a symptomau cyffredinol.
Dengys canfyddiadau cychwynnol yr astudiaeth fod trochi dŵr oer yn cael effaith gadarnhaol ar nifer o symptomau PTSD ar draws y grŵp o gyfranogwyr.
Meddai Phil Jones, Cyn-gomando y Llynges Frenhinol sy'n cymryd rhan yn yr astudiaeth: "Am flynyddoedd rydw i wedi ymarfer trochi dŵr oer i gynorthwyo fy iechyd meddwl a lles cyffredinol, felly roeddwn yn gyffrous iawn i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon ochr yn ochr â'r grŵp o gyn-filwyr rwy'n eu cefnogi.
"Fy nod yn y pendraw oedd helpu mwy o gyn-filwyr sy'n cael trafferth â PTSD, ac mae wedi bod yn wych cael profiad blaenllaw o’r buddion ymarferol a meddyliol mae'r ymarfer hwn wedi’u cael ar y rhai a oedd yn newydd iddo. Nawr, yn fwy nag erioed, rwy'n awyddus i weld canlyniadau terfynol yr astudiaeth, ac rydw i wir yn gobeithio bod yr ymchwil hon yn paratoi'r ffordd ar gyfer ffyrdd newydd, effeithiol o gefnogi miloedd o gyn-filwyr ar draws y byd.
Ychwanegodd Dr Hill: "Mae'r astudiaeth hon yn cynrychioli'r cam cyntaf pwysig i ddeall a all trochi dŵr oer fod yn therapi cyflenwol ar gyfer cyn-filwyr sydd â diagnosis o PTSD. Os yw'n llwyddiannus, dylai'r canfyddiadau baratoi'r ffordd ar gyfer ymchwil bellach, ac os tybir bod trochi dŵr oer yn effeithiol, gallai arwain at ddatblygu llwybrau triniaeth newydd, hygyrch i'r rhai sydd â'r cyflwr.
"O ystyried hygyrchedd ac apêl trochi dŵr oer ymysg cyn-filwyr, gobeithiwn y bydd ein hymchwil yn darparu gwybodaeth werthfawr am ei botensial fel opsiwn therapiwtig."