Pedwar person mewn siwtiau gwlyb yn gwisgo offer plymio a masgiau snorlcio yn nofio allan i'r môr. Mae cychod ar y gorwel a bryn yn y pellter.

Llun: © Greg Armfield, WWF UK.

Mae Prifysgol Abertawe yn lansio'r radd MSc gyntaf yn y byd mewn Adfer Morol. Bydd hyn yn arfogi graddedigion â'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i fynd i'r afael ag un o heriau amgylcheddol mwyaf ein hoes ni - adfer ecosystemau cefnforoedd.

Mae'r rhaglen 12 mis unigryw a chyffrous o'r enw 'Meistr mewn adfer a chadwraeth morol', sy'n dechrau ym mis Medi 2025, yn canolbwyntio ar arfogi gwyddonwyr morol y dyfodol â'r sgiliau craidd y bydd eu hangen arnynt ar gyfer gyrfa wrth ailadeiladu ein cefnforoedd ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Mae lleoliad arfordirol y brifysgol yn labordy adfer byw perffaith i'r myfyrwyr a bydd llong ymchwil y brifysgol, y Mary Anning , yn dod â'u dysgu yn fyw. Bydd myfyrwyr hefyd yn defnyddio cyfleusterau ymchwil dyfrol mwyaf Ewrop i ddatblygu sgiliau hwsmonaeth forol ac ymchwil gymhwysol ar draws rhywogaethau sy'n sensitif i gadwraeth a rhywogaethau masnachol bwysig. Bydd y rhaglen MSc yn cael ei harwain gan wyddonwyr morol o Brifysgol Abertawe sydd ar flaen y gad o ran adfer morol. Mae hyn yn cynnwys gwyddonwyr sy'n arwain un o raglenni adfer morwellt mwyaf Ewrop, i sefydlu cynlluniau adfer mangrofau yng Ngorllewin Affrica. Mae hyn yn gwella gwydnwch arfordirol a datblygu strategaethau rheoli traethau i amddiffyn rhywogaethau sydd dan fygythiad gan newid yn yr hinsawdd. Mae'r arbenigedd rhyngwladol mewn cadwraeth forol yn yr adran yn cryfhau cynnig sylweddol y rhaglen meistr hon i fyfyrwyr. 

Meddai Pennaeth Adran y Biowyddorau, yr Athro Luca Borger: "Mae'r rhaglen MSc hon wedi'i chynllunio i fynd i'r afael ag angen byd-eang am adfer ecosystemau, yn enwedig cynefinoedd cefnfor, fel y pwysleisiwyd gan "Ddegawd Adfer Ecosystemau" y Cenhedloedd Unedig. Mae'n cyd-fynd â fframweithiau rhyngwladol a chynlluniau adfer a chadwraeth morol Llywodraethau Cymru a'r DU, gan gynnig rhagolygon gyrfa addawol i raddedigion."

Meddai Cyfarwyddwr y rhaglen Meistr Adfer a Chadwraeth Morol, Dr Aisling Devine: "Mae ailadeiladu bywyd morol yn her fyd-eang sylweddol, ond mae adfer morol yn ennill tyniant trwy newidiadau polisi, cyllid a buddsoddiadau corfforaethol. Er gwaethaf ei dwf, mae'r maes yn wynebu heriau technegol ac adnoddau, ac mae angen hanfodol am weithwyr proffesiynol medrus. Bydd y rhaglen meistr gyntaf hwn yn y byd mewn adfer a chadwraeth morol yn helpu i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau ac yn darparu graddedigion hyfforddedig ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiant gwyrdd sy'n dod i'r amlwg."

Meddai Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle: "Nid yw adfer bywyd yn ein cefnforoedd erioed wedi bod mor argyfyngus, ac ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn falch o lansio rhaglen meistr gyntaf y byd mewn Adfer a Chadwraeth Morol. Mae'r cwrs arloesol hwn yn tynnu ar arbenigedd rhyngddisgyblaethol ein Prifysgol, gan ddod ag ymchwilwyr blaenllaw ynghyd mewn bioleg forol, y gyfraith, peirianneg a gwyddor amgylcheddol. Fel arweinydd byd-eang mewn ymchwil adfer morol, credwn mai nawr yw'r amser i arfogi'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr gyda'r wybodaeth a'r sgiliau i adfywio a diogelu ein cefnforoedd."    

Darganfyddwch fwy am yr MSc Adfer a Chadwraeth Forol,  ym Mhrifysgol Abertawe. 

Rhannu'r stori