Llun grŵp o rai o'r bobl a ddaeth i Symposiwm Technegwyr Prifysgol Abertawe 2024.

Mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn Gwobr Effaith Ymrwymiad y Technegwyr i gydnabod y cynnydd a wnaed yn erbyn ei phroses hunanasesu a'i chynllun gweithredu dros y tair blynedd diwethaf.

Mae Ymrwymiad y Technegwyr yn fenter rhwng prifysgolion a sefydliadau ymchwil, a gynhelir gan Sefydliad Sgiliau a Strategaeth Dechnegol y DU (UKITSS), sydd â’r nod o sicrhau gwelededd, cydnabyddiaeth, datblygiad gyrfa a chynaliadwyedd gyrfaoedd technegol.

Ynglŷn â chenhadaeth Abertawe i feithrin profiad technegwyr yn y Brifysgol, meddai Bwrdd Llywio UKITSS: "Mae'n gadarnhaol gweld bod 'llais y technegydd' wedi bod wrth wraidd y broses hunanasesu a datblygu'r cynllun gweithredu newydd, a bod amrywiaeth o safbwyntiau wedi'u ceisio.   Ar y cyfan, mae hwn yn gynllun gweithredu uchelgeisiol iawn gyda'r potensial i wneud gwahaniaeth go iawn i'r gymuned dechnegol."

Meddai Ruth Bunting, Cadeirydd Grŵp Llywio Ymrwymiad Technegwyr Prifysgol Abertawe: "Mae'r wobr hon yn ganlyniad uniongyrchol i waith caled y grwpiau hynny yn y Brifysgol sy'n ymroddedig yn gyfan gwbl i greu amgylchedd bywiog a chefnogol lle gall pob technegydd ffynnu.  Byddwn yn parhau i alinio ein cynlluniau ag anghenion newidiol ein cymuned dechnegol amrywiol.'   

Disgwylir i'r 'Wobr am Effaith' gael ei chyflwyno i gynrychiolwyr o gymuned technegwyr Prifysgol Abertawe yn y digwyddiad blynyddol nesaf i lofnodwyr Ymrwymiad y Technegwyr yn Belfast ar 14 Mai.

Dysgwch fwy am Ymrwymiad y Technegwyr ym Mhrifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori