Golwg agos ar ddwylo'n teipio ar liniadur. Gwelir logo Vodafone ar y wal goch yn y cefndir.

Mae Prifysgol Abertawe a Vodafone wedi datblygu eu cydweithrediad ymhellach drwy lofnodi cytundeb cydweithredu newydd a thrwy brydlesu swyddfeydd yn Sefydliad Gwyddor Bywyd arloesol y Brifysgol.  

Mae'r carreg filltir ddiweddaraf hon yn adeiladu ar eu partneriaeth wreiddiol a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2023, sydd eisoes yn creu buddion sylweddol ar gyfer Dinas-Ranbarth Bae Abertawe.

Bydd Dinas-Ranbarth Bae Abertawe yn elwa o fuddsoddiad sylweddol gwerth £29 miliwn, a gyflymir gan berthynas sy'n tyfu rhwng Vodafone a Phrifysgol Abertawe. Mae cyswllt uniongyrchol rhwng y cydweithrediad hwn a'r gwaith arloesol sy'n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Abertawe, gan sefydlu'r ardal fel hyb ar gyfer trawsnewid digidol a datblygu rhanbarthol.  Disgwylir y bydd y bartneriaeth yn cynnig cyfleoedd cyffrous i fusnesau lleol, darparwyr gofal iechyd a'r gymuned ehangach. 

Fel rhan o'r weledigaeth hirdymor, mae'n bosibl y bydd Vodafone yn defnyddio llawr uchaf adeilad modern Prifysgol Abertawe yn Lôn Sgeti pan gaiff ei agor yn 2026. Rhennir uchelgais i feithrin cydweithio ar draws y byd academaidd, byd diwydiant ac ar y cyd â rhanddeiliaid lleol, gan sbarduno datblygiadau mewn iechyd, technoleg a mentergarwch. 

Mae'r cytundeb parhaus yn cynnwys gwaith Vodafone ar y cyd â Phrifysgol Abertawe i fynd i'r afael ag eithrio digidol drwy ddarparu 3,000 o gardiau SIM y bydd y Brifysgol yn eu rhoi i bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig yn yr ardal leol.  Mae'r cwmni hefyd yn bwriadu cydweithio ag academyddion a byrddau iechyd lleol ar ymchwil feddygol arloesol, gan sefydlu'r rhanbarth fel arweinydd yn y maes.

Mae Vodafone hefyd yn ymrwymedig i ddyfnhau perthnasoedd gyda byrddau iechyd lleol a busnesau bach drwy Rwydwaith Cenedlaethol y Brifysgol ar gyfer Arloesi mewn Chwaraeon ac Iechyd. Drwy gydweithio â'r Rhwydwaith, nod y cwmni yw datgloi cyfleoedd newydd ar gyfer arloesi a thwf, gan gefnogi'r ecosystemau iechyd digidol a busnes yn y rhanbarth. 

Dywedodd yr Athro Keith Lloyd, Cyfarwyddwr y Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Arloesi mewn Chwaraeon ac Iechyd:

"Mae ein partneriaeth gyda Vodafone yn enghraifft o sut gall y byd academaidd a byd diwydiant gydweithio i gael effaith drawsnewidiol. Yn ogystal â chyflymu buddsoddiad yn Ninas-Ranbarth Bae Abertawe, mae'r cydweithrediad hwn hefyd yn creu ecosystem fywiog sy'n denu busnesau ac yn cefnogi datblygu rhanbarthol. Rydym yn falch o fod yn gweithio ochr yn ochr â Vodafone i sbarduno arloesedd sydd o fudd i'r gymuned a thu hwnt."

Ychwanegodd Claire Harris, Pennaeth Busnesau Bach, Canolig a Mentergarwch yn Vodafone: 

"Rydym yn edrych ymlaen at ehangu ein cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe. Gyda'n gilydd rydym yn buddsoddi mewn ymchwil ac arloesi sy'n torri tir newydd yn ogystal â dyfodol y rhanbarth. Drwy feithrin cysylltiadau cryf â byrddau iechyd lleol, busnesau a'r gymuned ehangach, ein nod yw creu effaith gadarnhaol barhaol ar dirwedd economaidd a thechnoleg y rhanbarth."

Bydd y swyddfeydd newydd yn denu busnesau newydd i'r ardal, gan atgyfnerthu ymhellach enw da Abertawe fel dinas ddynamig a blaengar. Wrth i'r cydweithrediad ddatblygu, disgwylir y bydd yn darparu buddion economaidd a chymdeithasol sylweddol, gan wella apêl y rhanbarth fel cyrchfan ar gyfer arloesi a buddsoddi.

Rhannu'r stori