Mae Prifysgol Abertawe'n paratoi ar gyfer Varsity Cymru a fydd yn dychwelyd ddydd Mercher 9 Ebrill yn Stadiwm Principality Caerdydd, gyda chefnogaeth hael noddwyr allweddol Compass Group, Mitie, UK Flooring Direct a Graham.
Mae Varsity Cymru yn ddathliad wythnos o hyd o chwaraeon myfyrwyr, gan ddod â chystadleuwyr o Brifysgolion Abertawe a Chaerdydd ynghyd mewn mwy na 50 o chwaraeon gan gynnwys rygbi, hoci, pêl-rwyd, pêl-droed, nofio, cleddyfaeth a mwy.
Bydd rhaglen llawn bwrlwm eleni'n dod i'w huchafbwynt gyda gemau rygbi'r dynion a'r menywod rydym yn edrych ymlaen atynt yn fawr, y ddau yn cael eu chwarae dan oleuadau Stadiwm Principality.
Bellach wedi'i sefydlu fel ail ddigwyddiad Varisty mwyaf y DU, y tu ôl i Varsity enwog Rhydychen yn erbyn Caergrawnt, mae Varsity Cymru yn parhau i ddenu miloedd o fyfyrwyr a chefnogwyr mewn arddangosiad bywiog o chwaraeon, balchder ac ysbryd prifysgol.
Cefnogir digwyddiad eleni gan bedwar noddwr allweddol Compas Group, Mitie, UK Flooring Direct a Graham - y mae eu cefnogaeth hael yn chwarae rôl allweddol wrth ddarparu profiad ansawdd uchel i fyfyrwyr a chefnogwyr.
Meddai Sarah Clifford, Pennaeth Gwasanaethau Masnachol Prifysgol Abertawe: "Varsity Cymru yw un o ddigwyddiadau mwyaf cyffrous yng nghalendr chwaraeon y brifysgol, ac edrychwn ymlaen at ei weld yn denu cefnogaeth anhygoel gan fyfyrwyr, staff a'r gymuned ehangach. Ni fyddai digwyddiad eleni'n bosib heb gefnogaeth ein noddwyr gwych, y mae eu cefnogaeth yn ein helpu i dynnu sylw at chwaraeon myfyrwyr ar ei orau. Mae bob amser yn foment falch yn gweld ein timau'n dod at ei gilydd i gynrychioli Abertawe gyda chymaint o egni, ymrwymiad ac ysbryd."
Ychwanegodd James Jordan, Cyfarwyddwr Contractau Compass Group yn y DU ac Iwerddon, ym Mhrifysgol Abertawe:
“Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o'r digwyddiad anhygoel hwn. Mae ein partneriaeth agos â thîm Prifysgol Abertawe yn ein galluogi i greu profiadau bwyd, diod a lletygarwch cofiadwy sy'n cyfoethogi profiad y myfyrwyr. Gan fod hwn bellach yn ddigwyddiad rheolaidd yng nghalendr cymdeithasol y myfyrwyr, dyma'r cyfle perffaith i ddangos ein cefnogaeth i dîm Prifysgol Abertawe.”
Noddwyr Allweddol:
- Compas Group - Arweinydd mewn gwasanaeth bwyd ac atebion arlwyo, sy’n ymrwymedig i hyrwyddo lles myfyrwyr drwy opsiynau bwyd maethlon a chynaliadwy.
- Mitie - Cwmni rheoli cyfleusterau a gwasanaethau proffesiynol, sy’n sicrhau profiad digwyddiad diogel a chyfforddus i bawb.
- UK Flooring Direct - Un o gyflenwyr lloriau o ansawdd blaenllaw'r DU, sy’n cefnogi'r digwyddiad â balchder ac yn hyrwyddo eu hangerdd am arloesedd mewn dylunio.
- Graham - Cwmni adeiladu a rheoli cyfleusterau blaenllaw sy'n ymroddedig i gyflwyno rhagoriaeth drwy arloesedd a chynaliadwyedd, sy’n cefnogi Varsity Cymru a'i ymrwymiad i chwaraeon myfyrwyr.
Mae Caerdydd yn meddu ar Darian a Chwpan Varsity Cymru ar ôl eu buddugoliaethau yn 2024, a bydd Abertawe'n edrych i adennill y fuddugoliaeth ar dir y gelyn fis Ebrill hwn.